Pont Plas-y-nant

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Rheilffordd Eryri, sef olynydd Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru, yn croesi Afon Gwyrfai dros Bont Plas-y-nant a gafodd ei henwi ar ôl tŷ mawr cyfagos ar lan ddwyreiniol Afon Gwyrfai. Dyma lle mae'r rheilffordd yn gadael tir Uwchgwyrfai am Isgwyrfai.

Codwyd y bont yn wreiddiol tua 1878, ac fe'i gwnaed o drawstiau haearn bwrw. Bu'n segur rhwng 1937 a dechrau'r ganrif bresennol, nes i'r trac gael ei ailosod drosti hi. Ar ôl ystyriaeth o'i chyflwr, penderfynodd y cwmni rheilffordd nad oedd hi'n ddiogel ac fe'i hailadeiladwyd i'r patrwm gwreiddiol, gan ei hagor yn 2021.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Gwybodaeth bersonol