Garmon Sant

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Sant Garmon yw nawddsant Eglwys Betws Garmon sy'n sefyll dafliad carreg o ffin Uwchgwyrfai yn Nyffryn Gwyrfai. Fo hefyd sydd yn cael ei gyplysu â Ffynnon Garmon ar lethrau dwyreiniol Moel Smytho. Nid oes sicrwydd, fodd bynnag, pwy oedd Garmon. Yr unig gyfeiriad cynnar ato mewn llenyddiaeth yw hwnnw yn Rhyfeddodau Ynys Brydain ac Ynys Fôn gan y Sais o fynach, Nennius, sy'n honni iddo ddarllen stori Garmon mewn llyfr oedd ganddo, Llyfr y Gwynfydedig Garmon. Adroddir yn hwnnw fod Garmon wedi gwrthwynebu'r Brenin Gwrtheyrn oherwydd i'r brenin hwnnw wahodd y Saeson i Ynys Prydain.[1] Ysywaeth mae'r llyfr, os oedd yn bodoli, wedi hen ddiflannu.

Roedd hi'n arferol ystyried bod enw Garmon yn Gymreigiad o enw Sant Germaine neu Germanus, esgob Auxerre yn y 5g. a ddaeth i Brydain i wrthwynebu heresi Pelagaidd. Er y byddai'n rhesymol i feddwl bod sant mor amlwg yn mynd i ddenu dilynwyr a gysegrai eglwysi yn ei enw, y mae Syr Ifor Williams yn dweud nad yw'n hawdd yn ieithyddol i Germanus droi'n Garmon. Mae Syr Ifor yn amau efallai mai sant Celtaidd o Lydaw, Iwerddon neu Ynys Manaw oedd Garmon yr eglwysi Cymreig, gyda'i ganolfan, efallai, yn Saint Harmon, Sir Faesyfed.Gellid yn deg felly ystyried Garmon yn sant Celtaidd yr enwyd nifer o eglwysi ar ei ôl, ond heb fod unrhyw gofnod arall o'i fywyd ar gael.[2]

Efallai yr unig beth y gellir ei ddweud gydag unrhyw fath o sicrwydd felly yw bod y Garmon a goffhéir ym Metws Garmon yn sant o'r 5ed neu'r 6ed ganrif.

Fodd bynnag, yn ei gyfrol Buchedd Garmon Sant, a gyhoeddwyd yn 2008, mae Howard Huws yn bendant o'r farn, a hynny ar sail ffynonellau niferus, mai Garmon, a gysegrwyd yn Esgob Auxerre yn 418, oedd y Garmon Sant y cysylltir ei enw â nifer o eglwysi a ffynhonnau yng Nghymru, gan gynnwys Betws Garmon yn Nyffryn Gwyrfai. Yn ei lyfr mae Howard Huws yn ymdrin â'r ddogfen Ladin Buchedd Garmon Sant (sef hanes ei fywyd), a ysgrifennwyd tua 475-480OC, yn ogystal â chysylltiadau Garmon â saint cynnar eraill fel Bleiddian, Briog, Dewi a Phadrig. Ceir ganddo bennod hefyd ar gysylltiadau Garmon â mannau yng Nghymru, Llydaw, Cernyw, Manaw, Iwerddon, Lloegr a thir mawr Ewrop, ac ymdriniaeth â'r cyfeiriadau at Garmon yng ngweithiau'r beirdd Cymreig, yn arbennig cywyddwyr y bymthegfed ganrif a'r unfed ganrif ar bymtheg. Mae'r gyfrol yma, gyda'i throednodiadau manwl a'i llyfryddiaeth helaeth, yn fwynglawdd o wybodaeth i'r sawl a fyn wybod mwy am Garmon Sant.[3]

Cyfeiriadau

  1. Syr Ifor Williams, Hen Chwedlau, yn Nhrafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, 1946-7, t.38
  2. E.G. Bowen, Saints, Settlements and Seaways, (Caerdydd, 1977), t.67
  3. Howard Huws, Buchedd Garmon Sant, Llyfrau Llafar Gwlad 71, (Gwasg Carreg Gwalch, 2008).