Chwarel Cwellyn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Chwarel lechi aflwyddiannus oedd Chwarel Cwellyn, ar lan orllewinol Llyn Cwellyn, ar gyrion mwyaf dwyreiniol Uwchgwyrfai. (SH 570533).

Er bod posibilrwydd mai dyma chwarel hynaf ardal Dyffryn Gwyrfai, nid oes tystiolaeth bendant cyn 1860, pan oedd partneriaeth o Edward Humphreys, John Lloyd a William Jones yn gyfrifol amdani. Roedd y chwarel ar dir oedd yn rhan o ystâd Cwellyn. Yn dilyn adroddiadau ffafriol am botensial y chwarel, ffurfiwyd Cwmni Chwarel Lechi Cwellyn Cyf. (Quellyn Slate Quarry Co. Ltd.) ym 1863 gan fuddsoddwyr o ardal Halifax, Swydd Efrog. John Lloyd oedd y rheolwr lleol. Ym 1870, aeth y cwmni i'r wal, ac er bod rhywfaint o sôn am y lle yn y 1870au, daeth chwarelu i ben yn fuan wedyn.

Roedd gan y chwarel un twll gyda dwy lefel. Mae'r rhan fwyaf o'r tipiau wedi eu defnyddio i adeiladu ffyrdd. Roedd swyddfa'r chwarel yn dal i sefyll am flynyddoedd, ac yn cael ei ddefnyddio fel siop tan y 1930au.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Gwynfor Pierce Jones ac Alun John Richards, Cwm Gwyrfai, (Llanrwst, 2004), tt.110-14.