Capel-y-bryn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Capel-y-bryn yw'r enw ar dreflan fach a dyfodd tua throad yr 20g. o gwmpas hen gapel o'r enw Capel y Bryn (MC) ar y ffordd isaf rhwng Carmel a Rhosgadfan, lle mae'r ffyrdd o gyfeiriad Maestryfan a Ffynnon Wen ac o gyfeiriad Bwlch-y-llyn yn cyfarfod. Casgliad o dai'n unig sydd yno rwan, ond bu'n bentrefan gyda'i siop a'i gapel ei hun ar un adeg.

Dichon i'r capel - ac felly'r dreflan - gael yr enw o fod nid nepell o orsaf Bryngwyn, neu efallai o dyddyn Bryn Llety gerllaw.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma