Capel y Bryn (MC)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Codwyd Capel y Bryn gan y Methodistiaid yn gynnar yn yr 20g. - nid yw map Ordnans 1899 na Hanes Methodistiaid Arfon (hyd diwedd 1900) gan William Hobley yn sôn am gapel, er ei fod ar fap 1919. Mae'n hollol sicr mai mam-gapel Capel y Bryn oedd Capel Carmel (MC) sydd llai na milltir i ffwrdd, ym mhentref Carmel ei hun. Fe'i agorwyd, beth bynnag, ym 1906, ac yn y Gymdeithasfa:

hysbysodd y Parch. H. M. Pugh fod capel y Bryn, gerllaw Carmel, wedi ei agor, a bod golwg addawol iawn ar yr Ysgol Sul a'r moddion eraill yno. Pasiwyd ein bod fel C.M. yn datgan ein llawenydd mwyaf fod y symudiad yma wedi ei weithio allan mor hapus a llwyddianus, gyda'r teimladau goreu ar ran y fam eglwys yn Carmel.[1]

Dichon felly na chafwyd yr un amheuon ynglŷn â hyfywdra cael dau gapel mor agos at ei gilydd ag a gafwyd yn achos Capel Glan-rhyd (MC), Llanwnda ychydig flynyddoedd ynghynt. Rhaid cofio, wrth gwrs, bod Diwygiad 1903-04 wedi codi yn y cyfamser, ac yn ddiamau roedd y fflam enwadol ac efengylaidd yn llosgi'n bur lachar pan oedd y cynlluniau ar gyfer Capel y Bryn yn mynd rhagddynt.

Roedd ardal wrth ochr ddeuheuol inclein i'r chwareli o orsaf y Bryngwyn yn datblygu gydag ambell i res o dai a thyddynod yn cael eu codi yno tua throad y ganrif.

Oes fer oedd i'r capel fel addoldy, fodd bynnag, ac fe'i gaewyd ar ol rhyw hanner canrif o ddefnydd. mae'n dal i sefyll (fel tŷ ers blynyuddoedd) tua hanner milltir i'r gogledd o bentref Carmel.

Ni ddylid cymysgu rhwng Capel y Bryn ac Eglwys y Bryn, sef yr enw a ddewiswyd ar yr achos ym mhentref Y Groeslon pan unwyd achosion Capel Brynrhos (MC), Y Groeslon a Chapel Bryn'rodyn.

 Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Y Goleuad, 23.1.1907. t.13