Antur Aelhaearn
Ganwyd Antur Aelhaearn o’r frwydr i gadw Ysgol Gynradd Llanaelhaearn yn agored. Ym mis Medi 1970 daeth Carl Clowes yn feddyg teulu ifanc i bentref Llanaelhaearn. Ar yr un pryd roedd pentrefi cefn gwlad yn wynebu yr un problemau, sef lleihad yn nifer disgyblion mewn ysgolion cynradd am fod rhy ychydig o bobl ifanc yn ymgartrefu yn yr ardaloedd. Credid fod dau reswm am hyn: diffyg gwaith lleol a chyflenwad annigonol o dai.
Wedi ystyried hyn sylweddolwyd mai brwydr fechan a enillwyd drwy gadw’r ysgol yn agored. Penderfynwyd sefydlu cymdeithas newydd i gymryd yr awenau oddi ar y Gymdeithas Rieni gan barhau ei hymdrechion. Enw’r gymdeithas newydd oedd Cymdeithas y Pentrefwyr. Ei hamcan oedd ceisio datrys y problemau a wynebai’r pentref ac yn fwy na dim ceisio sicrhau fod yr ardal yn fwy deniadol i bobl ifanc aros a setlo yno.
Rhai o’r problemau yn wynebu’r Gymdeithas newydd oedd tai haf, rheolau’r Pwyllgor Cynllunio a derbyniad teledu. Yn ystod y cyfnod yma buddugoliaeth arall oedd llwyddo i gael rheithor newydd i Eglwys Sant Aelhaearn, Llanaelhaearn. Tua diwedd 1974 roedd rheithor y plwyf, y Parchedig William Roberts, yn ymddeol. Er nad oedd y gobaith o gael offeiriad i blwyf tenau ei boblogaeth yn fawr, llwyddwyd i ddenu diddordeb curad Caernarfon, y Parch. Idris Thomas, a oedd yn enedigol o Ddinorwig, yn y fywoliaeth, a bu yma hyd ei ymddeoliad.
Yn anffodus oddeutu'r un adeg daeth y newydd fod Capel y Babell yn colli’r Parch. Goronwy Prys Owen gan ei fod wedi derbyn galwad i fod yn weinidog eglwys Heol y Dŵr yng Nghaerfyrddin; ac nid oedd gan aelodau Capel y Babell y modd ariannol i benodi olynydd iddo.
Ym 1973 rhaid oedd rhoi sylw unwaith eto i broblemau’r ysgol. Dros gyfnod o flynyddoedd roedd ysgol Llanaelhaearn wedi wynebu nid yn unig leihad yn nifer ei disgyblion ond hefyd ddirywiad enbyd yng nghyflwr yr adeilad. Ni wariwyd nemor ddim ar baent ers blynyddoedd. Roedd Tŷ’r Ysgol nid yn unig yn wag ond mewn cyflwr drwg. Cyfyngwyd ar ddalgylch yr ysgol ers rhai blynyddoedd a gyrrwyd disgyblion oedd yn byw ar ymylon y ddalgylch i ysgolion cyfagos. Pan ymddeolodd y brifathrawes ym 1974, bwriad y Pwyllgor Addysg oedd peidio â hysbysebu’r swydd. Gohiriwyd hysbysebu swydd y prifathro sawl tro yn y gorffennol ac wedyn rhoi'r swydd i un a oedd yn ymddeol o fewn ychydig. Hynny yw, roedd cynlluniau ar y gweill i gau’r ysgol, a hynny lawer blwyddyn cyn gwneud unrhyw benderfyniad cyhoeddus. Unwaith yn rhagor, pan oedd Miss Williams, y brifathrawes, am ymddeol ym 1974, y bwriad oedd peidio â hysbysebu’r swydd. Mynnai Cymdeithas y Pentrefwyr y dylid ei hysbysebu ac ar ôl cryn berswâd, fe wnaed hynny; ymgeisiodd tri deg chwech am y swydd, a phenodwyd John Roberts yn brifathro Ysgol Llanaelhaearn.
Rhwng 1931 a 1971 bu lleihad difrifol ym mhoblogaeth y plwyf. • 1931 – 1,654 • 1951 – 1,323 • 1961 – 1,242 • 1971 – 1,059 Mae dirywiad o’r fath yn effeithio ar wasanaethau’r ardal, fel cynnal siopau, y gwasanaeth bysiau, yr orsaf heddlu leol, meddyg, nyrs, rheithor a gweinidog. Dibynna’r rhain i gyd yn y pen draw ar boblogaeth, a rhaid cynnal honno ar lefel arbennig i’w cyfiawnhau. Yn gynnar ym 1973 teimlai rhai o’r pentref nad oedd Cymdeithas y Pentrefwyr yn gwneud llawer o wahaniaeth (er iddynt lythyru’n aml â'r awdurdodau lleol) i wir broblemau’r pentref, sef tai a gwaith, ac ni chymerai’r cyngor plwyf ddiddordeb yn y meysydd hyn gan eu bod y tu hwnt i’w gyfrifoldebau.
Roedd gan Carl Clowes brofiad o ymweld â Beanntrai yng ngorllewin Corc yn Iwerddon, a chan bod ganddo ddiddordeb erioed yn niwylliant y wlad honno, treuliodd ddiwrnod ar Òilean Cleire, ynys tua wyth milltir o Baltimor yn ne orllewin Corc. Yno roedd yr ynyswyr yn ceisio gwneud rhywbeth i helpu eu hunain, fel gwerthu cynnyrch yr ynys. Gwelodd Dr Clowes y gallai fod gwers yma i ardalwyr Llanaelhaearn. Ar ôl peth llythyru bu i ddau o Lanaelhaearn ymweld â’r ynys cyn Gŵyl y Pasg 1973, sef Carl Clowes ac Emrys Williams. Buont yno am wythnos. Heb os cawsant eu hysbrydoli gan eu harhosiad ar yr ynys, ac wedi gweld beth y gallai cydweithredu ei gyflawni. Daethant yn ôl a chynnal cyfarfod cyhoeddus yn yr hen Neuadd Goffa ar ôl Gŵyl y Pasg 1973. Dewiswyd wyth o bobl i fod ar Bwyllgor Llywio dan gadeiryddiaeth y Parch. Goronwy Prys Owen. Ar Ionawr 1af 1974, ar ôl naw mis o ymgynghori a thrafod, cofrestrwyd Cymdeithas Gyfeillgar Gyfyngedig a alwyd yn Antur Aelhaearn - mudiad annibynnol ac amhleidiol. Cofrestrwyd ei amcanion yn ffurfiol fel a ganlyn.
Aeth yr Antur o nerth i nerth yn ystod y blynyddoedd canlynol, gan godi adeilad a wasanaethai fel ffatri a chanolfan i gynnal gweithgareddau. Ymysg y gweithgareddau oedd sefydlu gweithdy gwniadwaith a gwau a gyflogai nifer o ferched. Roeddent yn cynhyrchu dillad gwlân o safon uchel, yn cynnwys patrymau Celtaidd mewn llawer achos. Trefnwyd teithiau i'r cyhoedd hefyd i ynysoedd lle ffynnai datblygiadau tebyg i'r Antur - megis i Ynysoedd Aran ym Mae Galway yn Iwerddon, ac i Ynys Barra yn Ynysoedd Heledd yn yr Alban. Daeth yr Antur yn batrwm ac yn ysbrydoliaeth i fudiadau cymdeithasol-economaidd ar draws Prydain a chyhoeddwyd llyfr yn manylu ar ei hanes.
Yn 2014 mabwysiadwyd strategaeth ddatblygu, sef “Tua’r Hanner Cant”, ac mae sawl cynllun ar droed i wireddu’r strategaeth honno, rhai yn adeilad yr Antur, sydd wedi’i addasu’n ddiweddar, a rhai gweithgareddau yn yr ardal ehangach.[1]