Eglwys Sant Aelhaearn, Llanaelhaearn
Eglwys hynafol yw Eglwys Aelhaearn, ym mhentref Llanaelhaearn. Saif yr eglwys groesffurf yn rhan uchaf y pentref ac mae muriau’r corff yn dyddio o’r ddeuddegfed neu’r drydedd ganrif ar ddeg. Mae’r esgyll yn dyddio o'r unfed ganrif ar bymtheg neu ddechrau’r ail ganrif ar bymtheg. Credir mai'r aden ogleddol yw'r un hynaf (yr unfed ganrif ar bymtheg) gyda'r aden ddeheuol yn perthyn i'r ganrif ddilynol. Ehangwyd y gangell ym 1892. Mae’r sgrin, sydd yn gwahanu’r corff a’r gangell, yn cynnwys saith bae a pherthyn hon i’r bymthegfed ganrif, ac felly hefyd dri chwpl sy’n dal to’r corff.
Sefydlwyd yr eglwys gan Aelhaearn Sant, disgybl Beuno Sant a sefydlodd Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr. Mab Hygarfael, uchelwr o Bowys, oedd Aelhaearn ond gwrthododd ef a’i ddau frawd y bywyd milwrol a phenderfynu dilyn Beuno.
Mae arwyddion Cristnogol cynnar ar y safle, megis carreg goffa Aliortus ar fur yr aden ogleddol. Darganfuwyd y garreg hon, y credir iddi gael ei llunio yn y seithfed ganrif, mewn cae ger yr eglwys ym 1865 a'i symud i'w safle presennol. Ar y garreg ceir yr arysgrif, "Aliortus Elmetiacos hic iacet" - sef "Yma y gorwedd Aliortus, un o Elfed". Gan fod hon yn garreg fedd Gristnogol, mae'n amlwg fod Aliortus (sef ffurf Ladin enw Brythonig tebyg i Eiliorth) yn Gristion a'i fod yn dod o Elfed, hen diriogaeth Frythonaidd sydd yn Sir Efrog bresennol. Hawdd tybio ei fod yn bererin pwysig a fu farw ar y daith i Enlli.
Saif carreg goffa Melitus (sy'n perthyn i'r un cyfnod yn fras â charreg Aliortus) yn y fynwent ar y dde i’r llwybr wrth ddod at borth yr eglwys a gwelir un o gerrig y pererinion (carreg a chroes arni), o’r cyfnod rhwng y seithfed a’r nawfed ganrif, ym mur y fynwent. Mae nifer o'r cerrig hyn i'w gweld ar lwybr y pererinion i Enlli, ac mewn mannau eraill yng Nghymru a oedd yn gyrchfan i bererinion. Weithiau dim ond croes syml sydd wedi ei thorri ar y garreg, ond mewn enghreifftiau eraill mae'r groes o fewn cylch wedi'i ysgythru. Gelwid y cylch hwn yn "mesur y dorth" gan yr arferid pobi torthau bychain a oedd yn ffitio o fewn y cylch i'w rhoi i'r pererinion ar eu taith.[1]