Ysgol Gynradd Llanaelhaearn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ysgol addysg gynradd ym mhentref Llanaelhaearn oedd Ysgol Gynradd Llanaelhaearn.

Agorwyd yr ysgol oddeutu 1874, gan wasanaethu'r pentref a oedd yn cynyddu bryd hynny o ganlyniad yn bennaf i ddatblygiad Chwarel yr Eifl gerllaw. Roedd ei dalgylch hefyd yn cynnwys yr ardaloedd amaethyddol cyfagos. Erbyn y 1970au roedd nifer y disgyblion wedi gostwng yn sylweddol ac roedd Cyngor Gwynedd yn daer dros ei chau. Fodd bynnag, cafwyd gwrthwynebiad chwyrn yn y pentref ac, wedi ymdrech fawr, llwyddwyd i achub yr ysgol. Cafodd yr ymgyrch gyhoeddusrwydd drwy Gymru ar y cyfryngau ar y pryd. Yn dilyn hyn llwyddodd yr ysgol i oroesi am bron i hanner canrif arall. Fodd bynnag, gyda niferoedd y disgyblion drachefn wedi gostwng yn fawr, caewyd yr ysgol yn 2020 er gwaethaf protestiadau. Aeth y disgyblion i wahanol ysgolion cynradd cyfagos. Gelwid yr ysgol yn Llanaelhaearn Board School a hefyd yn Llanaelhaearn Council School ar un cyfnod. Mae'r adeilad carreg cadarn a fu'n gartref i'r ysgol yn wag ar hyn o bryd (2022).

Ffynonellau

Llyfrau Log Ysgol Gynradd Llanaelhaearn (Gwasanaeth Archifau Gwynedd) XES1/65 [1874-1953]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma