Capel Babell (MC), Llanaelhaearn
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Codwyd adeilad Capel Babell gan y Methodistiaid Calfinaidd ym 1857, ac ailadeiladwyd yr adeilad ym 1876, ac ychwanegwyd ysgoldy ato ym 1906.[1] Saif ar y lôn sydd yn arwain trwy'r pentref o hen adeilad Tafarn y Rivals heibio'r eglwys. Yn ol Y Bywgraffiadur, Robert Hughes, Uwchlaw'rffynnon gododd y capel gwreidiol ac fe weithredodd fel gweinidog answyddogol gyda'r achos.[2]
Yn 2008 prynwyd yr adeilad gan Antur Aelhaearn er mwyn ei ddefnyddio fel adnodd cymunedol.[3]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma