Cwellyn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:29, 21 Ionawr 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Cwellyn yw enw plasty bach sydd sefyll wrth ben uchaf Llyn Cwellyn. Mae'r llyn, ac hefyd Pont Cwellyn ac Afon Cwellyn yn cymryd eu henwau, mae'n debyg, oddi wrth y plasty sydd bellach yn fferm. Mae Cwellyn yn sefyll yn y darn pellaf o hen blwyf Llanwnda, sydd bellach yn rhan o blwyf Betws Garmon ar gyrion mwyaf dwyreiniol Uwchgwyrfai.

Disgrifiwyd y plasty tua 1810 fel "a very mean building", a oedd wedi bod yn nwylo teulu Cwellyn ond a oedd, erbyn hynny, wedi pasio i berchnogion newydd.[1]

Roedd y teulu a oedd wedi mabwysiadu'r cyfenw Quellyn wedi symud o'r plasty rywbryd yn ystod y 18g, efallai i fferm arall, Cwm Bychan, yn yr un plwyf. Rywbryd cyn 1792, roedd ffermwr o'r enw William Jones wedi cymryd y lle ar brydles. Mae rhestr o'i eiuddo pan farwodd yn dangos ei fod yn ffermwr ar raddfa weddol fawr am y cyfnod[2]. Roedd 5 ystafell yn y tŷ, a'r dodrefn yno'n werth £21.19.0c, ynghyd a gwerth £4.5.0c o fenyn. Roedd yno 100 o ddefaid a 35 o ŵyn, gwerth £36.2.6c i gyd; tarw gwerth £4.3.0c, 10 o fuchod, 10 o fustych, 10 llo blwydd a 9 o loi dwyflwydd, gwerth £108.9.0c; mocyn, gwair, offer fferm a llo arall (a restrwyd ar wahân am ryw rheswm - eiddo oedd yn werth £208.9.0c i gyd. Roedd hyn yn swm nid ansylweddol i ffarmwr ar y pryd.

Mae J.E. Griffith wedi awgrymu, ar ba sail na wyddys, mae ystyr Cwellyn yw Cae-uwch-llyn[3], ond mae Glenda Carr o'r un farn a'r Athro J Lloyd-Jones ei fod yn dalfyriad o'r geiriau cawell a llyn i greu Cawellyn.[4]

Cymerodd y teulu eu cyfenw oddi wrth y lle - un o'r ychydig deuluoedd yn Uwchgwyrfai i wneud hyn (ar wahân i deulu Glynllifon).


Cyfeiriadau

  1. Edmund Hyde-Hall, ‘’A Description of Caernarvonshire’’, (Caernarfon, 1952), t.205.
  2. Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Ewyllysiau Bangor, B/1792/86
  3. J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families, (Horncastle, 1914), t.229
  4. Glenda Carr, Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd, (Caernarfon, 2011), t.130.