Cwellyn
Cwellyn yw enw plasty bach sydd sefyll wrth ben uchaf Llyn Cwellyn. Mae'r llyn, ac hefyd Pont Cwellyn ac Afon Cwellyn yn cymryd eu henwau, mae'n debyg, oddi wrth y plasty sydd bellach yn fferm. Mae Cwellyn yn sefyll yn y darn pellaf o hen blwyf Llanwnda, sydd bellach yn rhan o blwyf Betws Garmon ar gyrion mwyaf dwyreiniol Uwchgwyrfai.
Disgrifiwyd y plasty tua 1810 fel a very mean building, a oedd wedi bod yn nwylo teulu Cwellyn ond a oedd, erbyn hynny, wedi pasio i berchnogion [1]newydd.
Mae J.E. Griffith wedi awgrymu, ar ba sail na wyddys, mae ystyr Cwellyn yw Cae-uwch-llyn[2], ond mae Glenda Carr o'r un farn a'r Athro J Lloyd-Jones ei fod yn dalfyriad o'r geiriau cawell a llyn i greu Cawellyn.[3]
Cymerodd y teulu eu cyfenw oddi wrth y lle - un o'r ychydig deuluoedd yn Uwchgwyrfai i wneud hyn (ar wahân i teulu Glynllifon).