Pontydd Rheilffordd

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 12:16, 11 Ebrill 2019 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Adeiladwyd nifer o bontydd rheilffordd gan y tair prif reilffordd sydd wedi rhedeg yn ystod y ddwy ganrif ddiwethaf yn Uwchgwyrfai, seg Rheilffordd Nantlle, Rheilffordd Sir Gaernarfon a ddaeth wedyn yn rhan o rwydwaith cenedlaethol y rheilffyrdd, a Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru. Ar ôl cau'r rheilffyrdd, mae rhai pontydd wedi eu chwalu gan eu bod yn ffordd rhy ddatblygiad newydd neu oherwydd eu bod yn beryglus, tra bod eraill yn dal i sefyll. Mae Rheilffordd Eryri wedi ailddefnyddio rhai o'r pontydd hyn wrth agor o Gaernarfon i ffin Uwchgwyrfai ger gorsaf Rhyd-ddu. Fel arfer enwyd y pontydd hyn ar ôl fferm neu dŷ cyfagos - megis Pont Cae-moel.

Ceir rhai pontydd dros afonydd a nentydd, a darparwyd pontydd lle roedd y rheilffordd a'r ffordd yn croesi ei gilydd ar lefelau gwahanol, lle'r oedd y lein o gledrau'n rhedeg mewn hafn (cutting) neu ar arglawdd (embankment). Lle roedd y ffordd yn brysur, codwyd argloddiau a phontydd i cario ffyrdd dros y rheilffordd lle roedd maint y drafnidiaeth yn gwneud crosin neu groesfan yn anymarferol. Gwnaed pontydd bach hefyd i hwyluso gwaith ffermwyr ac eraill a oedd â thir y ddwy ochr i'r lein, ac weithiau bontydd bach isel ar gyfer anifeiliaid.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau