Dyffryn Gwyrfai

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:51, 17 Tachwedd 2018 gan Robingoch (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Dyffryn Gwyrfai yw dyffryn Afon Gwyrfai sy'n rhedeg o bentref Rhyd-ddu i gyfeiriad y Gogledd-orllewin nes gyrraedd ei haber yn y Foryd Bach, gan ffurfio ffin traddodiadol plwyf Llanwnda ac yn wir Uwchgwyrfai ei hun yr holl ffordd o darddiad yr afon yn Llyn Dinas i'r môr. Mae ochr dwyreiniol y dyffryn yn rhan o gwmwd Is Gwyrfai, gyda phlwyfi Llanfaglan, Llanbeblig (Treflan a Chastellmai), a Betws Garmon yn cyd-ochri â Llanwnda.

Prif ddiwydiant y dyffryn (ar wahân i amaethu) oedd chwarelu am lechi ar y ddwy ochr, a mwynau megis haearn yn bennaf ar ochr Is Gwyrfai y cwm.[1]

Rhedai (ac erbyn hyn, rhed) reilffordd drac cul, sef Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru, a ail-enwyd fel Rheilffordd Ucheldir Cymru nes iddi gau ym 1937. Ailagorwyd y lein dan enw Rheilffyrdd Eryri fel lein i dwristiaid ym 2001.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


==Cyfeiriadau==
  1. Gwynfor Pierce Jones ac Alun John Richards, Cwm Gwyrfai, (Llanrwst, 2004), passim.