Chwarel y Braich

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 14:53, 7 Tachwedd 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Chwarel lechi ar lethrau Moel Tryfan oedd Chwarel y Braich, ger y Fron.

Agorwyd hi yn y ddeunawfed ganrif, ac yn 1827 arbrofwyd ag ynni gwynt yno er mwyn pwmpio yn chwarel yr Hen Fraich (neu Braich-rhydd). Cafodd ei datblygu yn yr 1870au a defnyddiwyd stêm i weithio'r peiriannau ac i bwmpio ar yr incleins. Am gyfnod byr cyn 1876, Owen Griffith Owen (Alafon) y bardd oedd y prif glerc, cyn iddo fynd i'r weinidogaeth. Am rai blynyddoedd hyd tua 1882, roedd gan y chwarel hon gysylltiad tramffordd â phrif lein Tramffordd John Robinson er mwyn gyrru ei llechi i ffwrdd ar hyd Rheilffordd Nantlle. Wedi hynny, defnyddid Tramffordd y Fron. Roedd y chwarel ar ei hanterth yn 1882 pan gynhyrchwyd 2,600 tunnell yno, a chyflogwyd 124 o ddynion yno.

Roedd wedi cau erbyn 1911, er roedd gwaith ysbeidiol yno hyd y 1930au.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Ffynhonnell

Tomos, Dewi Chwareli Dyffryn Nantlle (Llyfrau Llafar Gwlad, 2007)