Chwarel y Fron
Chwarel lechi oedd Chwarel y Fron ger Mynydd Mawr, y Fron.
Agorwyd hi o bosibl yn y 18g., er i Dr Lindsay ddweud mai tua 1830 y'i agorwyd. Ar ôl cyfnod o segurdod, fe'i hail-agorwyd ym 1860; erbyn 1872 roedd y cynnyrch blynyddol wedi cyrraedd 1500 tunnell. Ym 1882, fe ddatblygwyd hi'n arw pan unwyd hi â chwarel yr Hen Fraich, pan oedd 62 o ddynionyn cael eu cyflogi. gan gynhyrchu dros 1,000 tunnell y flwyddyn. Yn dilyn dirywiad yn yr ugeinfed ganrif, parhaodd i weithredu dan O.J. Hughes a'i fab; ym 1937 7 o ddynion oedd yn gweithio yno, a pharhaodd ar agor ar raddfa fechan hyd y 1950au.[1][2]
Tan 1881, anfonwyd y llechi i lawr inclein Tramffordd John Robinson i gyrraedd Rheilffordd Nantlle. Wedyn, defnyddiwyd Tramffordd y Fron i anfon cynnyrch i lawr Inclein Bryngwyn i gyrraedd Cangen reilffordd Bryngwyn o gwmni Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru.[3]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma