Capel-y-bryn
Capel-y-bryn yw'r enw ar dreflan fach o gwmpas hen gapel o'r enw Capel y Bryn (MC) ar y ffordd isaf rwhng Carmel a Rhosgadfan, lle mae'r ffyrdd o gyfeiriad Maestryfan a Ffynnon Wen ac o gyfeiriad Bwlch-y-llyn yn cyfarfod. Casgliad o dai'n unig sydd yno rwan, ond bu'n bentrefan gyda'i siop a'i gapel ei hun ar un adeg.