Swyddfeydd Post Uwchgwyrfai

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 14:40, 4 Ebrill 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae rhaglen o 'resymoli' nifer 'swyddfeydd post Uwchgwyrfai wedi digwydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a chyn hynny caewyd nifer o sioydd a oedd arfer bopd yn gartref i gownteri swyddfa'r bost. Ar un adeg roedd swyddfa bost ym mhron bob cymuned, fawr a bach, yn y cwmwd. EWREbyn hyn, llond llaw yn unig sy'n aros, ynghyd anifer o safleoedd lle gelwir swyddfa bost deithiol unwaith neu ddwy'r wythnos. Yn awr (2018) ceir swyddfeydd post sefydlog o fewn terfynnau'r cwmwd yn y mannau canlynol yn unig: Trefor, Pen-y-groes, Tal-y-sarn, Dolydd a'r Bontnewydd - yn achos yr olaf o'r rhain, peth newydd yw swyddfa bost yn y Bontnewydd ar ochr Uwchgwyrfai i'r ffin - arferai swyddfa bost fod wrth y cilfan lle mae blwch post hyd heddiw yr ochr arall i'r bont, ac wedyn yn Beuno Stores ar lôn Caeathro. Mae swyddfa bost symudol yn galw mewn saith pentref arall am awr neu ddwy bob wythnos (2018). euno Crewyd y rhestr ganlynol o gymunedau lle caed swyddfeydd post o fapiau Ordnans o 1888 ymlaen:

Plwyf Llanwnda

Llanwnda, ger yr orsaf

Rhostryfan. Erbyn hyn mae fan symudol yn darparu gwasanaeth achlysurol.

Rhosgadfan. Erbyn hyn mae fan symudol yn darparu gwasanaeth achlysurol.


Plwyf Llandwrog

Ffrwd, ar gyfer pentref Llandwrog. Fe'i symudwyd i dŷ ger borth yr eglwys ym mhentref Llandwrog tua 1950.

Y Groeslon. Erbyn hyn gwasanaethir y Groeslon o gownter swyddfa bost yn Siop Dolydd.

Carmel

Bwlch-y-llyn, sef Fron neu Cesarea

Tal-y-sarn Bellach mae gwasanaeth rhan amser yn y Ganolfan Gymdeithasol.

Nantlle

Plwyf Llanllyfni

Pontlyfni

Nasareth Erbyn hyn mae fan symudol yn darparu gwasanaeth achlysurol.

Nebo

Pen-y-groes

Plwyf Clynnog Fawr

Clynnog Fawr Erbyn hyn mae fan symudol yn darparu gwasanaeth achlysurol.

Pantglas Erbyn hyn mae fan symudol yn darparu gwasanaeth achlysurol.

Plwyf Llanaelhaearn

Llanaelhaearn. Erbyn hyn mae fan symudol yn darparu gwasanaeth achlysurol.

Trefor


Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Byddai unrhyw fanylion am swyddfeydd post unigol yn derbyn croeso arbennig dan penawdau'r pentrefi perthnasol.