Griffith Ellis, Cilhaul

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 12:16, 21 Rhagfyr 2023 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

YN DAL I GAEL EI YSGRIFENNU!

Roedd Griffith Ellis (1793 neu 1797-1883) yn ffermio tir Cilhaul, plwyf Llanwnda mor gynnar â 1841, ac yn ôl pob tebyg am gyfnod sylweddol cyn hynny. Ei enw ar dafod laferydd oedd “Guto CIlhaul”. Magodd enw fel swynwr a allai dorri swyn drwg a gwaredu ysbrydion ond wrth farnu oddi wrth yr hanesion amdano, ymddengys ei fod yn un oedd yn deall y natur dynol a thrwy sawl ystryw yn perswadio pobl hygoelus fod ganddo dalentau goruwchnaturiol. Dichon yn wir ei fod yn yr un olyniaeth â Martha'r Mynydd o blwyf cyfagos Llanllyfni yn y ganrif gynt. Roedd ei enwogrwydd yn ymestyn ar draws Sir Fôn a thrwy Eryri – a hyd yn oed Sir Ddinbych. Mae’r Cilhaul cwta bedair milltir o dref Caernarfon, ond eto’n hynod ddiarffordd a dichon mai hyn oedd yn ychwanegu at y darlun o gartref i ddyn a siaradai ag ysbrydion. Ymddengys iddo gael ei eni naill ai ym 1793 (a barnu oddi wrth Cyfrifiadau 1871 ymlaen) neu 1796-7 (yn ôl cyfrifiadau cynharach). Os 1793 yw’r dyddiad cywir, mae’n bosibl iawn mae Griffith mab Ellis Jones ac Ann ei wraig o Gyrnant (sydd ar draws cae o Gilhaul) ydoedd, gan fod cofnod o fedydd hwnnw ar 23 Mehefin 1793 yg ngofrestr Betws Garmon. [1] Mae cofrestr claddedigaethau Eglwys Sant Gwyndaf, Llanwnda yn nodi’n glir mai 90 oed ydoedd pan fu farw ym 1883.[2] Roedd ganddo a’i wraig Catherine, hithau hefyd yn wreiddiol o blwyf Llanwnda ac yn ddwy flynedd yn iau na Griffith, o leiaf un ferch a thri o feibion. Y mab ieuengaf, Griffith Ellis arall, a ddilynoedd ei dad fel ffarmwr Cilhaul. Er ei fod yntau’n cael ei gyfrif yn dipyn o “gymeriad” ac er iddo geisio parhau â gwaith swyno ei dad, nid oedd ei enw na’i lwyddiant cystal â’r hwnnw oedd gan ei dad. Mae hi’n amlwg bod hanes Griffith Ellis yn tanio diddordeb pobl leol, a cheir sawl erthygl sydd yn sôn amdano ar ddechrau’r 20g., rhai ohonynt yn y wasg Americanaidd. Fe’u hatgynhyrchwyd isod, gyda mân gywiriadau i’r sillafu ac ati er mwyn eu gwneud yn haws i’w darllen ond heb, gobeithio, ddifetha naws yr ysgrifennu. Y gwaith mwyaf manwl, a chynharaf, fodd bynnag, yw’r disgrifiad o Griffith Ellis a’i fab Griffith, a gyhoeddwyd ym 1903 gan William Hobley, wrth gyflwyno hanes eglwysi Methodistaidd Dyffryn Gwyrfai, yn sôn am gyflwr ofergoelus ac annuwiol y gymdeithas cyn dyfodiad y Methodistiaid. Ar ôl iddo ymdrin â rhai swynwyr eraill, dyma’r hyn sydd ganddo i’w ddweud am Griffith:

Yr oedd gŵr cyfarwydd neu ddewin yn trigiannu yn y Waunfawr ei hun, sef Griffith Ellis, Cil haul, fawr ei glod.[3] Canys nid dewin yn unig oedd efe, ond meddyg anifail a dyn, a gŵr heb ei fath am ddofi lloerigion. Nid oedd yn feddyg trwyddedig ar ddyn nac anifail; ond llwyddai ef yn fynych wedi methu gan wŷr trwyddedig. Bu lliaws o wallgofiaid dan ei ofal wedi methu gan bawb eraill a’u gwastrodedd. Nid ymddengys ei fod yn ddewin wrth reol a chelfyddyd, a llysieulyfr Culpepper, fe ddywedir, oedd ei lyfr codi cythreuliaid. Yr oedd cip o olwg ar luniau’r llysiau, bellter oddi wrthynt, yng nghynnwrf y meddyliau, yn gwasanaethu yn lle lluniau cythreuliaid. Eithr y mae pob lle i gredu fod greddf y dewin yn eiddo Griffith Ellis. Y mae’n sicr fod rhai aelodau o’r teulu wedi bod yn meddu ar y cyffelyb: sef eu bod yn ymdeimlo â lliaws o bethau cyn digwydd ohonynt, nes gallu yn rhyw fodd eu rhagfynegu, er nad, fe ddichon, gyda holl fanylder Arabella o Ddinbych. Heblaw dawn natur, tynnodd Griffìth Ellis gydnabyddiaeth yn ei ieuenctid ag amryw wŷr cyfarwydd o’r cyfnod hwnnw. A thrwy'r cwbl, llwynog cyfrwys, henffel ydoedd ef ei hun. 
Un lofft hir oedd i’r Cilhaul. Pan fyddai dieithryn yn y tŷ yn adrodd ei helynt, byddai Griffith Ellis ond odid yn y llofft yn gwrando. Yn y man, deuai i mewn i’r gegin, gan sychu chwys ei dalcen â'i law. “O!” ebai fe, yn yr olwg ar y dieithryn, “yr ydych yn dod o’r fan a'r fan. Yr oeddwn yn eich disgwyl ers tridiau!” Yr oedd hanner y frwydr wedi ei hennill eisoes, fynychaf. 
Edrydd Mr. Evan Jones y Garn stori a glywodd yn blentyn gan Griffith Ellis ei hun. Galwodd gŵr o sir Ddinbych unwaith yn y Cilhaul. Gwraig y plas oedd wedi colli ei modrwy briodas. “ Hysbyswch i bawb fy mod yn dod ar y diwrnod a'r diwrnod,” ebe'r dewin. Griffith Ellis yn cyrraedd ar y diwrnod hwnnw, ac yn cerdded yn hamddenol o amgylch y plas. Y forwyn, mewn modd dirgelaidd, yn rhoi y fodrwy yn ei law. “ Na ddwedwch wrth neb,” ebe fe, “ac ni ddwedaf innau.” Griffith Ellis yn gorchymyn paratoi rhyw bedwar neu bump o bytiau toes, ac, wedi cael cyfle, yn eu taflu i hwyaden â marciau neilltuol ar ei hesgyll. Yna yn gorchymyn cau'r hwyaden honno arni ei hun. Y bore nesaf, ebe’r dewin wrth wraig y plas, “Nis medraf wneud dim o'r helynt yma yn amgen na bod y chwiaden a’r marciau duon yna arni wedi llyncu'r fodrwy. 'Does dim i'w wneud ond i hagor hi, ac fe'm siomir yn fawr os nad yw’r fodrwy yn ei bol.” A gwir y dyfalodd! Eithr hen stori ddewinol ydyw hon wedi’r cwbl. Clywodd Griffith Ellis y chwedl, yn ddiau, ac fe ddichon iddo gael cyfle i actio’r cyffelyb ystryw ei hun. 
Edrydd Mr. Evan Jones stori arall ar ei ôl. Archwyd iddo ymweled â gwraig orweddiog ym Môn. Gorchmynnodd ddwyn i'r stafell bedair o gyllyll wedi eu glanhau yn loewon, a chynfas wen lân. A chyda’r pedair cyllell wedi eu dodi yn ddestlus ar y gynfas wen yng ngolwg y wraig, ebe Griffith Ellis, mewn tôn gwynfanllyd, a chan edrych at i lawr ar y wraig yn ei gwely, “ Gresyn! gresyn! fod yn rhaid i hagor hi.” Ar hynny y neidiodd y wraig allan o’i gwely yn holliach! 
Unwaith, fe ddaeth gwraig o Fôn ato gyda chŵyn ynghylch ei mab. Yr ydoedd hwnnw wedi troi ei gefn ar ei hen gariad, a dilyn un newydd. Cyfarfu â’r hen, a bygythiodd honno ei witsio, fel na lyncai damaid fyth ond hynny. Dechreuodd yntau waelu a chymeryd i’w wely, ac yn y man nis medrai lyncu gronyn o fara. Wedi clywed ohono'r manylion, ebe'r dewin,— “Y mae o wedi mynd yn rhy bell i mi wneud dim ohono. Y mae o wedi credu gair y ferch, a mynd yn rhy lwyr dan ei dylanwad. Bydd wedi marw cyn pen nos yfory.,, Ac yn ôl y ddarogan y digwyddodd y peth. Mam y bachgen hwnnw a adroddodd yr hanes wrth Mr. Evan Jones. 
Bu gwraig am ddeng mlynedd mewn iselder meddwl, ar ôl ei siomi mewn serch, ond a ddilynodd gyfarwyddid Griffith Ellis, ac a ymsioncodd ac a ymsiriolodd, a bu am ugain mlynedd heb och na gruddfan. Yna fe ail-gydiodd yr hen anhwyl ynddi, a hi a ddaeth i ymofyn â’r dewin drachefn. Yr ydoedd yn wraig barchus yr olwg arni, ac yn holi’r ffordd am y dewin y gwelwyd hi gan Mr. Evan Jones, ac y clywodd efe ei stori. 
Bu Dafydd Thomas[4] yn ymddiddan â Griffith Ellis yn ei hen ddyddiau ynghylch ei hanes a’i orchestion. Soniai am John Jones, Tyddyn Elen, ŵr cyfarwydd, a dywedai nad oedd mo'i hafal yn y gwledydd fel meddyg dyn ac anifail. Gallai, hefyd, wastrodedd y Tylwyth Teg, canys fe ymddangosai Griffith Ellis yn cwbl gredu ynddynt, ebe Dafydd Thomas. Feallai hynny; ond gallasai Griffith Ellis, ei fab, gymeryd arno cystal â dim actor a sangodd ar ystyllen. Pa ddelw bynnag, fe draethai Griffith Ellis ei fam am y Tylwyth Teg wrth Ddafydd Thomas, mai rhyw fath ar fodau rhwng dynion ac angylion oeddynt. “Nid oes neb yn gweld mohonynt yn awr” ebe Dafydd Thomas, “ Nag oes”' ebe yntau, “ond darllenwch i’r Beibl, chwi gewch weld mai ar ryw adegau neilltuol y byddai rhyw fodau wybrennol yn ymddangos i ddynion ar y ddaear yn yr hen amserau.” 
Yr oedd Griffith Ellis yn gallu gwastrodedd ysbrydion a flinai dai pobl, a chyflawnodd wrhydri yn y ffordd honno, nid yn unig yn y Waunfawr a’r ardaloedd cylchynol, ond hyd berfeddion Eifionydd ac hyd eithaf cyrrau Môn a Dinbych. Ei swynair wrth wastrodedd ysbrydion, neu mewn achosion dyrys gyda dyn neu anifail ydoedd hwnnw, “Rhad-Duw-i-ni” - a seinid ganddo megis un gair, ac yn dra chyflym, a hynny drosodd a throsodd. Yr oedd dylanwad cyfareddol yn nheimlad llawer yn ynganiad y swynair hwnnw. Ni ddaeth Griffith Ellis i gysylltiad mor uniongyrchol â hanes crefydd â Simon y swynwr ac Elymas a meibion Scefa, neu hyd yn oed y ddewines o Endor, eithr, fel hwythau, yr oedd efe yn ddrych o  angen calon dyn yn ei pherthynas â'r anweledig, ac, fel hwythau, yn ddrych o gyflwr ei oes a’i wlad. Y mae ei hanes ef, a rhai cyffelyb iddo, yn gyfrodedd â hanes crefydd, megis y dysg yr ysgrythurau sanctaidd i ni synio. 
Gŵr cryn lawer yn israddol i’w dad ar y cyfan oedd Griffith Ellis y mab, ond gyn hynoted ag yntau mewn rhai cyfeiriadau. Nid yn feddyg dyn nac anifail, fel ei dad, ond, fel yntau, yn gallu gwastrodedd gwallgofiaid yn eithaf deg. Ac er yn fwy anystyriol lawer na’i dad, yr ydoedd yn hafal iddo yng ngrym cynhenid ei feddwl. Rhywbeth anarferol yn ei olwg. O ran ffurf a maintioli’r corff, y pen a’r wyneb, ac hyd yn oed mynegiant y llygaid i fesur, yn swrn debyg i Napoleon fawr. Pan safai gyda’i gefn ar y mur, yn gwrando ar ymddiddan heb gymeryd arno glywed, yr oedd osgo’r corff ac edrychiad y llygaid yn union fel eiddo’r mochyn yn ei gwt, pan glyw sŵn dieithriaid yn dynesu. Meddai ar gyflawnder o eiriau disgrifiadol, a dywediadau ar ddull diarhebion. Yr oedd yn anarferol o ffraeth a chyflym ei ateb. Byddai awch ar ei ymadroddion mewn ymddiddanion cyffredin: ei ddywediadau yn gwta, yn frathog, yn ddisgrifiadol, ac yn fynych yn wawdus a choeglym. Er yn eithafol anystyriol mewn ymddiddan, eto yn fucheddol ei foes, heb lwon na serthedd, ac ymgymeryd yn naturiol â’r meddwl am y byd anweledig. Trigiannodd yn y Bontnewydd yn y rhan olaf o'i oes. 
Daeth rhai aelodau o'r teulu hynod hwn yn ymroddedig i grefydd..... Daeth dau frawd i’r Griffith Ellis olaf dan ddylanwad diwygiad ’59. Ystyrid hwy yn ddynion go anghyffredin. Enghreifftiau oeddynt o’r modd y mae crefydd, ar dymor diwygiad, yn cipio gafael ar ddyn, fel fflam ar babwyren, mewn amgylchiadau a'i gwna yn eithaf annhebyg o deimlo dim o gwbl oddi wrthi ar dymhorau cyffredin.[5]

Isod, dyma gyfres o erthyglau a ysgrifennwyd yn bennaf tua 1916 ac yn bennaf gan rai a symudodd o Ogledd Cymru i Ogledd America. Nid ydynt yn croesddweud yr hyn sydd gan Hobley, ond mae eu hanesion yn wahanol ac yn llenwi’r darlun o Guto Cilhaul:

GRIFFITH ELLIS, CILHAUL. 
Gan O. L. Owens, Arcade, N. Y. 
Diddorol iawn i mi oedd ysgrifau Mr. Ross, Holland Patent, N. Y., ar hen gymeriadau Rhostryfan ymddangosodd dro yn ôl yn y "Drych." Yr oeddwn yn bur gydnabyddus â theulu Cilhaul fel y dywedodd Mr. Ross am Griffith, y mab, mai un rhyfedd iawn oedd. Bydda’n synnu yn ddirfawr at bethau syml. Dywedir byddai bechgyn yr ardal yn cyrchu ato yn aml i ddweud ambell stori wrtho er clywed ei resymau. Byddai ganddo borthladd mawr i gwch pysgota. Y tro cyntaf i mi erioed ei gyfarfod ar fy ffordd i Ysgoldy Bachymynydd, fel y'i gelwid, yr hwn oedd yn agos i Gilhaul. Byddent yn cynnal cyrddau pregethu ac ysgol ynddo ar adegau er mwyn i drigolion y mynydd gael cyfarfodydd yn nes atynt na'r Waunfawr a Rhostryfan. Gofynnodd Guto Bach, fel y gelwid ef, i mi, "I ba le 'rwyt ti yn mynd?" Dywedais wrtho i'r Ysgoldy Bach. "Brenin mawr, dyna beth mor ddiarth â marw mul," ebe yntau. 

Yr oedd Griffith Ellis, tad meibion Cilhaul, yn un o'r meddygon anifeiliaid gorau oedd yn Môn ac Arfon. Os gallai perchennog buwch neu geffyl roddi disgrifiad o'r anhwyldeb i Mr. Ellis, rhoddai gyfarwyddyd sut i'w trin, a pha gyffur i'w defnyddio, a thrwy weithredu yn ôl y cyngor, byddai anifeiliaid anobeithiol yn cael gwellhad.

Yr oedd dau hen lanc yn byw ar fferm yn Cwmdwythwch, yn agos i odre’r Wyddfa, ac yr oedd y ddau yn lled ddiog. Rhaid i'r hen ferch oedd yn forwyn iddynt ofalu am bob peth yn y tŷ ac allan. Ryw ddiwrnod ym min yr hwyr, canfu’r hen lanciau anhwyldeb ar un o'r gwartheg, a dywedasant wrth y forwyn am fyned at Griffith, Ellis, Cilhaul, a rhoes hithau olau yn ei lantern, ac aeth dros y mynydd, ac wedi cyrraedd Cilhaul disgrifiodd afiechyd y fuwch, a dywedodd yr hen ŵr wrthi fod y fuwch mewn cyflwr drwg, a rhoes i lawr ar bapur y cyffur oedd yn eisiau, a dywedodd fod ffynnon yn ochr y Wyddfa a'i dwfr yn rhedeg i'r De, a bod yn rhaid ei gael er bathio’r fuwch am saith diwrnod, a dywedodd wrth y llances, "Mae yr hen lanciau acw yn rhai diog. Dylasai un ohonynt ddod yma ac nid chwi, ac er mwyn eich arbed, dywedwch wrth yr hen lanciau fod yn rhaid i ddyn fyned i gyrchu y dwfr neu ni wnaiff ddim lles." Diolchodd y llances iddo am ei garedigrwydd yn ei harbed hi rhag cludo’r dwfr.

Saif Cilhaul yn nghesail y mynydd rhwng y Waunfawr a Rhostryfan, ac yr oedd llofft uwch ben ystafelloedd y tŷ a grisiau i fyned iddi oddi allan. Yn y pen gogleddol, yr oedd drws y tŷ yn y pen arall a'i fynediad i'r de, a phan ganfyddai Griffith Ellis ddieithriaid yn dyfod at y tŷ, elai yn llechwraidd drwy ddrws y cefn i'r llofft, a byddai ei wraig yn eu holi a hwythau yn dweud eu holl helynt wrthi, a'r hen ŵr yn y llofft yn clywed y cwbl; ac wedyn deuai o'r llofft, ac ai i'r tŷ gan wneud iddynt feddwl ei fod wedi dyfod o ryw daith. Ar ôl iddo gyfarch y dyn neu’r ddynes, dywedai "O Môn 'rydych chwi yn dyfod?" ac adroddai yr hyn glywodd o'r llofft cyn iddynt hwy ddweud eu helynt. Drwy ei gyfrwystra aeth yn boblogaidd yn sir Fôn fel proffwyd. Clywais fy nhaid yn dweud wrthyf yn sir Fôn, pan oeddwn yn fachgen, fod teulu ryw fferm agosaf iddo yn cael eu trwblo yn ddychrynllyd ryw dymor gaeaf yn gynnar yn y ddeunawfed ganrif,[6] ac fod yr ysbryd drwg yn ôl eu tyb hwy yn gwneud pob math o nadau ac ysgrechian a thwrf fel pe buasai’r tŷ yn dyfod i lawr o ddeuddeg o'r gloch yn y nos hyd oriau mân y bore, a dywedasant wrth fy nhaid na allent fyw yn y tŷ yn hwy, a'u bod am werthu eu heiddo ac ymadael o'r ardal. Dywedodd fy nhaid wrth y ffarmwr am fyned i sir Gaernarfon i ymgynghori â Griffith Ellis, Cilhaul, cyn gwerthu ei eiddo, ac aeth y dyn i Gilhaul mor gyflym ag y gallai, a dywedodd wrth Mr. Ellis fod rhyw ddyn annuwiol fu'n byw yno o'i flaen ef yn dod i aflonyddu'r teulu, a bod well ganddynt farw na byw yno. Ebe Mr. Ellis: "Mae'r marw yn ddigon tawel; y byw sydd yn aflonyddu yn eich tŷ chwi. Mi a ddeuaf atoch chwi yn mhen ychydig ddyddiau. Dewch chwithau yn eich cerbyd i fy nghyfarfod at gwch y Borth,[7] a rhoddaf derfyn ar yr aflonyddwch; ond peidiwch â dweud wrth neb i chwi ddod i fy ngweled i, na fy mod i yn dyfod atoch, ar un cyfrif.

Yn ôl ei addewid, aeth Mr. Ellis i gyfarfod â'r dyn, yn ôl dymuniad Mr. Ellis, a chyraeddasant lle ar ôl i olau’r dydd gilio. Ar ôl ymddiddan, aeth y teulu i orffwys, ac aeth yr hen Gilhaul i ymguddio i un o'r ystafelloedd, lle y byddai’r bwgan yn gwneud twrf. Yn fuan ar ôl i'r cloc daro un, clywai Mr. Ellis ffenestr yn agor yn ddistaw a rhywun yn dod drwyddi a thaflu hen gadeiriau ar draws eu gilydd ac ysgrechian a neidio a chicio’r dodrefn, a goleuodd yr hen Gilhaul ei gannwyll, a gwelai ddyn lled fychan wedi dychryn fel na allai ddweud gair.

Pan ddeallodd pobl y tŷ fod yr ysbryd drwg wedi ei ddal, daethant i'r llofft i'w weled, a gwnaethant ei adnabod. Yr oedd efe yn byw mewn fferm fechan ddwy filltir o'r tŷ lle’r oedd yn aflonyddu. Gofynnodd gŵr y tŷ iddo beth oedd yr achos iddo ymddwyn fel y gwnaeth, a dywedodd fod ei wraig yn ei gymell i wneud pob peth er dychryn y teulu er mwyn iddynt ymadael o'r lle fel y gallai efe gael y fferm.

Aeth sôn am Griffith Ellis ar ôl hyn drwy’r holl sir, a byddai’n cael gwahoddiad i setlo materion cyffelyb yn aml, ond yr oedd rhai pobl yn Môn yn credu

   Fod agoriadau nerthol 
   Y nef a'r ffwrn uffernol 
   Yn crogi wrth ei wregys ef 
   Fel pe bai'n hollwybodol.[8]

Dilynwyd yr erthygl hon gan ymateb gan un arall a oedd yn gyfarwydd â’r ardal cyn ymfudo i America, W.W. Ross

GRIFFITH ELLIS, CILHAUL. 
Gan W. W. Ross, Holland Patent, N. Y. 
Ychydig amser yn ôl, gwelais ysgrif o eiddo O. L. Owens, Arcade, N. Y., ac yn yr ysgrif yr oedd yn datgan y mwynhad oedd wedi ei gael wrth ddarllen yr ysgrif a anfonais i'r "Drych" ychydig cyn hyn, o dan y pennawd "Guto Cilhaul." Dywed Mr. Owens yn ei ysgrif y cymerai rai colofnau o'r "Drych" i ddweud hanesion digrifol am Guto Ellis, ac y mae hynny’n wir. Gellid llenwi colofnau, pe bae amser a gofod yn caniatáu. Cefais bleser mawr wrth ddarllen ysgrif O. L. O. am yr hen frawd yn Bontnewydd ac isel ysbryd arno, a'r modd y cafodd ei iacháu gan Griffith Ellis, Cilhaul. Nid wyf yn gwybod y rheswm am roi yr enw Cilhaul ar y fferm yma, ond gwn mai ychydig iawn o belydrau’r haul fydd yn disgleirio ar y tŷ, trwy ei fod yn sefyll mewn pant o le cysgodol. Saif Cilhaul ar lechwedd y mynydd, ac ychydig o dan y tŷ mae Afon Saint,[9] neu fel y gelwir hi yn y gymdogaeth yn Afon Cyrnant, ac hefyd y rheilffordd gul (narrow gauge railway) sydd yn rhedeg o orsaf Dinas i fyny i Beddgelert. Rhyw led cae yn uwch na'r tŷ y mae’r ffordd sydd yn arwain o Waunfawr i Rhostryfan, ac ychydig yn uwch y mae Ysgoldy'r Mynydd, am yr hon y sonia O. L. Owens yn ei ysgrif. Y tro cyntaf i mi fod yn Cilhaul oedd adeg angladd (pe bae yn angladd hefyd) un o'r enw Hugh Pugh, a chofiaf byth am yr adeg. Y rheswm i mi fynd yno y pryd hwnnw oedd i fy mrawd, Sam Ross, yr hwn oedd yn gwasanaethu yno ar y pryd, ofyn i mi fynd yno i'w helpu hyd ar ôl claddu Hugh Pugh. Byddai Hugh Pugh yn cysgu mewn adeilad ar wahân i'r tŷ, a phan ddywedodd fy mrawd wrth Guto Ellis fod Hugh Pugh wedi marw, aethant yno, a chariwyd y corff i'r tŷ, ac wrth ei gario, dywedodd Guto: "Wel, wel, yr hen Hugh Pugh druan: mae o mor farw â mul, yn tydi o, hogia." Drannoeth fe ddaeth y saer yno gyda'r arch, a  gofynnodd am help i ro’r corff yn yr arch, ac aeth Guto yno. Wedi gorffen, edrychodd Guto i'r arch ar y corff, a dywedodd, "Wel, dywadd mawr, dyna chdi, yr hen frawd annwyl, yr wyt ti fel tasa ti mewn nyth dryw yna." Yr oedd hen gymeriad hynod arall yn aros yn Cil Haul o'r enw John Griffith, a diamau gennyf mai diddorol iawn fyddai ysgrif o hanes y troeon digrifol fu rhwng John Griffith a Guto Ellis. Yr wyf yn cofio un brawd a addawodd briodi un o'r enw Mary Morris, ond rhyw fodd neu’i gilydd, mae’n debyg iddo edifarhau, a thynnu ei addewid yn ôl, ac iddo briodi un arall, ac fe gynghorwyd Mary Morris gan ei chyfeillesau i fynd at Griffith Ellis, Cilhaul, trwy ei fod, meddent hwy, yn gallu witchio. Felly y bu, a phan oedd hi yn ymyl Cilhaul, dihangodd Griffith Ellis i'r llofft uwch ben y gegin. Yna dechreuodd yr hen wraig holi Mary Morris yn y gegin, tra yr oedd Griffith Ellis yn gwrando uwch ben yn y llofft. Dywedodd Mary wrth yr hen wraig fod dyn tal, pryd golau wedi addo ei phriodi, ac iddo briodi un arall, a'i bod wedi clywed fod Mr. Ellis yn gallu witchio, ac y leiciai i'r dyn hwnnw gael tâl am ei siomi. Wedi iddi ddweud yr holl hanes wrth yr hen wraig, aeth Griffith Ellis allan yn dawel trwy’r rhan uchaf o'r tŷ, ac i fewn i'r gegin a'i het ar ei goryn, a'i ffon yn ei law, fel pe byddai wedi cerdded deg milltir. Yna dechreuodd Mary ddweud ei neges wrtho yntau, ond cyn iddi gael amser i ddweud dim bron, gofynnodd Griffith Ellis am weld ei llaw ddeheu, ac wedi edrych ar honno am ryw bum munud, dywedodd wrthi ei fod yn deall oddi wrth ei llaw ei bod mewn trwbl, ac ail adroddodd wrthi yr holl hanes oedd hi wedi ei ddweud, fel pe gwyddai amdano ei hun, nes yr oedd Mary Morris wedi ei syfrdanu. Yna ychwanegai Cilhaul, "Mi fydd y dyn yna yn edifarhau o heddiw hyd ddiwedd ei oes." Credodd Mary ar unwaith fod y witch wedi ei hanfon, ac mae hyn wedi creu y syniad fod Griffith Ellis, Cilhaul, yn gallu witshio. Clywais i’r brawd yn dweud wrthyf lawer gwaith, pan y byddai y dannodd neu ychydig o anwyd arno “Dyna witch Mary a’r hen Gilhaul, fachgen.”

W.W. Ross, Holland Patent, N.Y. [10]

Cafwyd mwy o hanes Guto Cilhaul yn y man, eto yn Y Drych:

GRIFFITH ELLIS, CILHAUL. 
Gan O. L. Owens, Arcade, N. Y. 

Yn y "Drych" Ebrill 19, gwelais ysgrif gan W. W. Ross, Holland Patent, N. Y., am yr hen gymeriad hynod Griffith Ellis, Cilhaul, a'i fab Griffith. Cefais gryn bleser wrth ddarllen yr ysgrif.

Yr wyf yn cofio am un tro i mi fyned i Cilhaul ar fore Saboth cyn myned i'r oedfa yn yr Ysgoldy, a gofynodd Griffith, y mab, i mi ddod gydag ef i'r beudy i weled buwch oedd newydd ei phrynu, a chododd rhyw greadur i fyny o'r gwair oedd yn y bing wrth bennau’r gwartheg, efe wedi troi yno y nos ar ei ffordd o Gaernarfon, gan ei fod yn rhy feddw i gyrraedd ei gartref. Edrychodd Griffith arno, a dywedodd, "Dyma Cornelius Agrippa, a mab y wawrddydd," a dywedodd wrtho fod yn gywilydd iddo fod yn feddw ar ddydd yr Arglwydd, a chario chwisgi yn ei logell, a dywedodd y gŵr meddw mai dyn duwiol oedd efe, a soniodd am Etholedigaeth, a phynciau diwinyddol. "Wel, Brenin mawr," ebe Guto Ellis, "'rwyt mor santaidd â pe dasat ti newydd ddisgyn o'r nef." Ar ôl iddo fyned i ffordd," ebe ef, "yr oedd y mwnci yna fel dasa fo yn mhorth y nefoedd. 'Rydach chi yn dipyn o brydydd, beth ydach yn feddwl ohono?" Digwyddodd y geiriau hyn ddod i fy meddwl:

   Duwioldeb y dyn meddw 
      Hynod mor brin yw hwnw, 
   Trwst mawr am grefydd, heb ei grym, 
      Fel taran, a dim ond twrw. 

Synnodd Guto yn fawr, a chwarddodd a dywedai "Dyna ddigon am hwnna am fil o flynyddoedd."

Fel y dywedodd Mr. Ross yr oedd llawer yn credu y gallasai Griffith Ellis godi a gostwng y cythreuliaid a witchio. Meddyliodd un am roddi prawf ar ei allu, ond trwy fygythion yr hen Gilhaul aeth ei gynllun yn fethiant. Byddai Griffith Ellis yn gwerthu cig ym marchnad Caernarfon bob Sadwrn. Pan oedd efe yn dyfod o'r farchnad un tro, ar alwad gŵr tŷ tafarn Bontnewydd, aeth i fewn gyda rhan o'r cig, ac yr oedd ganddo bar o esgidiau newydd yn y cerbyd, ac arferai gadw gwyliadwriaeth fanwl ar bob peth o'i eiddo. Ni fu ond ryw ddau funud yn y dafarn, a chanfyddodd nad oedd yr esgidiau yn y cerbyd, a gan oedd ond un gŵr ar yr heol ar [y pryd] a Griffith Ellis yn ei adnabod, [roedd yn] debyg ei fod yn credu mai [hwnnw] a gymerodd yr esgidiau er na ddywedodd hynny wrth neb.[11] Safodd yr Gilhaul ar ganol yr heol, a gwaeddodd â llef uchel fod un o ladron pennaf Bontnewydd wedi dwyn esgidiau o'r cerbyd, ac y gwyddai yn dda pwy ydoedd y lleidr, a'i fod yn byw rhwng y tŷ tafarn a thŷ Abram Jones, y gwerthwr glo, ac y gallai fyned at y lleidr a chymryd yr esgidiau, a'i gosbi hyd eithaf y gyfraith, ond ni wnai hynny, gan ei fod yn well ganddo ei wneud yn esiampl i holl garnladron y sir, a dywedai y byddai i ddeg o gythreuliaid y noson honno ei lusgo yn noeth o'i wely, a'i osod ar y clawdd o flaen y tŷ tafarn, ac y deuai corwynt mawr o'r Gogledd, a'i chwythu i fyny bum milltir i'r awyr, ac y byddai yn dod i lawr fel man us, ac na thyfai na phorfa na dim arall ar y tir y disgynnai am dymor o bum mlynedd. "Ond gwybydded pawb," ebe efe, "na ddigwydd hynny, o achos bydd yr esgidiau wrth ddrws Cilhaul cyn y cyfyd yr haul bore yfory, a chanfyddwyd yr esgidiau yn rhwym wrth glicied drws Cilhaul fore drannoeth gan y forwyn. Yr oedd llawenydd mawr yn y Bontnewydd, a chan berchennog y cae, fod yr hen Gilhaul wedi dychrynu’r lleidr gymaint fel na feiddiai ddwyn yn rhagor.[12]

Roedd Carneddog, gohebydd cyson i’r wasg yng Nghymru, yn gyfarwydd â hanesion am Guto hefyd:

GRIFFITH ELLIS, CILHAUL, A'I FAB GRIFFITH. Mae llawer wedi ei ysgrifennu am y ddau gymeriad hynod, ddau swynwr rhyfedd, Griffith Ellis, Cilhaul, Waunfawr, a'i fab Griffith. Ceir y disgrifiad gorau ohonynt gan y Parch W. Hobley yn ei ail lyfr ar Fethodistiaeth Arfon — Dosbarth Gaernarfon; Ardaloedd y Waunfawr, Beddgelert, etc. Hefyd, bu W.W. Ross, Holland Patent, N .Y., ac O. L. Owens, Arcade, N.Y., yn ysgrifennu eu hatgofion amdanynt yn ddifyr odiaeth yn rhai o rifynnau’r "Drych" yn lled ddiweddar. [13]

Ceir hanes arall am dalentau honedig Griffith Ellis gan W.E. Powell (Gwilym Eryri), sydd yn adrodd sut y plagiwyd teulu Hafod Lwyfog, Nant Gwynant, gan fwgan a fyddai’n creu helynt o bob math yn y tŷ. Gwahoddwyd nifer o swynwyr honedig a hyd yn oed Ficer Beddgelert i geisio gael gwared ohono, ond i ddim effaith. O’r diwedd fe alwyd am Griffith Ellis. Meddai Gwilym Eryri:

O'r diwedd anfonwyd am yr hen Griffith Ellis, Cilhaul, a bu hwnnw yn arfer dewiniaeth nes daliwyd y bwgan yng nghas y cloc. Trywanwyd ef gyda fforc yn ei lygaid. Wedi hynny cafwyd allan i sicrwydd mai ysbryd rhyw hen feudan oedd yn byw heb fod yn bell iawn o'r nant brydferth honno[sef Nant Gwynant] oedd. Fel hyn yr ymlidiwyd y bwgan hwnnw o'r Hafod am byth. Mae yr hanes yn ddigon gwir ac yr oedd pethau felly yn cymeryd lle yng Nghymru yn fynych.[14]

Mae’n amlwg bod pobl leol hygoelus wedi derbyn esboniad Griffith Ellis am natur y bwgan, ond dichon mai rhywun a oedd am ddial ar y teulu oedd y bwgan, gan mai fforc yn ei lygad a fu’n ddiwedd ar yr helynt! Mae hanes Hafod Lwyfog yn ddigon tebyg ei naws i’r hanes o Sir Fôn.

Cyfeiriadau

  1. Archifdy Caernarfon, Cofrestr bedyddiadau Betws Garmon
  2. Cyfrifiadau plwyf Llanwnda, 1841-1881; Archifdy Caernarfon, Cofrestr claddedigaethau plwyf Llanwnda
  3. Er mai ym mhlwyf Llanwnda y mae Cilhaul, ystyriai pobl leol ei fod yn rhan o’r Waunfawr, gan mai i’r ardal honno y byddai pobl glannau de-orllewinol Afon Gwyrfai yn mynd i’r capel ac ati.
  4. Dafydd Thomas, ganed 1820 yn y Waunfawr, i deulu a oedd wedi byw yno ers bron i ganrif. Ysgrifennodd llyfrau nodiadau llawn hanes lleol a oedd ar gael i William Hobley.
  5. W. Hobley, ‘’Hanes Methodistiaeth Arfon’’, Cyf. II (Caernarfon, 1913), tt.14-17
  6. Mae’n amlwg mai’r hyn y bwriadwyd ei feddwl oedd y 1800au
  7. Mae hyn yn golygu fferi Moel-y-don mwy na thebyg, oni bai i’r achos digwydd cyn agor Pont Menai ym 1826
  8. Y Drych 16.11.1916 t.2
  9. Mae cof William Ross wedi pylu rhywfaint yma. Afon Gwyrfai sy’n llifo o dan Cilhaul. Mae’r Saint yn y dyffryn nesaf i’r gogledd
  10. Y Drych, 19.4.1917, tt.1-2
  11. Mae diffyg yn y copi a ffilmiwyd o’r papur newydd. Ceisiwyd llenwi’r bylchau yn y frawddeg hon.
  12. Y Drych 12.7.1917 t.2
  13. Carneddog yn Yr Herald Cymraeg 4.12.1917 t.3
  14. Caernarvon and Denbigh Herald, 11.12.1917, t4