Swyddfeydd Post Uwchgwyrfai

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 18:12, 24 Gorffennaf 2022 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Hen swyddfa bost Y Groeslon, llun Eirian Evans

Mae rhaglen o 'resymoli' nifer swyddfeydd post Uwchgwyrfai wedi digwydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a chyn hynny caewyd nifer o siopau a oedd arfer bod yn gartref i gownteri swyddfa bost. Ar un adeg roedd swyddfa bost ym mron bob cymuned, fawr a bach, yn y cwmwd. Erbyn hyn, llond llaw yn unig sy'n aros, ynghyd â nifer o safleoedd lle mae swyddfa bost deithiol yn galw unwaith neu ddwy'r wythnos. Yn awr (2018) ceir swyddfeydd post sefydlog o fewn terfynau'r cwmwd yn y mannau canlynol yn unig: Trefor, Pen-y-groes, Tal-y-sarn, Dolydd a'r Bontnewydd - yn achos yr olaf o'r rhain, peth newydd yw swyddfa bost yn Y Bontnewydd ar ochr Uwchgwyrfai i'r ffin - arferai swyddfa bost fod wrth y gilfan lle mae blwch post hyd heddiw yr ochr arall i'r bont, ac wedyn yn Beuno Stores ar lôn Caeathro. Mae swyddfa bost symudol yn galw mewn saith pentref arall am awr neu ddwy bob wythnos (2018).

Yr oedd y cyfeiriad mewn rhannau o'r cwmwd, yn cynnwys enw pentref Y Groeslon neu Ben-y-groes, yn cael ei ddilyn gan y llythrennau RSO. Roedd RSO yn sefyll am railway sub office, neu (yn ôl rhai, er yn anghywir), railway sorting office. Cariwyd y bagiau o bost ar y rheilffordd yn syth i orsaf Y Groeslon neu Pen-y-groes yn lle bod y llythyrau'n mynd i'r brif swyddfa ddidoli leol yng Nghaernarfon yn gyntaf. Arbedai hyn hyd at ddiwrnod i'r post ar ei daith. Diddymwyd yr arfer swyddogol o nodi'r llythrennau RSO ar ôl 1905, er bod llawer o bobl yn dal i'w harddel am flynyddoedd wedyn.[1]

Crewyd y rhestr ganlynol o gymunedau lle caed swyddfeydd post ar sail mapiau Ordnans o 1888 ymlaen:

Plwyf Llanwnda

Llanwnda, ger yr orsaf

Rhostryfan. Erbyn hyn mae fan symudol yn darparu gwasanaeth achlysurol.

Rhosgadfan. Erbyn hyn mae fan symudol yn darparu gwasanaeth achlysurol.


Plwyf Llandwrog

Ffrwd, ar gyfer pentref Llandwrog. Fe'i symudwyd i dŷ ger porth yr eglwys ym mhentref Llandwrog tua 1950.

Y Groeslon. Erbyn hyn gwasanaethir Y Groeslon o gownter swyddfa bost yn Siop Dolydd.

Carmel

Bwlch-y-llyn, sef Fron neu Cesarea

Tal-y-sarn Bellach mae gwasanaeth rhan-amser yn y Ganolfan Gymdeithasol.

Nantlle

Plwyf Llanllyfni

Llanllyfni

Pontlyfni

Nasareth Erbyn hyn mae fan symudol yn darparu gwasanaeth achlysurol.

Nebo

Pen-y-groes

Plwyf Clynnog Fawr

Clynnog Fawr Erbyn hyn mae fan symudol yn darparu gwasanaeth achlysurol.

Pant-glas Erbyn hyn mae fan symudol yn darparu gwasanaeth achlysurol.

Plwyf Llanaelhaearn

Llanaelhaearn. Erbyn hyn mae fan symudol yn darparu gwasanaeth achlysurol.

Trefor


Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Byddai unrhyw fanylion am swyddfeydd post unigol yn derbyn croeso arbennig dan benawdau'r pentrefi perthnasol.

Cyfeiriadau