Griffith Lewis

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 13:40, 31 Ionawr 2022 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Griffith Lewis (1834-?1911) yn llyfrwerthwr, argraffydd a llyfr-rwymwr ym Mhen-y-groes.

Ganed Griffith Lewis ym 1834. Mab fferm Cwellyn ydoedd, yn fab i William Lewis (ganed 1795) ac Ellen (neu Elinor, ganed 1809). Ganed y tad yn Llanfrothen a’r fam ym mhlwyf Llanwnda. Er bod Cwellyn yn gorwedd o fewn ffiniau hen blwyf Llanwnda a oedd, yr adeg honno, yn ymestyn i ben uchaf Dyffryn Gwyrfai, fe’i bedyddiwyd 27 Ebrill y flwyddyn honno yn eglwys plwyf Betws Garmon, yr ochr arall i Afon Gwyrfai ond yn nes o lawer at Gwellyn.[1] Erbyn 1841, roedd y teulu wedi symud i Ryd-ddu, a’r tad wedi rhoi’r gorau i ffermio ac wedi derbyn gwaith yn y mwynfeydd copr lleol. Symud bu hanes y teulu eto, fodd bynnag, ac ym 1851, Bwlch y Gylfin oedd eu cartref – y tad yn parhau’n fwynwr, a Griffith, yn 17 oed erbyn hynny, yn fwynwr hefyd. Ysywaeth, mae’n ymddangos na chofnodwyd Griffith Lewis yng Nghyfrifiad 1861, er bod gweddill y teulu’n dal i fyw ym Mwlch y Gylfin. [2]

Yn ôl pob tebyg, sefydlodd Griffith ei fusnes fel gwerthwr papur ysgrifennu a llyfrwerthwr ym 1863, a hynny ym mhentref Pen-y-groes, pentref oedd ar ei dyfiant mwyaf fel canolfan Dyffryn Nantlle yr adeg honno. Ceir ei hanes yng Nghyfrifiad 1871 ym Mhen-y-groes, yn byw yn un o dai neu siopau “Lower Penygroes”. Fe’i disgrifir yn y ddogfen honno fel “stationer”. Yn byw gydag ef oedd ei wraig, Elizabeth, wyth mlynedd yn iau nag ef, hithau o blwyf Llanllyfni. Mae’n debyg iddynt briodi ym 1864. Roedd eu tri phlentyn, Griffith, Margret a William hefyd wedi eu geni ym mhlwyf Llanllyfni, ac yn ôl pob tebyg felly ym Mhen-y-groes ei hun. Ddeng mlynedd yn ddiweddarach, ym 1881, mae ei gyfeiriad yn cael ei ddisgrifio’n gliriach, sef 5 Rhes Glandŵr. Bellach yr oedd dwy ferch ychwanegol yn y teulu, sef Elen Jane a Lizzie. Erbyn 1881, fe’i disgrifiwyd fel llyfr-rwymwr. Yn byw gyda’r teulu oedd brawd iau Griffith, sef William Lewis, 40 oed, ac yntau hefyd yn cael ei ddisgrifio fel llyfr-rwymwr – arwydd efallai fod y busnes yn cynyddu. Erbyn 1891, y cyfeiriad a roddir yw 4 Heol y Dŵr, ac fe ddisgrifir Griffith fel llyfrwerthwr a gwerthwr papur ysgrifennu (“stationer”). Yr oedd ganddo fab arall erbyn hynny hefyd, sef David, a aned ym 1884. Yng Nghyfrifiad 1901, fe welir fod y teulu wedi symud i 20, Heol y Dŵr. Disgrifir David fel prentis argraffydd, a’i dad fel llyfr-rwymwr. Serch y gwahaniaethau dros y blynyddoedd yn nisgrifiad galwedigaeth Griffith, mae’n debyg mai cyflawni’r holl waith ynglŷn ag argraffu, rhwymo a gwerthu llyfrau a deunyddiau ysgrifennu a wnâi.[3]

Hysbyseb yn Seren Gomer, 2 Medi 1871

Ymysg ei gyhoeddiadau, y ddau lyfr enwocaf o ddigon – ac efallai’r unig ddau a ddefnyddir hyd heddiw - oedd dwy gyfrol o ddiddordeb hanesyddol. Y cyntaf o’r ddwy gyfrol hyn oedd Nant Nantlle gan Maeldaf Hen, sef y Parch. W.R. Ambrose, a gyhoeddwyd ym 1872. Mae nodyn argraffydd neu goloffon y gyfrol yn ei ddisgrifio fel argraffydd, llyfrwerthydd &c, Pen-y-groes, a gyhoeddwyd wedi i Griffith hel digon o danysgrifiadau amdani. Yr ail gyfrol nodedig oedd y casgliad o lythyrau pobl enwog gan Myrddin Fardd, Adgof Uwch Anghof, a gyhoeddwyd ym 1883, gyda Griffith yn cael ei ddisgrifio fel argraffydd a chyhoeddwr.[4] Rywbryd ar ôl iddo symud i Ben-y-groes mi ddaeth Griffith Lewis yn flaenor yng Nghapel Bethel, capel y Methodistiaid Calfinaidd yno – ac yn wir ysgrifennodd draethawd am hanes yr achos a ddefnyddiwyd yn helaeth gan William Hobley yn ei lyfr ar hanes yr enwad yn Arfon.[5] Bu hefyd yn cymryd rôl gynyddol yn y gymdeithas leol, yn ysgrifennydd eisteddfodau, ac yn ysgrifennydd cymdeithas adeiladu newydd y dyffryn.

O ran gwleidyddiaeth, yr oedd yn weithgar dros y Rhyddfrydwyr yn lleol, gan ysgrifennu ar faterion etholiadol at John Bryn Roberts, yr aelod seneddol Rhyddfrydol o 1885 ymlaen. Erbyn hynny yr oedd yn defnyddio’r enw “Eryri House” ar gyfer ei siop a chartref y teulu. Yn rhai o’i lythyrau, mae o’n defnyddio’r enw “Griffith D. Lewis”, ond nid oes cyfeiriad arall wedi dod yn amlwg yn esbonio beth oedd “D” yn sefyll amdano.[6]

Ond ysywaeth, 1885 oedd uchafbwynt ei lwyddiant a’r safle cymdeithasol yn y dyffryn. Yn fuan byddai elfen arall o weithgaredd Griffith Lewis yn dod i’r golwg. I bob ymddangosiad, roedd ei fusnes yn un llewyrchus ac yr oedd ei gwsmeriaid (yn enwedig ei gyd-aelodau Calfinaidd) yn dod o bob cwr o’r sir. Ond nid oedd popeth fel yr ymddangosai, ac yr oedd wedi mynd i drybini oherwydd ei swydd ychwanegol fel ysgrifennydd y gymdeithas adeiladu.

Roedd Griffith wedi ei benodi’n ysgrifennydd Cymdeithas Adeiladu Dyffryn Nantlle pan ffurfiwyd y gymdeithas honno ym 1876. Fe ymddengys nad oedd trefniadau cyfrifo’r gymdeithas yn gadarn iawn, a chaniateid i bobl dalu unrhyw arian a oedd yn ddyledus i’r ysgrifennydd yn ogystal ag i’r trysorydd, ac oherwydd hyn, gwelodd Griffith gyfle i symud arian yn ôl ac ymlaen rhwng y gymdeithas a’i fusnes, er mwyn (mae’n debyg) osgoi problemau byr-dymor llif arian gan y naill na’r llall. Rhaid iddo wybod nad oedd hyn yn dderbyniol gan iddo fod yn ofalus na fyddai cyfrifon y Gymdeithas yn dangos hyn. Daeth i’r amlwg fod pethau wedi mynd o ddrwg i waeth pan gafwyd dirwasgiad ariannol yn y farchnad dai ym 1879, ond ceir awgrym yn yr adroddiadau papur newydd fod ymddiriedolwyr y Gymdeithas yn fodlon i Griffith Lewis geisio adfer y sefyllfa ariannol. Aeth pethau o ddrwg i waeth fodd bynnag, gan iddo geisio adennill y colledion trwy brynu deg o dai heb orffen eu hadeiladu, gyda’r bwriad o’u gwneud yn ddiddos, ac wedyn yn eu hail-werthu – ond methwyd â chael hyd i brynwyr. Daeth yr holl dwyll yn amlwg pan ddarganfu’r archwilwyr ddiffygion ac olion twyll yn y cyfrifon. Wedi cryn helynt, gwelodd Griffith Lewis nad oedd ganddo ddim dewis ond wynebu canlyniadau ei weithredoedd neu ffoi, a ffoi a wnaeth, fel y gwelir isod, gan gymryd nifer o docynnau trên i guddio manylion ei siwrne.

Syfrdanwyd yr ardal pan ddiflannodd yn sydyn fis Mai 1886; ymddangosodd yr hanes canlynol ym mhapur ‘’Y Celt’’:

YSGRIFENYDD CYMDEITHAS ADEILADU AR GOLL. Taenir chwedlau o bob math am ymadawiad Mr Griffith Lewis, Argraffydd a Llyfr-rwymydd, Penygroes, ger Caernarfon, ond ychydjg o sail a ddylid roddi arnynt hyd nes y ceir sicrwydd penodol ac awdurdodedig. Fodd bynag, haerir i Griffith Lewis ymadael o Benygroes gyda'r gerbydres foreu Sadwrn, yr 22ain cynfisol, gan godi return ticket i Bwllheli. Yn hytrach na myned i'r lle olaf a enwyd, cymerodd return ticket i Borthmadog, or hwn Ie, fe hysbysir, yr aeth ymlaen i Trallwm. Nid oes wybodaeth eto pa faint yw yr holl ddiffygion, ond sicrheir eu bod o 1200p i 1500p. Mae yr amgylchiad wedi creu teimlad mawr yn ardal Penygroes, gan fod Griffith Lewis yn dal safle barchus a chyfrifol yn y lle, ac yn dra adnabyddus trwy'r holl sir (ar gyfrif eangder ei fasnach fel llyfrwerthydd, &c., yn enwedig yn mhlith y Methodistiaid Calfinaidd gyda y rhai yr oedd yn ddiacon).[7]

Ond nid yn y Trallwng y gorffennodd ei siwrne. Aeth yn ei flaen i Lundain; ac wedi cyrraedd Llundain, teithiodd i Fryste a chael lle ar long a oedd ar fin hwylio am Ganada. Rywsut, cyrhaeddodd y newyddion ei fod wedi cyrraedd Québec, anfonwyd gwarant at yr awdurdodau yno i’w arestio, a dyna a wnaed ganol mis Mai. Anfonwyd un o blismyn Heddlu Sir Gaernarfon draw i’w gyrchu’n ôl i Gymru, lle cafodd ei garcharu’n syth i aros ei brawf.[8] Yn y man fe’i traddodwyd i sefyll ei brawf ym Mrawdlys Caer fis Hydref. I bob ymddangosiad roedd o mewn sioc ac yn ofni’r gwaethaf, ond plediodd yn euog yn syth i’r cyhuddiadau yn ei erbyn – er, yn wir, prin y byddai fo wedi medru cynnig unrhyw dystiolaeth i’r gwrthwyneb. Cafodd ei ofnau eu gwireddu hefyd; fel sy’n dod yn amlwg wrth ddarllen hanes ei brawf, prin y dangosodd y barnwr unrhyw gydymdeimlad na thrugaredd wrth ei ddedfrydu. Roedd yr hanes yn llenwi’r papurau newydd ar draws Cymru a thu hwnt, ac mae’n werth darllen yr isod o bapur newydd ‘’Y Werin’’ yn fanwl er mwyn deall holl oblygiadau ac ystyriaethau’r achos (ni newidwyd dim ar y sillafu na’r gramadeg, er mwyn cadw blas y stori).

ACHOS GRIFFITH LEWIS, PENYGROES. DEDFRYD DROM. Dydd Mawrth, yn Mrawdlys Caerlleon a Gogledd Cymru, gerbron y Barnwr Wills, cyhuddwyd Griffith Lewis, Penygroes, diweddar ysgrifenydd Cymdeithas Adeiladu Dyffryn Nantlle, o chwiw-ladrata amryw symiau yn nghyda ffugio cheque, ac addefodd yntau ei euogrwydd. 

Amddiffynid gan Mr Marshall, yr hwn a ddywedodd fod y carcharor yn cyfaddef ei euogrwydd o chwiw-ladrata yn nghyda ffugio cheque am 5p 5s. Yr oedd yn amlwg fod yr achos yn un tra phoenus can belled ag yr oedd a wnelo i'r carcharor yn nghydag aelodau y gymdeithas adeiladu. Bu yn cario yn mlaen waith argraphydd a llyfrwerthydd yn Mhenygroes, am y 23 mlynedd diweddaf. Yn ystod yr holl amser yna yr oedd yn aelod ac yn swyddog eglwysig gydag enwad parchus, a cheid digon o dystiolaethau i brofi ei fod yn ddyn gonest a gweithgar, ac yn gwneyd ei oreu i dalu ei ffordd yn mlaen. Yn y flwyddyn 1877-78 yr oedd y llwyddiant masnachol yn fawr yn y wlad, a safai tai-feddiannau yn bur uchel yn eu cysylltiad â chymdeithasau adeiladu. Ffurfiwyd Cymdeithas Adeiladu Dyffryn NantlIe, yn 1876, a phenodwyd y carcharor yn ysgrifenydd, a pharhaodd yn y swydd hyd yn bur ddiweddar. Yn 1879, cymerodd dirwasgfa le ar fasnach yn y cylchoedd hyny, yr hyn effeithiodd yn fawr ar y gymdeithas yn gystal ag ar amgylchiadau y carcharor, yr hyn a'i harweiniodd i ddyled, ac yr oedd yn rhaid iddo gyfarfod ysgrif-rwymebau o 89 a 100p. Yn anffodus iddo ef, yr oedd gan gymdeithas gyfundrefn lac i drafod ei masnach, canys yn lle talu yr arian i'r trysorydd telid hwynt i'r ysgrifenydd. Pan ddaeth yr ysgrif-rwymebau crybwylledig yn daladwy, defnyddia y carcharor yr arian oedd yn ei ddwylaw perthynol i'r gymdeithas i'w talu, ond trefnodd i dalu i'r gymdeithas ar ran y personau ag y defnyddiodd eu harian mewn trefn iddynt allu cadw meddiant o'u hanedd-dai. Y canlyniad o hyn ydoedd ei fod yn gorfod gwneyd taliadau misol ar ran personau ag oeddynt wedi talu eu gwystliadau (mortgages) yn llawn, ac felly, bu raid iddo ffugio y llyfrau. Y flwyddyn ganlynol, mewn trefn i gael ei hunan allan o'r dyryswch prynodd 13 o dai am 1000p. Cafodd 900p ar y gwystlweithredoedd, gan adael 100p i'w talu ganddo ef yn nghyda 200p am orphen adeiladu y tai a'u gwneyd yn gymwys i'w preswylio. Dygodd hyn ef i fwy o ddyryswch, canys methodd osod na gwerthu y tai. Gwelai ei arglwyddiaeth pa fodd yr oedd y carcharor yn graddol fyned i anhawsderau o'r dechreu a pharhai i gymeryd arian o goffrau y gymdeithas o dro i dro. Yr oedd y taliadau hyn, y rhai a wneyd i'w ddwyn allan o'i ddyryswch, yn ei suddo yn ddyfnach iddo yn barhaus. Ac felly yr aeth pethau yn mlaen hyd fis Mai diweddaf pryd y dywedodd yr archwilwyr wrtho fod yna afreoleidd-dra yn y llyfrau. Cyfaddefodd yntau y cyfan ar unwaith, a datganodd ei barodrwydd i drosglwyddo ei holl feddiannau i'r gymdeithas. Yr oedd yr ymddiriedolwyr eu hunain yn dueddol i gymeryd golygwedd dyner ar y mater, ond gan y teimlent eu bod yn rhwymedig i'r cyhoedd yn gystal ag i'r gymdeithas dygasant y cyngaws hwn yn mlaen. Pan ddeallodd y carcharor fod erlyniad yn anocheladwy gwnaeth dro pur ffôl - diangodd i'r America. Daliwyd ef ar ffwrdd llong yn Canada, ar y 9fed o Fehefin, ac y mae mewn dalfa er yr adeg hono. Byddai i un o'r ymddiriedolwyr gael ei alw yn mlaen i roddi tystiolaeth i'r llys parthed cymeriad y carcharor.— Galwyd enw yr ymddiriedolwr cyfeiriedig allan, ond ni ddaeth neb yn mlaen. 

Mr Bankes (yr hwn, gyda Mr E. W. W Edwards, a erlyniai) a ddywedodd fod y mater wedi ei gymeryd allan o ddwylaw yr ymddiriedolwyr, ac yn cael ei ddwyn yn mlaen yn awr gan y Trysorlys, ar ran pa un yr ymddangosai ef. Nis gallai ef gydsynio ag un neu ddau o sylwadau a ddywedodd Mr Marshall. Un o ba rai ydoedd mai yn 1879 y cymhellwyd y carcharor i fabwysiadu y llwybr a gymerodd. Darganfyddwyd wrth archwilio y llyfrau fod y carcharor wedi chwiw-ladrata symiau mawrion o arian y gymdeithas yn 1877. Gyda golwg ar y sylw arall, sef fod y carcharor yn ymdrechu ad-dalu yr arian o bryd i bryd, yr oedd yn rhaid iddo wneyd hyny er atal ei dwyll rhag dyfod i'r golwg. Yr oedd diffygion y carcharor, can belled ag y gallesid eu gwneyd allan gan yr archwilwyr, yn 1400p yn y man lleiaf. Gwir fod gan y carcharor gymeriad da, a dyna y rheswm paham yr oedd yn alluog i gyflawni y lladradau hyn.
Sylwodd y Barnwr ei fod ef yn deall fod y diffygion yn cyrhaedd 2000p. 

Dywedodd Mr Marshall eu bod yn 200p, ond ddarfod i'r carcharor dalu 600p i'r gymdeithas. 

Mr Bankes a ddywedodd ddarfod i 2035p gael eu cymeryd, yn ol yr archwiliad. Ond i gyfarfod y rhai hyn ad-dalwyd 656p o 1877 i 1886. Wrth gymeryd 656p allan o'r 2035p, gadewid gweddill o yn agos i 1400p. Dywedodd Mr. Marshall can belled ag yr oedd ef wedi myned drwy y tystiolaethau, nas gallai ef weled unrhyw ddangosiad i'r perwyl fod y diffygion wedi cymeryd lle mor foreu a 1877. 

Addefodd Mr Bankes nad oedd yr un o'r cyhuddiadau yn cael eu dyddio mor foreu a 1877, ond cyfeirio yr oedd ef at ddarganfyddiadau a wnaed yn ystod yr archwiliad. 

Y DDEDFRYD.  
Y Barnwr, wrth gyhoeddi y ddedfryd, a ddywedodd, - Griffith Lewis, yr ydych wedi cyfaddef euogrwydd i gyfres o gyhuddiadau ag sydd yn galw arnoch i ateb am un o'r achosion gwaethaf o dwyll a lladrad a fu erioed ger fy mron i. Am saith mlynedd - ac yr wyf yn cymeryd y dyddiadau a awgrymwyd gan eich dadleuydd chwi eich hun - aethoch yn mlaen i yspeilio y gymdeithas i ba un yr oeddych yn wasanaethydd ac o'r hon yr oeddych yn aelod ymddiriedgar. Pan elwir arnoch i ateb trosedd o'r fath yma, ac y mae yn un hynod greulawn, oherwydd eich bod wedi cymeryd arian personau ag sydd yn llawer llai galluog i ddal y golled nag oeddych chwi pan gymerasoch yn eich pen i gyflawni yr anfadwaith hwn. Dywedir wrthyf eich bod yn ddyn o gymeriad rhagorol, ac yn un o arweinyddion y corph crefydd i ba un y perthynech. Mae cyfeiriad o broffes grefyddol ac anonestrwydd personol yn gwneyd drwg anrhaethol i achos crefydd, canys dengys y possiblrwydd i ddyn fod yn feddiannol ar nodau allanol duwioldeb a dylanwadau crefyddol, ag eto ei galon heb ei chyffwrdd a hwynt. Yn yr achos hwn mae y lladradau wedi bod yn myned yn mlaen am gyfnod o dros saith mlynedd, ac nid oedd yn bosibl eu cyflawni ond drwy gyfnod o gymeriad disglaer a dull afler y rhai cysylltiedig a'r cymdeithasau hyn i drafod eu goruchwylion. Mae yn annichonadwy trafod eich achos chwi yn wahanol i eiddo ugeiniau o ddynion ereill a safasant yn eich sefyllfa chwi o dan gyffelyb amgylchiadau. Dywedir wrthyf eich bod mewn iechyd gwael. Os ydyw hyny felly, cymerir y peth i ystyriaeth gan y rhai hyny ag y bydd gofal cario y ddedfryd allan arnynt, oherwydd ni chedwir yr un dyn mewn carchar yn y wlad hon o dan amgylchiadau a beryglant ei fywyd. Ac ni ddylid cymeryd dim yn llai na hyny i ystyriaeth, canys tybiaf ei bod yn wrthun dyweyd y dylai dyn o iechyd gwanaidd gael cosp wahanol i ddyn cryf ddim mwy nag y dylai dyn gyda phlant gael dedfryd ysgafnach, am gamddefnyddio ymddiriedaeth a roddwyd ynddo, mwy na hen lanc neu wr priod heb blant. Rhaid i mi pasio arnoch y ddedfryd a besir agos yn ddieithriad yn yr achosion hyn, canys nid wyf yn gweled fod amgylchiadau yn tueddu yn y radd leiaf i'r ddedfryd fod yn wahanol. Y ddedfryd ydyw ar i chwi gael eich anfon i benyd-wasanaeth am bum' mlynedd. 

Pan glywodd y carcharor y ddedfryd gwelwodd ei wyneb a dirgrynai yn boenus, ac achosodd y datganiad gyffro neillduol yn y llys.

Apeliodd Mr Bankes ar fod i gostau cludiad y carcharor o'r America gael eu caniatau, ond dywedodd ei arglwyddiaeth ei fod yn ofni, oherwydd diffyg yn y gyfraith, nad oedd ganddo ef hawl i ymyryd â'r costau ag yr aed iddynt ar yr achlysur hwnw. achlysur hwnw.[9]

Erbyn gwanwyn 1891 pan wnaethpwyd y Cyfrifiad y flwyddyn honno, ac er y gosb o bum mlynedd o garchar gyda llafur caled, roedd wedi dychwelyd i Ben-y-groes at ei deulu a’i fusnes. Parhaodd yno weddill ei oes, ond efallai na fu ei fusnes mor lewyrchus. Mae’n ddiddorol sylwi fod llyfrau Myrddin Fardd a gyhoeddwyd ar ôl ‘’Adgof Uwch Anghof’’ wedi eu dwyn o’r wasg gan gyhoeddwyr eraill. Ac er i Griffith Lewis fod ar un adeg yn flaenor gweithgar a pharchus gyda’r Calfiniaid, ni sonnir William Hobley amdano o gwbl ond fel awdur ysgrif a ddefnyddiai wrth ymchwilio i hanes yr achos.

Bu farw Griffith Lewis 11 Ionawr 1911 yn 76 oed, gan adael eiddo gwerth £446. Yr adeg honno, fe’i disgrifiwyd fel llyfr-rwymwr, ac roedd yn dal i fyw yn Eryri House, Pen-y-groes. Bu i’w wraig Elizabeth Lewis ei oroesi.[10]

Cyfeiriadau

  1. Archifdy Caernarfon, Cofrestr Bedyddiadau Betws Garmon
  2. Cyfrifiadau plwyf Beddgelert, 1841-61. Nid oes yr un Griffith Lewis a gofnodwyd yn cyfateb i fanylion y Griffith Lewis o Ryd-ddu, heblaw ( o bosibl) Griffith Lewis, saer maen, yn Lerpwl.
  3. Cyfrifiadau plwyf Llanllyfni 1871-1901
  4. W.R. Ambrose, ‘’Nant Nantlle’’ (Pen-y-groes, 1872); Myrddin Fardd, ‘’Adgof Uwch Anghof’’ (Pen-y-groes, 1883).
  5. W. Hobley, Hanes Methodistiaeth Arfon, Cyf.I, Dosbarth Clynnog (Caernarfon, 1910), t.295
  6. LlGC, Casgliad John Bryn Roberts, 208; 672/19
  7. ’’Y Celt’’, 4.6.1886, t.10
  8. ’’Caernarvon & Denbigh Herald’’, 18.6.1886
  9. ’’ Y Werin’’, 30.10.1886, t.4
  10. Mynegai i Brofiannau Cymru a Lloegr, 1911 (ar gael yn Archifdy Gwynedd)