Cymdeithas Adeiladu Dyffryn Nantlle
Sefydlwyd Cymdeithas Adeiladu Dyffryn Nantlle ym 1876 i helpu pobl leol brynu tai. Penodwyd Griffith Lewis, llyfrwerthwr ac argraffydd lleol, yn ysgrifennydd. Ar ôl cychwyniad llewyrchus, daeth dirwasgiad yn y farchnad dai ddwy flynedd yn ddiweddarach, a chafwyd trafferthion ariannol gan y gymdeithas a hefyd gan yr ysgrifennydd. Ceisiodd hwnnw gadw'r llif arian i fynd yn y Gymdeithas ac yn ei fusnes trwy symud arian o gwmpas a ffugio'r cyfrifon. Er i'r ymddiriedolwyr, mae'n ymddangos, deimlo drosto i raddau a rhoi cyfle i Lewis achub y sefyllfa trwy dalu arian yn ôl, aeth y sefyllfa o ddrwg i waeth. Ym 1886, fe ddygwyd Lewis o flaen Brawdlys Caer, lle cafodd gosb o bum mlynedd o benyd-wasanaeth. Mae hanes yr achos yn llawn yn yr erthygl ar Griffith Lewis.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma