Llwybr Arfordir Cymru
Lansiwyd Llwybr Arfordir Cymru yn swyddogol yn 2012, er bod rhannau helaeth ohono'n bodoli ers blynyddoedd cyn hynny, megis Llwybr Gogledd Cymru, Llwybr Arfordir Môn a Llwybr Arfordir Llŷn. Mae'n dilyn arfordir Cymru o'r Fferi Isaf (Queensferry) ar lannau Afon Dyfrdwy yn y gogledd i Gas-gwent (Chepstow) yn y de, lle mae Afon Gwy yn llifo i Fôr Hafren. Mae'r llwybr yn ei gyfanrwydd yn 870 milltir o hyd ac mae'n cysylltu â Llwybr Clawdd Offa, sy'n dilyn y ffin rhwng Cymru a Lloegr i raddau helaeth. Felly, o ddilyn y ddau lwybr yma mae'n bosib cerdded o amgylch Cymru gyfan.
Ac yntau'n gwmwd arfordirol, yn naturiol mae rhan o Lwybr Arfordir Cymru yn mynd trwy Uwchgwyrfai. Mae'r llwybr yn croesi'r ffin i Uwchgwyrfai pan mae'n mynd dros Afon Gwyrfai, ychydig i'r gorllewin o bentref Llanfaglan. Wedi mynd drwy bentref Saron, mae'n troi i lawr am Fae'r Foryd, sy'n warchodfa natur ac yn lle delfrydol i wylio adar y glannau'n hel eu bwyd ar drai. Mae Afon Gwyrfai'n ymarllwys i'r Fenai ym Mae'r Foryd. Wedi dilyn ffordd wledig am ychydig, mae'r llwybr yn troi oddi arni wrth Blythe Farm (sydd gyferbyn â stiwdio Cwmni Sain) ac yn croesi caeau a thros bompren dros afon fechan Carrog. Am ysbaid wedyn mae'r llwybr yn mynd ar hyd pen clawdd llanw uchel 9Llwybr y Cob) a godwyd i gadw'r môr yn ei ôl o'r tir gwastad gerllaw. Aiff y llwybr yn ei flaen heibio i Maes wyr Caernarfon|Faes Awyr Caernarfon]] cyn ymuno â thraeth hyfryd Dinas Dinlle. Ym mhen gorllewinol y traeth gellir mynd oddi ar y llwybr i fyny'r bryncyn i weld gweddillion hen fryngaer Dinas Dinlle.
Ar ôl cyrraedd pen gorllewinol Dinas Dinlle, mae Llwybr Arfordir Cymru yn troi i mewn i'r tir gan ddilyn y ffordd sy'n mynd o Ddinas Dinlle i ymuno â ffordd fawr Caernarfon - Pwllheli. Yna, mae'r llwybr yn dilyn y briffordd honno am rai milltiroedd, gan fynd drwy Bontlyfni, Aberdesach, Clynnog-fawr a Gurn Goch nes cyrraedd pen y lôn sy'n mynd i lawr i bentref Trefor. Mae palmant cwbl ddiogel i gerddwyr a beicwyr ar hyd y ffordd. Yng Nghlynnog, gellir galw i mewn i Eglwys Beuno Sant os bydd yn agored a gweld Ffynnon Beuno ym mhen gorllewinol y pentref. Hefyd gellir dilyn llwybr sydd yn croesi'r ffordd fawr wrth ymyl Eglwys Beuno a mynd drwy gaeau i weld Cromlech Bachwen, ond rhaid dod yn ôl yr un ffordd gan fod y llwybr hwnnw'n gorffen yn y gromlech. (Fodd bynnag, os dymunir gellir gadael Llwybr yr Arfordir swyddogol yn Ninas Dinlle a cherdded ymlaen ar hyd y traeth cyn belled â Chlynnog, ond dylid bod yn ofalus gan y gall y llanw fod yn uchel ar adegau mewn rhai mannau, a hefyd rhaid croesi ceg Afon Llifon rhwng Dinas Dinlle a Phontllyfni.)
Ym mhen lôn Trefor, mae Llwybr Arfordir Cymru yn troi i'r dde gan fynd i lawr y lôn (Lôn Newydd fel y gelwir hi'n lleol - er ei bod yno bellach ers y 1930au!) i Drefor. Ar gyrion y pentref, mae'r llwybr yn gwyro i'r dde ac yn mynd i lawr gallt serth i lan y môr, lle mae traeth cysgodol a diogel i ymdrochi. Er bod y cei pren a oedd yno wedi ei ddymchwel bellach, mae llawer o'r muriau uchel, yn ogystal â'r Doc Bach, yn tystio i'r prysurdeb mawr a fu yno am dros ganrif pan oedd cerrig Chwarel yr Eifl yn cael eu cludo yno i lawr yr inclên (i ddechrau mewn wagenni ac yna mewn lorïau) i'w llwytho i'r llongau a ddeuai at y cei, ac i'r Doc Bach cyn hynny.
Ar ôl croesi Pont Lan Môr, mae'r Llwybr yn mynd yn ei flaen dros glogwyn Trwyn y Tâl. Mae'r clogwyni yma yn gartref i amryw rywogaethau o adar y glannau, gan gynnwys y frân goesgoch, nad yw i'w gweld ond mewn ychydig o gynefinoedd bellach. Mae'n lle gwych i wylio'r adar ond mae angen cymryd gofal gan y gall y tir uwchben y clogwyni fod yn llithrig iawn. Ar Drwyn y Tâl hefyd mae nifer o siafftiau, twnelau a thomenni gwastraff sy'n weddillion cloddio a fu yno am fwyn haearn (manganîs) ar droad yr ugeinfed ganrif.
Wedi mynd dros Drwyn y Tâl aiff Llwybr yr Arfordir yn ei flaen am draeth gorllewinol Trefor (y "West End" fel y'i gelwir yn lleol) ac yna i fyny tu cefn i fferm Nant Bach a heibio i dŷ hynafol Sychnant cyn croesi dau gae ac ymuno â'r lôn serth sy'n mynd o Drefor i Lanaelhaearn gyda gwaelod copaon yr Eifl (Lôn 'r Eifl fel y gelwir hi'n lleol). Ar ôl cyrraedd rhan uchaf y ffordd hon, mae Llwybr yr Arfordir yn mynd yn ei flaen gan fynd drwy Fwlch yr Eifl (sydd rhwng y Garnfor (neu Fynydd y Gwaith) a'r Garn Ganol ac a oedd ar lwybr y pererinion gynt o Glynnog am Ynys Enlli). Wedi croesi'r bwlch mae'n mynd ymlaen i ben y ffordd sy'n mynd i lawr i Nant Gwrtheyrn a throi i'r dde i lawr am y Nant. Ond erbyn hynny mae wedi gadael cwmwd Uwchgwyrfai a chyrraedd cantref Llŷn.