Llwybr Arfordir Llŷn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Sefydlwyd Llwybr Arfordir Llŷn gan Gyngor Gwynedd a Chyngor Cefn Gwlad Cymru ar hyd arfordir Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol Llŷn o Aberdesach yn y gogledd hyd Llanbedrog yn y de. Yn Uwchgwyrfai, mae'n dilyn y lôn beics ar ochr y briffordd o Aberdesach hyd Tan-y-graig, lle mae'n troi i lawr am bentref Trefor. Wrth gyrraedd y pentref, mae'n troi am y traeth a Harbwr Trefor cyn codi i fyny ar hyd Trwyn-y-tâl ac ymlaen ar hyd y clogwyn nes cyrraedd bythynnod West End. O'r fan honno, troir i'r dwyrain nes cyrraedd Sychnant a'r ffordd gefn o Drefor i Lanaelhaearn, cyn troi eto, am y mynydd heibio Cae'r Hafoty ac ar draws y llethr i'r de o'r chwarel nes cyrraedd Bwlch yr Eifl lle mae'n croesi o Uwchgwyrfai i Gantref Llŷn.[1] Dylid nodi, serch hynny, bod y llwybr yn newid o bryd i'w gilydd, a dylid ceisio'r map diweddaraf sydd i'w gael ar daflen ar gyfer ymwelwyr.

Erbyn hyn, mae Llwybr Arfordir Cymru yn dilyn yr un llwybr , wedi iddo gael ei agor yn llawn ym 2012, er bod yr opsiwn o ddringo dros Y Gurnau (sef mynyddoedd Gurn Goch a Gurn Ddu) hefyd ar gael.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Gwefan Llwybr Arfordir Cymru, [1], cyrchwyd 1.11.2020