Seidin Chwarel Parc Dudley

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:25, 21 Tachwedd 2017 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Trôdd Seidin Chwarel Parc Dudley i ffwrdd o brif lein Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru ychydig latheni i'r de o orsaf Waun-fawr i chwarel wenithfaen, sef Chwarel Parc Dudley gerllaw. Fe'i hadeiladwyd yn ystod y 1920au pan oedd y lein bellach yn eiddo i gwmni Rheilffordd Ucheldir Cymru. Croesodd y ffordd fawr gan derfynu o dan arllwysfa a godwyd i ollwng cerrig i dryciau'r rheilffordd. Byr fu'r defnydd ohoni, gan fod y rheilffordd ei hun wedi cau erbyn 1937.

Ffynonellau

  • J.I.C. Boyd, Narrow Gauge Railways in South Caernarvonshire, Cyf. 1 (Oakwood, 1988), t.194
  • J.I.C. Boyd, Narrow Gauge Railways in South Caernarvonshire, Cyf. 2 (Oakwood, 1989), t.39