Ffynhonnau Uwchgwyrfai
Mae nifer o ffynhonnau Uwchgwyrfai â hanes sy'n mynd yn ôl gannoedd os nad miloedd o flynyddoedd. Mae gan rai enwau, ac mae rhai yn meddu ar rinweddau gwirioneddol neu honedig. Rhai o'r rhain yw'r ffynhonnau sanctaidd a gysylltir yn aml â saint oes cynnar yr Eglwys Celtaidd. Rhestrir rhai hynod isod, a cheir erthyglau unigol am rai ohonynt.
Cyn dyddiau pibellau dŵr, roedd gan bob fferm a'r rhan fwyaf o dai ffynnon, naill ai un a fyrlymodd o'r graig gerllaw neu un oedd wedi ei wneud trwy dyllu i lawr nes gyrraedd lefel y dŵr yn y ddaear. Yn y man pibellwyd rhai gan greu ffynnon gymunedol yng nghanol pentref (megis yn Llandwrog, neu ddarparu cyflenwad i nifer o dyddynod a ffermydd y fro (megis yn achos Ffynnon Wen ger y Bryngwyn).
Ffynhonnau Uwchgwyrfai
Dyma restr o rai o ffynhonnau'r cwmwd sydd â hanes neilltuol yn perthyn iddynt[1]: