Ffynnon Wen, Maestryfan

Oddi ar Cof y Cwmwd
(Ailgyfeiriad o Ffynnon Wen, Maes Tryfan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Ffynnon Wen ar ochr y lôn o Gapel-y-bryn i gyfeiriad Tryfan Mawr a Rhos-isaf. Mae lle i gredu ei bod wedi cael ei defnyddio ers cyfnod cyn-hanesyddol, gan mai dyma'r unig ffynnon gref o fewn cyrraedd nifer o anheddau'r Oes Efydd. Dywedir fod meddygon Tryfan Mawr wedi adnabod ei rhinweddau, a hynny ers amser Dr Robert Williams ym 1655.[1].

Codwyd cronfa ddŵr yno, wedi ei hadeiladu'n gadarn ym mlynyddoedd cynnar yr 20g. Ar un adeg, beth bynnag, tynnwyd dŵr o Afon Wen gerllaw, a gosodwyd pibellau dŵr i gyflenwi cannoedd o dai mewn cymunedau ar lethrau Moel Tryfan ac mor bell â Dinas Dinlle.[2]

Yn fwy diweddar, rhoddwyd caead newydd ar y ffynnon a phrofir ei phurdeb yn gyson. Cafwyd bod rhinwedd arbennig i'r dŵr gan nad oes sodiwm ynddo, ac o les felly i'r rhai nad ydynt yn gallu cymryd sodiwm. Mae cynlluniau wedi bod ar y gweill ers y 1990au i botelu dŵr Ffynnon Wen, a ffurfiwyd cwmni Ffynhonnau Ffynnon Wen. [3]


Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Gwefan Cymdeithas Ffynhonnau Cymru
  2. Traethawd ar reilffordd Bryngwyn gan John Hughes, Llain Fadyn; mewn dwylo preifat
  3. Gwefan Cyngor Gwynedd: ceisiadau cynllunio