Ffynnon Beuno (Clynnog Fawr)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Lleoliad
Plac enw yn cyfeirio at y ffynnon
Mynedfa
Meinciau a chilfachau
Giât a thir serth
Postyn marcio wrth ochr y ffynnon yn dweud: “Taith Pererin Gogledd Cymru”
Bwrdd dehongliad sy’n egluro hanes y ffynnon, mae’n weddol newydd, gosodwyd ar ôl y fandaliaeth

Lleolir Ffynnon Beuno ym mhen draw pentref Clynnog Fawr i gyfeiriad Pwllheli. Tua 200 llath heibio Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr, cyrhaeddir y ffynnon drwy lwybr byr a grisiau oddi ar ochr y ffordd. Erbyn hyn mae yna ffordd osgoi o amgylch y pentref a’r ffynnon. Saif y ffynnon ar waelod tir amaeth serth. [1]. [2] Ni ddylid ei chymysgu efo Ffynnon Beuno (Llanwnda).

Mae Ffynnon Beuno yn heneb gofrestredig ac adeilad Gradd II* rhestredig; fe’i rhestrwyd ar 29 Mai 1968. [3] Mae'n ffynnon sanctaidd ganoloesol ac mae'r adeiladwaith gwreiddiol yn debygol o fod yn perthyn i ddiwedd y 15fed ganrif pan ailadeiladwyd Eglwys Sant Beuno, Clynnog. Ychwanegwyd cerrig copa a’r manylion arall yn y 18fed ganrif. [4]

Mae'r ffynnon yn fasn garreg, sgwâr (2.6 metr x 3.9 m), chwe throedfedd o uchder. Mae'r dŵr tua 350mm o ddyfnder. Ceir meinciau carreg ar ddwy ochr y waliau. [5]. [6] Uwchben y meinciau, mae tair cilfach yn y waliau, efallai ar gyfer cadw dillad ac eiddo'r ymdrochwr. [7]

Ym mis Mai 2010, difrododd fandaliaid y ffynnon, cafodd cerrig eu rhwygo o sylfaen y ffynnon a'u taflu mewn i'r dŵr. Yn dilyn y fandaliaeth, gosodwyd rheiliau haearn modern i atal ymwelwyr oherwydd bod gweddillion y ffynnon yn fregus.[8] Nawr, mae'n edrych yn lân, yn daclus ac wedi gofalu amdani; mae'r rheiliau haearn modern a oedd unwaith yn amgylchynu'r llwybr wedi cael eu tynnu, sy'n caniatáu mynedfa i'r ffynnon. Mae giât yn diogelu’r ffynnon, ond nid yw ynghlo. [9]

Cysegrwyd y ffynnon i Beuno Sant. [10] Mae Clynnog Fawr ar Daith Pererin Gogledd Cymru trwy Lŷn i Ynys Enlli, ac roedd yn fan pwysig i bererinion aros. [11]

Yn ogystal â bod yn ffynhonnell dŵr i'r gymuned fynachaidd gerllaw, defnyddiwyd y ffynnon i wella amrywiaeth o afiechydon, clefydau a chyflyrau meddygol fel y llechau, epilepsi, nerfusrwydd, problemau llygaid ac analluedd. [12] Daethpwyd â phlant yn enwedig yno i'w hiacháu; teithiai pobl yno o bellter ffordd i gael triniaeth. [13]

Ar ôl i’r claf ymdrochi yn y ffynnon, aed ag ef/hi i Gapel Beuno, Clynnog Fawr a’i roi i orwedd i gysgu ar wely o frwyn ar garreg fedd Beuno er mwyn gwella o'i salwch. [14] Defnyddiwyd y ffynnon mor ddiweddar â diwedd y 18g. Pan ddaeth yr hanesydd Thomas Pennant yno at ddiwedd y 18g, gwelodd ar garreg fedd Beuno “a feather bed, on which a poor paralytic from Meirionyddshire had lain the whole night”. [15]

Ychwanegwyd crafiadau o bileri Capel Beuno, Clynnog Fawr at ddŵr sanctaidd y ffynnon i iacháu dallineb. [16] Ar un adeg fe leddid heffrod wrth y ffynnon fel aberth crefyddol i Sant Beuno, (roedd hyn yn tarddu o arferiad o'r cyfnod cyn-Gristnogol). [17]

  1. Sacred Waters: Holy Wells and Water Lore in Britain and Ireland gan Janet a Colin Bord; Paladin Grafton Books (1986), tudalen 214.
  2. The Holy Wells of Wales gan Francis Jones; University of Wales Press (1992), tudalen 148.
  3. https://archwilio.org.uk/arch/query/page.php?watprn=GAT103&dbname=gat&tbname=core.
  4. An Inventory of the Ancient Monuments in Caernarvonshire: Volume II – central, The Cantref of Arfon and the Commote of Eifionydd gan Royal Commission on the Ancient and Historical Monuments of Wales; H.M. Stationery Office (1960), tudalen 57.
  5. The Holy Wells of Wales gan Francis Jones; University of Wales Press (1992), tudalen 148.
  6. Sacred springs: in search of the holy wells and spas of Wales gan Paul Davis; Blorenge Books (2003), tudalen 100.
  7. Wales gan Litellus Russell Muirhead; E. Benn (1953), tudalen 76.
  8. http://www.dailypost.co.uk/news/local-news/fury-historic-clynnog-well-vandalised-2756200].
  9. Sylwadau awdur yr erthygl hon drwy ymweld â’r ffynnon ym mis Mawrth 2017
  10. The Holy Wells of Wales gan Francis Jones; University of Wales Press (1992), tudalen 148.
  11. More Mysterious Wales gan Chris Barber; David & Charles (1986), tudalen 194.
  12. Sacred Waters: Holy Wells and Water Lore in Britain and Ireland gan Janet a Colin Bord; Paladin Grafton Books (1986), tudalen 214.
  13. More Mysterious Wales gan Chris Barber; David & Charles (1986), tudalen 194.
  14. Sacred Waters: Holy Wells and Water Lore in Britain and Ireland gan Janet a Colin Bord; Paladin Grafton Books (1986), tudalen 214.
  15. A Tour in Wales, MDCCLXXIII gan Thomas Pennant; Cambridge University Press (2014), tudalen 209.
  16. More Mysterious Wales gan Chris Barber; David & Charles (1986), tudalen 194.
  17. Sacred Waters: Holy Wells and Water Lore in Britain and Ireland gan Janet a Colin Bord; Paladin Grafton Books (1986), tudalen 214.