Seidin Chwarel Parc Dudley
Trôdd Seidin Chwarel Parc Dudley i ffwrdd o brif lein Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru ychydig latheni i'r de o orsaf Waun-fawr i chwarel ithfaen, sef Chwarel Parc Dudley gerllaw. Fe'i hadeiladwyd yn ystod y 1920au pan oedd y lein bellach yn eiddo i gwmni Rheilffordd Ucheldir Cymru. Croesodd y ffordd fawr gan derfynu o dan arllwysfa a godwyd i ollwng cerrig i dryciau'r rheilffordd. Byr fu'r defnydd ohoni, gan fod y rheilffordd ei hun wedi cau erbyn 1937.
Ffynonellau
- J.I.C. Boyd, Narrow Gauge Railways in South Caernarvonshire, Cyf. 1 (Oakwood, 1988), t.194
- J.I.C. Boyd, Narrow Gauge Railways in South Caernarvonshire, Cyf. 2 (Oakwood, 1989), t.39