Garmon Sant

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 22:01, 23 Chwefror 2021 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Sant Garmon yw nawddsant Eglwys Betws Garmon dafliad carreg o ffin Uwchgwyrfai yn Nyffryn Gwyrfai. Fo hefyd sydd yn cael ei gyplysu â Ffynnon Garmon ar lethrau dwyreiniol Moel Smytho. Nid oes sicrwydd, fodd bynnag, pwy oedd Garmon. Unig gyfeiriad cynnar ato mewn llenyddiaeth yw hynny yn Rhyfeddodau Ynys Brydain ac Ynys Fôn gan y Sais o fynach, Nennius, sy'n honni iddo ddarllen stori Garmon mewn llyfr oedd ganddo, Llyfr y Gwynfydedig Garmon. Adroddir yn hwnnw fod Garmon wedi gwrthwynebu'r Brenin Gwrtheyrn oherwydd i'r brenin wahodd y Saeson i Ynys Prydain.[1] Ysywaaeth mae'r llyfr, os oedd yn bodoli, wedi hen ddiflannu.

Roedd hi'n arferol ystyried mai Cymreigiad o enw Sant Germaine neu Germanus, esgob Auxerre yn y 5g. a ddaeth i Brydain i wrthwynebu heresi Pelagaidd, oedd enw Garmon. Er y byddai'n rhesymol i feddwl bod sant mor amlwg yn mynd i ddenu dilynwyr a gysegrai eglwysi yn ei enw, y mae Syr Ifor Williams wedi profi nad yw'n hawdd yn ieithyddol i Germanus droi'n Garmon. Mae Syr Ifor yn amau efallai mai sant Celtaidd o Lydaw, Iwerddon neu Ynys Manaw oedd Garmon yr eglwysi Cymreig, gyda'i ganolfan, efallai, yn Saint Harmon, Sir Faesyfed. Mae'n debyg mai teg felly yw ystyried Garmon yn sant Celtaidd yr enwyd nifer o eglwysi ar ei ôl, ond heb fod unrhyw gofnod arall o'i fywyd.[2]

Efallai yr unig beth y gellir ei ddweud gydag unrhyw fath o sicrwydd yw bod Garmon a goffheir ym Metws Garmon yn sant o'r 5ed neu'r 6ed ganrif.

Cyfeiriadau

  1. Syr Ifor Williams, Hen Chwedlau, yn Nhrafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, 1946-7, t.38
  2. E.G. Bowen, Saints, Settlements and Seaways, (Caerdydd, 1977), t.67