Garmon Sant

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 21:29, 23 Chwefror 2021 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Sant Garmon yw nawddsant Eglwys Betws Garmon dafliad carreg o ffin Uwchgwyrfai yn Nyffryn Gwyrfai. Fo hefyd sydd yn cael ei gyplysu â Ffynnon Garmon ar lethrau dwyreiniol Moel Smytho. Nid oes sicrwydd, fodd bynnag, pwy oedd Garmon. Roedd hi'n arferol ystyried mai Cymreigiad o enw Sant Germaine neu Germanus, esgob Auxerre yn y 5g. a ddaeth i Brydain i wrthwynebu heresi Pelagaidd, oedd enw Garmon. Er y byddai'n rhesymol i feddwl bod sant mor amlwg yn mynd i ddenu dilynwyr a gysegrai eglwysi yn ei enw, y mae Syr Ifor Williams wedi profi nad yw'n bosibl yn ieithyddol i Germanus droi'n Garmon. Rhaid felly ystyried mai sant Celtaidd oedd Garmon yr enwyd nifer o eglwysi ar ei ôl, ond heb fod unrhyw gofnod arall o'i fywyd.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. E.G. Bowen, Saints, Settlements and Seaways, (Caerdydd, 1977), t.67