Garmon Sant
Sant Garmon yw nawddsant Eglwys Betws Garmon dafliad carreg o ffin Uwchgwyrfai yn Nyffryn Gwyrfai. Fo hefyd sydd yn cael ei gyplysu â Ffynnon Garmon ar lethrau dwyreiniol Moel Smytho. Nid oes sicrwydd, fodd bynnag, pwy oedd Garmon. Roedd hi'n arferol ystyried mai Cymreigiad o enw Sant Germaine neu Germanus, esgob Auxerre yn y 5g. a ddaeth i Brydain i wrthwynebu heresi Pelagaidd, oedd enw Garmon. Er y byddai'n rhesymol i feddwl bod sant mor amlwg yn mynd i ddenu dilynwyr a gysegrai eglwysi yn ei enw, y mae Syr Ifor Williams wedi profi nad yw'n bosibl yn ieithyddol i Germanus droi'n Garmon. Rhaid felly ystyried mai sant Celtaidd oedd Garmon yr enwyd nifer o eglwysi ar ei ôl, ond heb fod unrhyw gofnod arall o'i fywyd.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma