Clynnog Fawr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Mae '''Clynnog-fawr''' yw plwyf mwyaf [[Uwchgwyrfai]] o ran arwynebedd. Yn ogystal â phentref Clynnog-fawr ei hun, ger yr eglwys nad yw'n nepell o'r môr, mae'n cynnwys y pentrefi neu threflannau canlynol: [[Capel Uchaf]], [[Tai'n Lôn]], [[Pontlyfni]], [[Brynaerau]], [[Aberdesach]] ac, ym mhenucha'r plwyf, [[Pant-glas]], yn ogystal ag ardal fwy gwasgaredig [[Bwchderwin]]. | Mae '''Clynnog-fawr''' yw plwyf mwyaf [[Uwchgwyrfai]] o ran arwynebedd. Yn ogystal â phentref Clynnog-fawr ei hun, ger yr eglwys nad yw'n nepell o'r môr, mae'n cynnwys y pentrefi neu threflannau canlynol: [[Capel Uchaf]], [[Tai'n Lôn]], [[Pontlyfni]], [[Brynaerau]], [[Aberdesach]] ac, ym mhenucha'r plwyf, [[Pant-glas]], yn ogystal ag ardal fwy gwasgaredig [[Bwchderwin]]. | ||
Ystyr yr enw yw 'rhywle celynnog' sef mangre lle ceir coed celyn yn tyfu. Mae'n bosibl y defnyddir yr ansoddair 'mawr' ar ôl yr enw i'w wahanaethu oddi wrth Clynnog Bach yn sir Fôn; neu efallai oherwydd pwysigrwydd y man i'r Eglwys, ac oherwydd maint yr eglwys ei hun. | |||
==Ffiniau a thirwedd== | ==Ffiniau a thirwedd== | ||
Llinell 16: | Llinell 18: | ||
* [[Sant John Jones]] | * [[Sant John Jones]] | ||
* [[Ebenezer Thomas (Eben Fardd)]], ysgolfeistr a llenor | * [[Ebenezer Thomas (Eben Fardd)]], ysgolfeistr a llenor | ||
* [[Edgar Christian]], anturiaethwr a dyddiadurwr | |||
==Y pentref== | ==Y pentref== | ||
Safai'r pentref o bobtu'r lôn bost rhwng Caernarfon a Phwllhei - ond, erbyn hyn, mae ffordd osgoi wedi mynd â'r traffig o ganol y pentref. | Safai'r pentref o bobtu'r lôn bost rhwng Caernarfon a Phwllhei - ond, erbyn hyn, mae ffordd osgoi wedi mynd â'r traffig o ganol y pentref. | ||
Bu nifer o dafarnau a chrefftwyr yma dros y blynyddoedd, ond caewyd y prif westy, sef y Beuno, ychydig flynyddoedd yn ôl. Roedd y swyddfa bost a siop hefyd wedi cau, er bod siop wedi agor mewn garej ar gyrion y pentref erbyn hyn. Am hir, caed llyfrgell bentrefol nad oedd yn perthyn i lyfrgell y sir yn un o ystafelloedd allan yr eglwys. | Bu nifer o dafarnau a chrefftwyr yma dros y blynyddoedd, ond caewyd y prif westy, sef y Beuno, ychydig flynyddoedd yn ôl. Roedd y swyddfa bost a siop hefyd wedi cau, er bod siop wedi agor mewn garej ar gyrion y pentref erbyn hyn. Am hir, caed llyfrgell bentrefol nad oedd yn perthyn i lyfrgell y sir yn un o ystafelloedd allan yr eglwys. Dyma le mae [[Canolfan Hanes Uwchgwyrfai]] wedi eis efydlu; neuadd y ganolfan yw hen [[Ysgol Ragbaratoawl Clynnog]], sef ysgol y Methodistiaid Calfinaidd a gychwynnodd ddarpar weinidogion ar eu gyrfa o astudio am y weinidogaeth. Fe'i chaewyd ym 1929. | ||
Prif nodwedd y pentref yw'r eglwys; hefyd ceir [[Ffynnon Beuno]] ychydig i'r de ar ochr y lôn; a [[Cromlech Bachwen|Chromlech Bachwen]]. | Prif nodwedd y pentref yw'r eglwys; hefyd ceir [[Ffynnon Beuno]] ychydig i'r de ar ochr y lôn; a [[Cromlech Bachwen|Chromlech Bachwen]]. |
Fersiwn yn ôl 18:14, 22 Rhagfyr 2017
Mae Clynnog-fawr yw plwyf mwyaf Uwchgwyrfai o ran arwynebedd. Yn ogystal â phentref Clynnog-fawr ei hun, ger yr eglwys nad yw'n nepell o'r môr, mae'n cynnwys y pentrefi neu threflannau canlynol: Capel Uchaf, Tai'n Lôn, Pontlyfni, Brynaerau, Aberdesach ac, ym mhenucha'r plwyf, Pant-glas, yn ogystal ag ardal fwy gwasgaredig Bwchderwin.
Ystyr yr enw yw 'rhywle celynnog' sef mangre lle ceir coed celyn yn tyfu. Mae'n bosibl y defnyddir yr ansoddair 'mawr' ar ôl yr enw i'w wahanaethu oddi wrth Clynnog Bach yn sir Fôn; neu efallai oherwydd pwysigrwydd y man i'r Eglwys, ac oherwydd maint yr eglwys ei hun.
Ffiniau a thirwedd
Mae'n gorwedd i'r de o blwyfi Llandwrog a Llanllyfni (gan godi dros Fynydd Graig Goch hyd at gopa Craig Cwm Dulyn), ac i'r gogledd o blwyf Llanaelhaearn, yn ogystal â ffinio ar nifer o blwyfi Eifionydd, hefyd ar ei ffin ddeheuol.
Yr eglwys a'i sant
Credir i Beuno Sant sefydlu 'clas' neu fynachlog agored yn unol ag arferion yr eglwys Geltaidd, a hynny yn ystod y 7g, o bosibl rhwng 620 a 633. Dyma un o brif gyrchfannau i bererinion ar eu taith i Ynys Enlli, a daeth cyfoeth yn sgil yr ymwelwyr defosiynol - dichon mai hen flwch derw a elwir yn gyff Beuno sydd yn dal yn yr eglwys oedd y blwch offrwm a ddefnyddid i hel cyfraniadau'r pererinion. Gyda chyfoeth o'r fath, codwyd eglwys newydd ar safle hen eglwys Beuno rhwng 1480 a 1500 - ond ar ôl diddymiad y mynachlogydd a sefydliadau pererindota yn y 1530au, dim one fel eglwys y plwyf y defnyddid - ac y defnyddir - yr adeilad.
Mae'r eglwys wedi ei chysegru yn enw Beuno Sant, ei sylfaenydd tybiedig, sydd â sant sydd yn gysylltiedig asawl eglwys arall yng Nghymru, gan gynnwys eglwysi Carnguwch a Phistyll sy'n ffinio ar Uwchgwyrfai, ac eglwys Aberffraw ar draws Bae Caernarfon o Glynnog-fawr ymysg eraill.
Tai a phobl nodedig
Prif dŷ'r plwyf yn yr amser a fu,efallai, oedd Lleuar-fawr. Roedd Mynachdy Gwyn ym mhen ucha'r plwyf, cartref teulu Meredydd neu Feredith hefyd yn fangre o ddylanwad.
Ymysg y rhai a hanai o'r plwyf neu a drigai ynddo oedd:
- Morys Clynnog
- Sant John Jones
- Ebenezer Thomas (Eben Fardd), ysgolfeistr a llenor
- Edgar Christian, anturiaethwr a dyddiadurwr
Y pentref
Safai'r pentref o bobtu'r lôn bost rhwng Caernarfon a Phwllhei - ond, erbyn hyn, mae ffordd osgoi wedi mynd â'r traffig o ganol y pentref.
Bu nifer o dafarnau a chrefftwyr yma dros y blynyddoedd, ond caewyd y prif westy, sef y Beuno, ychydig flynyddoedd yn ôl. Roedd y swyddfa bost a siop hefyd wedi cau, er bod siop wedi agor mewn garej ar gyrion y pentref erbyn hyn. Am hir, caed llyfrgell bentrefol nad oedd yn perthyn i lyfrgell y sir yn un o ystafelloedd allan yr eglwys. Dyma le mae Canolfan Hanes Uwchgwyrfai wedi eis efydlu; neuadd y ganolfan yw hen Ysgol Ragbaratoawl Clynnog, sef ysgol y Methodistiaid Calfinaidd a gychwynnodd ddarpar weinidogion ar eu gyrfa o astudio am y weinidogaeth. Fe'i chaewyd ym 1929.
Prif nodwedd y pentref yw'r eglwys; hefyd ceir Ffynnon Beuno ychydig i'r de ar ochr y lôn; a Chromlech Bachwen.