Llanllyfni: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 16: Llinell 16:


==Tai pwysig ac enwogion==
==Tai pwysig ac enwogion==
Roedd Baladeulyn yn llys i'r Tywysog yn ystod y canol oesoedd, er nad oes sicrwydd ymhle yn union y safai'r llys.
Nid oedd plasty mawr yn y plwyf , er bod nifer o dai'n perthyn i fân fonheddwyr. Lleuar Fawr, efallai oedd y cartref pwysicaf; roedd yn gartref i'r milwr Piwritannaidd [[George Twistleton]] a briododd ferch oedd yn perthyn i [[teulu Glynn (Glynllifon)|deulu Glynn]].
Nid oes plasty mawr yn y plwyf bellalch, er bod nifer o dai'n perthyn i fân fonheddwyr. Efallai y cartref pwysicaf oedd Lleuar Fawr, cartref y milwr Piwritannaidd [[George Twistleton]] a briododd ferch oedd yn perthyn i [[teulu Glyn|deulu Glyn]].  
 
Ymysg pobl nodedig a hanai (neu sydd yn hanu) o'r plwyf yr oedd:
* [[Robert Williams Parry]], y bardd
* Dr [[R. Alun Roberts]], academydd ac arbenigwr ar fywyd amaethyddol y gorffennol
* [[Mathonwy Hughes]], y bardd
* [[Gwilym R. Jones]], llenor a golygydd y Faner
* Yr adlonwyr Bryn Fôn a Cefin Roberts
* [[Betty Williams, AS]]


==Y pentref==
==Y pentref==
Yn ei hanfod, un stryd hir yn esgyn yr allt o'r bont dros yr afon Llyfnwy yw Llanllyfni. Mae yno neuadd sylweddol ac ysgol, ond mae'r siop a'r swyddfa bost, a'r dafarn, Y Cwari (neu, yn swyddogol, y "Quarryman's Arms") i gyd wedi cau. Chwalwyd y capeli i gyd ond [[Capel Ebeneser (B)]]. Ar un adeg, bu crynwyr yn yr ardal ac mae mynwent yma lle claddwyd crynwyr y gorffennol. Roedd y Bedyddwyr Sandimanaidd (enwad bach Albanaidd) hefyd yn ffynnu yma. Bellach, mae'r pentref yn fath ar faesdref i Ben-y-groes hanner milltir i'r gogledd, lle ceir nifer o gyfleusterau a gwasanaethau.


[[Categori:Daearyddiaeth ddynol]]
[[Categori:Daearyddiaeth ddynol]]
[[Categori:Plwyfi hanesyddol]]
[[Categori:Plwyfi hanesyddol]]
[[Categori:Pentrefi a threflannau]]
[[Categori:Pentrefi a threflannau]]

Fersiwn yn ôl 21:27, 19 Rhagfyr 2017

Mae Llanllyfni yw un o blwyfi Uwchgwyrfai. Yn ogystal â phentref Llanllyfni sydd yn ymestyn o lannau'r afon Llyfnwy i fyny'r allt ar hyd yr hen lôn bost, mae nifer o bentrefi a threflannau eraill o fewn ffiniau'r plwyf: Pen-y-groes (prif bentref Dyffryn Nantlle), Tal-y-sarn, Tanr'allt, Nebo a Nasareth. Ers i ffiniau plwyfi (neu gymunedau, i roi eu teitl swyddogol iddynt) newid tua diwedd yr 20g, mae Llanllyfni hefyd yn cynnwys pentref Nantlle.

Ffiniau a thirwedd

Nid oes unrhyw rhan o'r arfordir o fewn plwyf Llanllyfni - dyma unig un o blwyfi Uwchgwyrfai heb ddarn o arfordir. Mae plwyf Llandwrog i'r gogledd, a phlwyf Clynnog-fawr i'r gorllewin a'r de. Mae'r afon Llyfnwy'n ffurfio'r ffin rhwng plwyfi Clynnog a Llanllyfni rhwng fferm Dol-gau Phont-y-Cim. Mae ffin Llanllyfni'n codi i ben crib Nantlle tua phen dwyreiniol Craig Cwm Dilyn, gan gwrdd â ffin plwyf Dolbenmaen â chwmwd Eifionydd yn y fan honno. Mae ochr ddeheuol Dyffryn Nantlle jhefyd yn eido i blwyf Llanllyfni.

Mae rhannau'r plwyf rhwng y briffordd i Borthmadog a'r ffîn ger Pontlyfni yn dir amaethyddol gweddol dda er gwaethaf ei natur tywodlyd, ond tir mynyddig, gwlad y tyddynod bach a'r mynydd agored yw llawer o'r gweddill. Ceir creigiau serth iawn a rhostir ar lethrau Cwm Silyn a Cwm Dulyn. Mae lalwer o'r llethrau hefyd wedi eu creithio gyda thomennydd llechi - er, at ei gilydd, mae'r gwythiennau o dan lefel y pridd, ac felly gwaned tyllau mawr i gyrraedd at y graig fwyaf cynhyrchiol.

Yr eglwys a'i sant

Mae hen eglwys y plwyf wedi ei chysegru yn enw Rhedyw Sant, ac fe saif ar lan yr afon Llyfnwy. Codwyd eglwysi ar gyfer y boblogaeth oedd yn cynyddu mewn rhannau eraill y plwyf, ym Mhen-y-groes a Thal-y-sarn yn ystod canol y 19g.

Er i'r eglwys gael ei hadnewyddu'n sylweddol ym 1879, mae'r rhannau hynaf yn dyddio'n ôl i'r 14g.

Dichon bod eglwys ar y safle ers dyddiau cynnar Christnogaeth yng Nghymru, wedi ei sefydlu gan Redyw ei hun yn ystod y 5g. Dywedir mai un o Arfon ydoedd, er iddo symud i ardal Autun yn Ffrainc.

Ei ŵyl Mabsant yw'r 6 Gorffennaf, pan gynhelir Gŵyl Rhedyw (neu Ffair Llanllyfni) yn flynyddol. Mae Ffynnon Rhedyw gerllaw, a ddefnyddid ar gyfer bedyddio yn y gorffennol.

Tai pwysig ac enwogion

Nid oedd plasty mawr yn y plwyf , er bod nifer o dai'n perthyn i fân fonheddwyr. Lleuar Fawr, efallai oedd y cartref pwysicaf; roedd yn gartref i'r milwr Piwritannaidd George Twistleton a briododd ferch oedd yn perthyn i deulu Glynn.

Ymysg pobl nodedig a hanai (neu sydd yn hanu) o'r plwyf yr oedd:

Y pentref

Yn ei hanfod, un stryd hir yn esgyn yr allt o'r bont dros yr afon Llyfnwy yw Llanllyfni. Mae yno neuadd sylweddol ac ysgol, ond mae'r siop a'r swyddfa bost, a'r dafarn, Y Cwari (neu, yn swyddogol, y "Quarryman's Arms") i gyd wedi cau. Chwalwyd y capeli i gyd ond Capel Ebeneser (B). Ar un adeg, bu crynwyr yn yr ardal ac mae mynwent yma lle claddwyd crynwyr y gorffennol. Roedd y Bedyddwyr Sandimanaidd (enwad bach Albanaidd) hefyd yn ffynnu yma. Bellach, mae'r pentref yn fath ar faesdref i Ben-y-groes hanner milltir i'r gogledd, lle ceir nifer o gyfleusterau a gwasanaethau.