Garmon Sant: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
'''Sant Garmon''' yw nawddsant Eglwys Betws Garmon dafliad carreg o ffin [[Uwchgwyrfai]] yn [[Dyffryn Gwyrfai|Nyffryn Gwyrfai]]. Fo hefyd sydd yn cael ei gyplysu â [[Ffynnon Garmon]] ar lethrau dwyreiniol [[Moel Smytho]]. Nid oes sicrwydd, fodd bynnag, pwy oedd Garmon. Roedd hi'n arferol ystyried mai Cymreigiad o enw Sant Germaine neu Germanus, esgob Auxerre yn y 5g. a ddaeth i Brydain i wrthwynebu heresi Pelagaidd, oedd enw Garmon. Er y byddai'n rhesymol i feddwl bod sant mor amlwg yn mynd i ddenu dilynwyr a gysegrai eglwysi yn ei enw, y mae Syr Ifor Williams wedi profi nad yw'n | '''Sant Garmon''' yw nawddsant Eglwys Betws Garmon dafliad carreg o ffin [[Uwchgwyrfai]] yn [[Dyffryn Gwyrfai|Nyffryn Gwyrfai]]. Fo hefyd sydd yn cael ei gyplysu â [[Ffynnon Garmon]] ar lethrau dwyreiniol [[Moel Smytho]]. Nid oes sicrwydd, fodd bynnag, pwy oedd Garmon. Unig gyfeiriad cynnar ato mewn llenyddiaeth yw hynny yn ''Rhyfeddodau Ynys Brydain ac Ynys Fôn'' gan y Sais o fynach, Nennius, sy'n honni iddo ddarllen stori Garmon mewn llyfr oedd ganddo, ''Llyfr y Gwynfydedig Garmon''. Adroddir yn hwnnw fod Garmon wedi gwrthwynebu'r Brenin Gwrtheyrn oherwydd i'r brenin wahodd y Saeson i Ynys Prydain.<ref>Syr Ifor Williams, ''Hen Chwedlau'', yn Nhrafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, 1946-7, t.38</ref> Ysywaaeth mae'r llyfr, os oedd yn bodoli, wedi hen ddiflannu. | ||
Roedd hi'n arferol ystyried mai Cymreigiad o enw Sant Germaine neu Germanus, esgob Auxerre yn y 5g. a ddaeth i Brydain i wrthwynebu heresi Pelagaidd, oedd enw Garmon. Er y byddai'n rhesymol i feddwl bod sant mor amlwg yn mynd i ddenu dilynwyr a gysegrai eglwysi yn ei enw, y mae Syr Ifor Williams wedi profi nad yw'n hawdd yn ieithyddol i Germanus droi'n Garmon. Mae Syr Ifor yn amau efallai mai sant Celtaidd o Lydaw, Iwerddon neu Ynys Manaw oedd Garmon yr eglwysi Cymreig, gyda'i ganolfan, efallai, yn Saint Harmon, Sir Faesyfed. Mae'n debyg mai teg felly yw ystyried Garmon yn sant Celtaidd yr enwyd nifer o eglwysi ar ei ôl, ond heb fod unrhyw gofnod arall o'i fywyd.<ref>E.G. Bowen, ''Saints, Settlements and Seaways'', (Caerdydd, 1977), t.67</ref> | |||
==Cyfeiriadau== | ==Cyfeiriadau== | ||
{{cyfeiriadau}} | {{cyfeiriadau}} | ||
[[Categori:Saint]] | [[Categori:Saint]] | ||
[[Categori:Pobl]] | [[Categori:Pobl]] |
Fersiwn yn ôl 20:59, 23 Chwefror 2021
Sant Garmon yw nawddsant Eglwys Betws Garmon dafliad carreg o ffin Uwchgwyrfai yn Nyffryn Gwyrfai. Fo hefyd sydd yn cael ei gyplysu â Ffynnon Garmon ar lethrau dwyreiniol Moel Smytho. Nid oes sicrwydd, fodd bynnag, pwy oedd Garmon. Unig gyfeiriad cynnar ato mewn llenyddiaeth yw hynny yn Rhyfeddodau Ynys Brydain ac Ynys Fôn gan y Sais o fynach, Nennius, sy'n honni iddo ddarllen stori Garmon mewn llyfr oedd ganddo, Llyfr y Gwynfydedig Garmon. Adroddir yn hwnnw fod Garmon wedi gwrthwynebu'r Brenin Gwrtheyrn oherwydd i'r brenin wahodd y Saeson i Ynys Prydain.[1] Ysywaaeth mae'r llyfr, os oedd yn bodoli, wedi hen ddiflannu.
Roedd hi'n arferol ystyried mai Cymreigiad o enw Sant Germaine neu Germanus, esgob Auxerre yn y 5g. a ddaeth i Brydain i wrthwynebu heresi Pelagaidd, oedd enw Garmon. Er y byddai'n rhesymol i feddwl bod sant mor amlwg yn mynd i ddenu dilynwyr a gysegrai eglwysi yn ei enw, y mae Syr Ifor Williams wedi profi nad yw'n hawdd yn ieithyddol i Germanus droi'n Garmon. Mae Syr Ifor yn amau efallai mai sant Celtaidd o Lydaw, Iwerddon neu Ynys Manaw oedd Garmon yr eglwysi Cymreig, gyda'i ganolfan, efallai, yn Saint Harmon, Sir Faesyfed. Mae'n debyg mai teg felly yw ystyried Garmon yn sant Celtaidd yr enwyd nifer o eglwysi ar ei ôl, ond heb fod unrhyw gofnod arall o'i fywyd.[2]