Ystad Glynllifon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 7: Llinell 7:
Ym 1636 fe briododd [[Thomas Glynn, AS a botanegydd|Thomas Glynn]], mab hynaf [[Syr William Glynn]], ag Elen, etifeddes Owen ap Robert Owen o Blas Bodafon y Glyn, nid nepell o Foelfre, Ynys Môn, gan ddod ag ystad sylweddol yng nghanol Môn yn ei sgil.
Ym 1636 fe briododd [[Thomas Glynn, AS a botanegydd|Thomas Glynn]], mab hynaf [[Syr William Glynn]], ag Elen, etifeddes Owen ap Robert Owen o Blas Bodafon y Glyn, nid nepell o Foelfre, Ynys Môn, gan ddod ag ystad sylweddol yng nghanol Môn yn ei sgil.


Tua diwedd y 17g, priododd Frances, merch [[John Glynn (yr olaf)|John Glynn]], uchel siryf y sir (1668-9) â [[Syr Thomas Wynn|Thomas Wynn]] o Foduan yn Llŷn. Efallai oherwydd agosrwydd Glynllifon at Gaernarfon, canolfan y sir, symudodd teulu'r Wynniaid i Blas Glynllifon i fyw, gan uno ystadau Glynllifon a Boduan. Dyma sut y daeth Ynys Enlli, ymysg llawer o eiddo arall, yn rhan o ystad Glynllifon. Yn nystod hanner cyntaf y 18g, fe briododd eu hunig fab, [[Syr John Wynn|John Wynn]] â Jane Wynne, etifeddes Melai, Llanfair Talhaearn ac Abaty Maenan, Dyffryn Conwy. Ychwanegodd hynny diroedd yn ardal Dinbych, Melai, ucheldir Cwm Eigiau a ffermydd a fyddai'n dod yn ffynhonell cyfoeth mawr maes o law ym mhlwyf Ffestiniog.<ref>J Griffiths, ''Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families'', (Horncastle, 1914), tt.172-3.</ref>
Tua diwedd y 17g, priododd Frances, merch [[John Glynn (yr olaf)|John Glynn]], uchel siryf y sir (1668-9) â [[Syr Thomas Wynn|Thomas Wynn]] o Foduan yn Llŷn. Efallai oherwydd agosrwydd Glynllifon at Gaernarfon, canolfan y sir, symudodd teulu'r Wynniaid i Blas Glynllifon i fyw, gan uno ystadau Glynllifon a Boduan. Dyma sut y daeth Ynys Enlli, ymysg llawer o eiddo arall, yn rhan o ystad Glynllifon. Yn ystod hanner cyntaf y 18g, fe briododd eu hunig fab, [[Syr John Wynn|John Wynn]] â Jane Wynne, etifeddes Melai, Llanfair Talhaearn ac Abaty Maenan, Dyffryn Conwy. Ychwanegodd hynny diroedd yn ardal Dinbych, Melai, ucheldir Cwm Eigiau a ffermydd a fyddai'n dod yn ffynhonell cyfoeth mawr maes o law ym mhlwyf Ffestiniog.<ref>J Griffiths, ''Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families'', (Horncastle, 1914), tt.172-3.</ref>


==Yr ystad ar ei mwyaf==
==Yr ystad ar ei mwyaf==

Fersiwn yn ôl 11:04, 27 Ionawr 2020

Ystad Glynllifon oedd prif ystad Uwchgwyrfai, gyda'i chanolfan ym Mhlas Glynllifon tua hanner milltir o bentref Llandwrog. Mi berchnogai diroedd ym mhob plwyf Uwchgwyrfai pan oedd ar ei mwyaf yn y 19g, a llawer o diroedd eraill o gyrion Dinbych ac Ynys Môn i bellafion Pen Llŷn.

Cychwyniad

Bu teulu'r Glynniaid yn berchen ar ystad yn ardal Dinlle o gyfnod cynnar iawn. Dywedir chwedlau mai Cilmin Droed-ddu oedd sylfaenydd cyfoeth y teulu, wedi iddo ddarganfod crochan yn llawn aur ar lethrau'r Eifl tua'r flwyddyn 1100. Beth bynnag am hynny, roedd aelodau'r teulu'n aelodau pwysig o lysoedd y Tywysogion ac wedyn yn gwasanaethu Brenin Lloegr a dichon daeth cyfoeth o'u cysylltiadau â'r awdurdodau.

Yr ystad yn tyfu

Ym 1636 fe briododd Thomas Glynn, mab hynaf Syr William Glynn, ag Elen, etifeddes Owen ap Robert Owen o Blas Bodafon y Glyn, nid nepell o Foelfre, Ynys Môn, gan ddod ag ystad sylweddol yng nghanol Môn yn ei sgil.

Tua diwedd y 17g, priododd Frances, merch John Glynn, uchel siryf y sir (1668-9) â Thomas Wynn o Foduan yn Llŷn. Efallai oherwydd agosrwydd Glynllifon at Gaernarfon, canolfan y sir, symudodd teulu'r Wynniaid i Blas Glynllifon i fyw, gan uno ystadau Glynllifon a Boduan. Dyma sut y daeth Ynys Enlli, ymysg llawer o eiddo arall, yn rhan o ystad Glynllifon. Yn ystod hanner cyntaf y 18g, fe briododd eu hunig fab, John Wynn â Jane Wynne, etifeddes Melai, Llanfair Talhaearn ac Abaty Maenan, Dyffryn Conwy. Ychwanegodd hynny diroedd yn ardal Dinbych, Melai, ucheldir Cwm Eigiau a ffermydd a fyddai'n dod yn ffynhonell cyfoeth mawr maes o law ym mhlwyf Ffestiniog.[1]

Yr ystad ar ei mwyaf

Mae arolwg o'r ystad a wnaed tua 1815, yn dangos fod gan yr ystad eiddo yn yr holl blwyfi canlynol: Boduan, Llangian, Llanengan, Llanfaelrhys, Aberdaron ac Enlli, Bryncroes, Mellteyrn, Llangwnnadl, Tudweiliog, Edern, Nefyn, Carnguwch, Llanfihangel y Pennant, Llandwrog, Abererch, Llanystumdwy, Llanarmon, Pistyll, Penmorfa, Llanfaglan, Llannor, Penrhos, Llangwnnadl, Deneio , Llanwnda, Dwygyfylchi, Conwy, Caerhun, Clynnog-fawr, Llanaelhaearn, Llanllyfni, Llanbeblig, Llanrug, Penllech, Llanddeiniolen, a'r Gyffin, i gyd yn Sir Gaernarfon. Hefyd, yn Siur Fôn, roedd gan yr ystad eiddo ym mhlwyfi Llangadwaladr, Llanfechell, Penrhosllugwy, Llanfwrog, Caergybi, Llanfflewin, Amlwch, Llanrhuddlad, Llanfihangel Tre’r Beirdd, Aberffraw, Llanfair Mathafarn Eithaf a Llanbedrgoch, Niwbwrch, a Llangeinwen; Llanfair Talhaearn, Llanrhaeadr Dyffryn Clwyd, Gwytherin, Llansannan, Llangernyw yn Sir Ddinbych ac ym mhlwyfi Ffestiniog a Llandecwyn yn Sir Feirionnydd.[2]

Yr ystad ers 200 mlynedd

Erbyn y 19g, roedd yr ystad yn eiddo i'r Arglwyddi Newborough, sef disgynyddion Wynniaid Boduan a Glynllifon oedd wedi sicrhau teitl yn Arglwyddiaeth Iwerddon am eu gwasanaeth gwleidyddol. Aeth yr Arglwydd cyntaf i drafferthion, fodd bynnag, a bu am flynyddoedd ar ffô yn yr Eidal. Ar ôl priodi ag Eidales [[Maria Stella Patronilla Chiappini], dychwelodd i Glynllifon ond yn fuan ar ôl tadogi dau fab mi farwodd. Nid oedd y teulu estynedig yn fodlon ar ei wraig newydd Eidalaidd, a gwrthodwyd iddi gymryd gofal ar yr ystad. Am bron i 20 mlynedd fe redwyd yr ystad mewn modd hynod ddi-fenter a cheidwadol gan ymddiriedolwyr o bell a gwelwyd dirywiad mawr yng nghyflwr pethau. Aeth y trydydd Arglwydd ati, fodd bynnag, i adfer pethau ar ôl 1832, gan ryddhau'r ystad o ddyled, datblygu chwareli llechi yn Llanberis, Ffestiniog a Dyffryn Conwy a chwarel ithfaen yn Nwygyfylchi. Prynodd sawl darn o dir neu ystad fechan, a cheisiodd gyfuno darnau ar wasgar o dir neu eu gwerthu. Buddsoddwyd llawer iawn mewn gwella adeiladau'r ystad ac adeiladu rhai newydd - yn cynnwys holl bentref Llandwrog a ddaeth yn fath ar "bewntref model".

Mor ddiweddar â 1873, prynodd yr Aglwydd Newborough ystad fechan a phlasty Collfryn Fawr er mwyn cryfhau ei afael ar diroedd yn ardal Llandwrog.[3]

Parhaodd bedwarydd mab y trydydd Arglwydd, sef yr Anrh.Frederick George Wynn, â'r gwaith ond hen lanc ydoedd 'i brif ddiddordebau oedd hwylio'r moroedd a saethu, ynghyd achroesawu ei ffriniau i'r plas. Fe oedd wedi etifeddu y rhan fwyaf o ystad Glynllifon, tra chafodd ei frawd hynaf diroedd y chwareli llechi - oedd yn dod ag incwm sylweddol iawn heb fawr o ymdrech ar ei ran. Roedd brawd arall, yr Anrh. Charles Henry Wynn, wedi etifeddu ystad helaeth Rug ger Corwen gan Syr Robert Williams Vaughan ar farwolaeth hwnnw ym 1859. Wedi i F.G. Wynn ei hun farw ym 1920, nid oedd y plas yn gartref parhaol. Yn gynyddol fe gyfunodd yr ystadau dan yr un gyfundrefn reoli.[4]

Roedd dechrau'r 20g yn amser anodd i ystadau, rhwng newidiadau economaidd, y dreth farwolaeth a'r Rhyfel Byd Cyntaf, a gwelwyd llawer iawn o werthu ystadau gan deuluoedd nad oedd yn gallu cynnal tai mawr ar gyfnod o ddirwasgiad. Yn aml byddai tir a ffermydd bychain oedd ar wasgar, neu ymhell o'r plas yn cael eu gwerthu yn y lle cyntaf, a dyna beth a ddigwyddodd i raddu yn achos ystad Glynllifon, ond mae gan teulu Newborough o hyd lawer o eiddo yn ardal Llandwrog er eu bod yn gwerthu rhai darnau o hyd. Rhan annatod o ystad Rug ydyw tiroedd Glynllifon, fodd bynnag.

Yn ystod y 20g, gwerthwyd y plasty ei hun a'i barc i fasnachwr coed ym 1947, a werthodd ran o'r eiddo wedyn i Goleg Madryn ym 1954 pan agorodd Coleg Glynllifon ei ddrysau yn y plasty. Yn ddiweddarach, agorodd y Cyngor Sir ran o'r gerddi fel Parc Glynllifon. Cymerodd y Parc y gweithdai drosodd oedd, cyn hynny, wedi cynhyrchu pob math ar ddeunydd ar gyfer yr ystad, o goed wedi'u llifio i wydr ar gyfer ffenestri a gwaith haearn o bob math - a hyd yn oed nwy ar gyfer cynhesu'r plas.

Cadwyd Belan fel cartref dros dro tan y 1980au, a giatws Groeslon Ffrwd fel swyddfa'r ystad. Bu'r asiant olaf i weinyddu'r ystad fel uned. Mr Rutherford, fyw yn y Plas Isaf gyferbyn â'i swyddfa.[5]

Cyfeiriadau

  1. J Griffiths, Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families, (Horncastle, 1914), tt.172-3.
  2. Archifdy Caernarfon, XD2/8356
  3. Archifdy Caernarfon, XD2/7459-7500
  4. Archifdy Caernarfon, XD2/passim
  5. Gwybodaeth bersonol/atgofion y cyfrannwr