Coleg Glynllifon

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Coleg Glynllifon oedd y coleg amaethyddol ar gyfer Sir Gaernarfon. Fe'i sefydlwyd yn wreiddiol ym mhlasty Madryn ger Nefyn gan y Cyngor Sir ym 1913 fel ysgol dechnegol. Oherwydd cyflwr yr adeilad, a'r ffaith fod adeilad addas yn nes at ganol y sir ar gael, sef Plas Glynllifon, symudwyd y coleg amaethyddol, fel yr oedd erbyn hynny, i hen blasty Teulu Glynllifon. Newidwyd enw'r sefydliad i "Coleg Amaethyddol Glynllifon" ym 1954. Roedd llawer o'r tir a'r gerddi'n gynwysedig yn y gwerthiant, gan sicrhau bod fferm sylweddol ar gael at ddefnydd y myfyrwyr. Yn ogystal ag amaethyddiaeth, cynigid cyrsiau coedwigaeth a garddwriaeth ymysg pynciau eraill. Oherwydd maint y Plas, cafwyd cyfle ehangach, a chyflogwyd athro ysgol i fod yn drefnydd cyrsiau preswyl ar gyfer plant oed cynradd, ac yr oedd wythnos yng Nglynllifon yn rhan gyson o amserlen llawer o ysgolion y sir.

Yn ogystal â'r Plas ei hun, defnyddid y stablau fel neuadd breswyl, adeilad a estynnwyd tua 1990 gan greu porth newydd yn wynebu'r lôn o'r ffordd fawr.

Ym 1993, gyda diddymiad adrannau chweched dosbarth yn y rhan fwyaf o dde Gwynedd, cyfunwyd Coleg Glynllifon a Choleg Meirionnydd, gan agor trydedd ran i'r coleg ym Mhwllheli, i ffurfio Coleg Meirion-Dwyfor. Erbyn hyn, wedi cyfres o uniadau pellach, mae'r hyn a oedd yn Goleg Glynllifon yn un o gampysau Grŵp Llandrillo Menai.[1]

Yn fuan wedyn, tynnwyd addysg drydyddol oddi ar y cynghorau sir, a chollodd y Cyngor Sir feddiant ar y tiroedd a ddefnyddir gan y coleg. Aeth y coleg yn sefydliad annibynnol. Bu sawl datblygiad wedyn; gwerthwyd y Plas ac adeiladwyd llawer o adeiladau newydd pwrpasol ar gyfer dysgu ac arbrofi yn ogystal ag adeiladau amaethyddol eu diben.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Rhagair i gatalog cofnodion y Coleg yn Archifdy Gwynedd.