Parc Glynllifon

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Parc Glynllifon yn enw newydd ar erddi gwyllt arddurniedig a grëwyd o gwmpas plasty Glynllifon. Mae lle i gredu bod y gerddi wedi eu creu erbyn canol yr 17g gan Syr William Glynn neu ei fab, y llysieuwr a'r aelod seneddol Thomas Glynn, os nad gan eu hynafiaid hyd yn oed, ond yn sicr bu'r olaf yn cymryd diddordeb mawr ynddynt. Yn wir, gerddi addurniedig Glynllifon yw'r rhai hynaf yn y sir y mae cofnod amdanynt.

Aeth y gerddi trwy sawl adnewyddiad, ond Spencer Bulkeley Wynn, 3ydd Arglwydd Newborough oedd yn bennaf cyfrifol am eu dyluniad presennol yn y 1830au-60au, gan drefnu nifer o osodiadau a ffolïau yn y Cwm Coed i ddenu diddordeb ymwelwyr ac i greu man chwarae hyfryd i'w plant, gyda milltiroedd o lwybrau, coed a phlanhigion estron (a rhedynnau'n arbennig). Cododd furddun smâl o felin lle gallai ei blant chwarae, a chapel a mynwent lle claddwyd nifer o gŵn anwes y teulu.

Ar ôl i'r gerddi gael eu hanwybyddu a'u distrywio'n araf am ganrif, cafodd Prif Weithredwr Cyngor Sir Gwynedd, Ioan Bowen Rees, y weledigaeth o'u hadfer, gan ehangu'r elfen gelfyddydol trwy greu parc cerflunwaith. Yn ystod y 1980au, cafwyd grantiau helaeth gan Gomisiwn Gwasanaethau'r Gweithlu i gyflogi gweithwyr di-waith, a chliriwyd llawer o'r gordyfiant a'r nentydd a ffosydd, dan arweiniad y pensaer tirlunio Terry Rendell, aelod o staff y Cyngor. Agorwyd y tiroedd hyn ar ddiwedd y gwaith i'r cyhoedd, gan fathu'r enw "Parc Glynllifon", ac mae'n dal yn agored, er i'w gyflwr ddechrau dirywio eto gyda thoriadau llym yn y cyllid a geir gan y cyngor presennol. Trefnir ralïau hen geir, ffeiriau crefft ac ati, ac erbyn hyn hefyd adferwyd hen weithdai'r ystâd, gan gynnwys yr injan stêm oedd yn pweru'r felin lifio. Yr enwog Fred Dibnah a drwsiodd simne fawr y gwaith, ac ef a Roy Wakeford o'r Bontnewydd, y pensaer a oedd yn gyfrifol am adfer yr adeiladau, a adferodd yr injan stêm i gyflwr lle gellir ei thanio'n achlysurol. Ceir caffi a siopau a gweithdai crefftwyr yno hefyd.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma