Ysgolion Sul: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Gwylan (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Gwylan (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 51: Llinell 51:
* [[Capel Salem (MC), Llanllyfni]]: 63 o ddisgyblion dan 15; 124 dros 15.
* [[Capel Salem (MC), Llanllyfni]]: 63 o ddisgyblion dan 15; 124 dros 15.
* [[Ysgoldy'r Mynydd (MC), Llanllyfni]]: 68 o ddisgyblion dan 15; 66 dros 15.
* [[Ysgoldy'r Mynydd (MC), Llanllyfni]]: 68 o ddisgyblion dan 15; 66 dros 15.
* [[Capel Ebeneser (B)], Llanllyfni]]: 27 o ddisgyblion dan 15; 26 dros 15.
* [[Capel Ebeneser (B), Llanllyfni]]: 27 o ddisgyblion dan 15; 26 dros 15.
* [[Capel Drws-y-coed (A)]]: 34 o ddisgyblion dan 15; 35 dros 15. (Rhestrir [[Drws-y-coed]] o dan blwyf Beddgelert yn yr adroddiad.
* [[Capel Drws-y-coed (A)]]: 34 o ddisgyblion dan 15; 35 dros 15. (Rhestrir [[Drws-y-coed]] o dan blwyf Beddgelert yn yr adroddiad.



Fersiwn yn ôl 15:26, 21 Hydref 2019

Cyffredinol

Sefydlwyd y mudiad ysgolion Sul yng Nghymru ar ddechrau'r 19g a bu i bron i bob capel ac eglwys mewn amser fabwysiadu'r cysyniad, gan gynnal ysgol Sul ar gyfer yr aelodau (plant ac oedolion) a rhai eraill yn yr ardal. Cyfrwng addysgu pobl yn y ffydd a denu rhagor at y capeli ydoedd mudiad yr ysgolion Sul, ac mae rhai capeli'n parhau i'w cynnal hyd heddiw, er bod ysgolion lle ceir dosbarth o oedolion wedi prinhau'n arw.

Ysgolion Sul ym 1847

Cyhoeddwyd adroddiad am addysg yng Nghymru ym 1847. Er ei agwedd dilornus at Gymru a'r Gymraeg, a'i ragfarn o blaid yr Eglwys Sefydledig, mae'n llawn ffeithiau nad ydynt ar gael yn hawdd mewn mannau eraill, yn cynnwys rhestr o holl ysgolion Sul Cymru.

Sylwodd y comisiynwyr fod llawer o addysgu'n mynd rhagddo trwy gyfrwng yr ysgolion Sul. Nodai'r adroddiad, ymysg pethau eraill, enw'r capel, yr enwad, nifer y disgyblion o dan, a dros, 15 oed, pynciau a ddysgir ac ym mha iaith y cynhelir yr addysg.[1]

Clynnog Fawr

Llanaelhaearn

Roedd ysgolion Sul yn cael eu cynnal yn y capeli canlynol:

Llandwrog

Llanllyfni

Llanwnda

Ysgol Sul mewn plwyfi cyfagos

Wrth gwrs, nid oedd aelodau y capeli yn gaeth i ffiniau plwyf, ac yn aml roedd capel naill ai'n fwy cyfleus neu'n gapel o'u henwad nhw yn weddol agos i ffiniau Uwchgwyrfai ac i'r fannau hynny mae'n siŵr bod nifer wedi mynd. Mae'n werth felly nodi'r ffigyrau ar gyfer ambell i gapel arall nad oedd yn rhy bell i'w gyrchu ato'n hawdd. Dyma rhai:

Beddgelert

  • Capel Rhyd-ddu (MC): 49 o ddisgyblion dan 15; 45 dros 15.

Betws Garmon

  • Capel Salem (MC): 48 o ddisgyblion dan 15; 63 dros 15.

Llanbeblig

  • Capel Bontnewydd (MC): 77 o ddisgyblion dan 15; 43 dros 15.
  • Capel Waunfawr (MC): 15 o ddisgyblion dan 15; 27 dros 15.
  • Capel Waunfawr (â): 36 o ddisgyblion dan 15; 17 dros 15.

Wrth gyfrif y niferoedd a nodwyd uchod am gapeli Uwchgwyrfai (a'r un eglwys a oedd ganddi ysgol Sul) gellir dweud fod canran sylweddol y boblogaeth yn eu mynychu:

Cyfanswm y disgyblion

  • Clynnog Fawr: 362 o ddisgyblion dan 15 oed a 404 dros 15 oed, cyfanswm o 766 allan o boblogaeth o 1789, sef 42.8%.
  • Llanaelhaearn: 99 o ddisgyblion dan 15 oed a 91 dros 15 oed, cyfanswm o 190 allan o boblogaeth o 660, sef 28.8%.
  • Llandwrog: 635 o ddisgyblion dan 15 oed a 517 dros 15 oed, cyfanswm o 1152 allan o boblogaeth o 2688, sef 42.9%.
  • Llanllyfni: 320 o ddisgyblion dan 15 oed a 353 dros 15 oed, cyfanswm o 673 allan o boblogaeth o 2017, sef 33.4%.
  • Llanwnda: 204 o ddisgyblion dan 15 oed a 239 dros 15 oed, cyfanswm o 443 allan o boblogaeth o 1586, sef 27.9%.

Fel sydd wedi cael ei ddweud uchod, nid oedd plwyfolion yn gaeth i gapeli yn eu plwyf eu hunain, ac felly ni ddylid cymryd y ffigyrau uchod i ddangos fod rhai plwyfi'n tueddu mynychu ysgolion Sul yn well na'i gilydd, ond gellid dweud gyda chryn sicrwydd fod tua 38% 0 boblogaeth y sir, yn blant ac oedolion, yn mynychu rhyw ysgol Sul.

Gellir gweld o'r uchod fod yr ysgolion Sul wedi chwarae rhan sylweddol iawn mewn darparu rhywfaint o addysg i'r werin ym 1847, ac roedd oedolion yn ogystal â phlant yn derbyn addysg yno, er bod y rhan fwyaf o'r addysg (yh ôl yr adroddiad) yn gyfyngedig i ddysgu defodau a chredo'r enwad neu eglwys, emynau a daearyddiaeth Beiblaidd. Gan fod yr adroddiad yn nodi bod llawer iawn o'r mynychwyr yn gallu darllen y Beibl (a chofio nad oedd fawr o ddarpariaeth addysg dyddiol yn ôl yr un adroddiad) mae'n amlwg fod gan yr ysgolion Sul ran helaeth yn y gwaith o gynnal a chynyddu llythrennedd y boblogaeth.

Dau beth arall sydd yn werth eu nodi. Yn gyntaf, roedd y gwaith i bob pwrpas yn cael ei adael i'r capeli, a dichon fod hynny wedi cryfhau gafael y capeli ar y boblogaeth. Yn ail, roedd yr holl ysgolion yn defnyddio'r Gymraeg yn unig, yn groes i'r ysgolion dyddiol ffurfiol a ledaenai'r iaith Saesneg. Yr ysgolion Sul felly oedd y gyfundrefn addysg yn y Gymraeg, ac yn gyfrwng i'w gwarchod.

Y testun gwreiddiol

Gellir darllen yr adroddiadau i gyd ar wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru, trwy glicio yma: [1].

Mae rhai rhannau o'r adroddiad sydd yn ymdrin â Dyffryn Nantlle ar gael ar ffurf haws ar wefan nantlle.com trwy glicio yma: [2]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Reports of the Commissioners of Inquiry into the State of Education in Wales Atodiad i Gyf.III (Llundain,1847), tt.274-282