Capel Uchaf (MC), Clynnog Fawr

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Capel Uchaf, capel y Methodistiaid Calfinaidd tua milltir o bentref Clynnog Fawr ar hyd lôn Pant-glas wedi ei ddymchwel erbyn hyn, ond bu'n nodwedd amlwg o'r ardal am gant a hanner o flynyddoedd, gan roi ei enw i'r pentrefan a dyfodd o'i gwmpas, sef Capel Uchaf.

Yn y lle cyntaf, pan godwyd y capel tua 1761, arferid galw'r capel yn "Tŷ Newydd", ond yn y man daeth i'w adnabod yn syml fel "Capel" neu "Y Capel". Dyma oedd y capel cyntaf i'w godi gan y Methodistiaid yn Arfon, wedi i'r achos gael ei sefydlu yn y lle cyntaf yn nhŷ y Berth-ddu Bach, tŷ Dafydd ap Rhisiart Dafydd, un o'r rhai a effeithid gan bregethu Howell Harris tua 1747, wedi ymweliad gan hwnnw â'r plwyf, a chyda chefnogaeth ddistaw y person, Richard Nanney, offeiriad a oedd â chryn gydymdeimlad â'r credo Methodistaidd cynnar. Nid oedd perchennog Berth-ddu Bach a meistr Dafydd ap Rhisiart yn un o'r Methodistiaid cynnar ei hun, ond roedd ganddo ddigon o gydymdeimlad i ganiatáu'r gweithgaredd. Wedi hyn, bu gwasanaethau hefyd yn nhŷ o enw Tŷ'nlôn gerllaw safle'r capel a godwyd wedyn, ac a elwid yn Gapel Uchaf. Y ddau fan cwrdd hyn oedd gwreiddiau y Capel Uchaf. Fodd bynnag, dim ond pan agorwyd Capel Brynaerau (MC), hefyd ym mhlwyf Clynnog Fawr, dechreuodd yr arfer o alw'r gapel yn "Capel Uchaf".[1] Ail adeiladwyd y capel ym 1811 a thrachefn ym 1870. Fe'i gaewyd fis Chwefror 2001.

Bu Robert Roberts, (1762-1802) ymysg gweinidogion cynnar Capel Uchaf.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. W. Hobley, Hanes Methodistiaeth Arfon, Cyf.I, Dosbarth Clynnog (Caernarfon, 1910), t.19-21