Capel Tai Duon (MC)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Adfail Capel Tai Duon, 2006; llun:Eric Jones, Comins Creu

Mae gwreiddiau'r achos Methodistaidd yn Tai Duon yn mynd yn ôl i ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg; oddeutu 1808 dechreuwyd cynnal Ysgol Sul mewn ffermdy o'r enw Cwmbrân. Symudodd yr ysgol oddi yno i sawl man, megis Bryn Marsli, Tan-y-ffordd a Phant-glas, cyn ymsefydlu yn Tai Duon. Roedd Tai Duon yn dŷ o well safon na chartrefi cyntaf yr Ysgol Sul; roedd y rheini'n adeiladau bach a thywyll iawn heb hyd yn oed feinciau i'r addolwyr eistedd arnynt. Arferai'r hen flaenor hynod, Owen Owens, Cors-y-wlad, Clynnog Fawr, a aned ym 1800 (cyhoeddwyd cofiant iddo gan Henry Hughes, Bryncir), ddweud y cofiai'r Ysgol Sul hon yn gyfarfod mewn cwt mochyn o bob dim - anodd credu bod hynny'n llythrennol wir rhywsut! Roedd nifer o ffermwyr lleol a chrefftwyr megis Richard Humphrey (gwehydd) a Thomas Pritchard (teiliwr) yn gofalu am Ysgol Sul Tai Duon yn ei blynyddoedd cynnar. Ymhen rhyw ddeg mlynedd ar hugain wedi dechrau'r achos, adeiladwyd Ysgoldy yno ym 1838 a sefydlwyd eglwys ym 1854 pryd yr adeiladwyd capel bychan at wasanaeth y gynulleidfa.[1]

Mae Capel Tai Duon, hen gapel y Methodistiaid Calfinaidd, wedi hen gau ond mae'n dal i sefyll wrth fynwent Tai Duon ger Pant-glas. Nid yw fferm Tai Duon ond rhyw led dau gae o'r capel, a dichon mai ar dir a oedd yn perthyn i fferm Tai Duon y codwyd y capel yn y lle cyntaf. Saif ar yr hen ffordd gefn rhwng Tafarn-faig a Nasareth. Perthynai'r capel i Henaduriaeth Llŷn ac Eifionydd a pheidiodd â chael ei ddefnyddio'n helaeth wedi i Gapel Libanus agor mewn man mwy cyfleus yn y pentref. Mae map Ordnans 1888 yn nodi nad oedd yn cael ei ddefnyddio hyd yn oed yr adeg hynny. Bu ymgyrch ddiweddar i gadw ac adfer yr adeilad er gwaethaf cais i'w ddymchwel, a hynny er mwyn sicrhau cysgodfan i bobl sydd yn dod i'r fynwent ar gyfer angladdau, gan nad yw'r fynwent wedi ei chau'n llwyr.

Mae mynwent y capel yn hen, a'r gofrestr gladdu sydd ar gael yn dyddio o 1885.[2]


Cyfeiriadau

{{cyfeiriadau]]

  1. Goronwy P. Owen, Methodistiaeth Llŷn ac Eifionydd, (Cyhoeddwyd gan Henaduriaeth Llŷn ac Eifionydd, 1978), t.205.
  2. Gwefan Y Ffôr [1], cyrchwyd 16.3.2020