Capel Libanus (MC), Pant-glas

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Capel Libanus yn sefyll ar ochr ddwyreiniol yr A487 yng nghanol pentref Pant-glas yn rhan uchaf plwyf Clynnog Fawr. Capel sy'n perthyn i'r Methodistiaid Calfinaidd ydyw ond, er ei fod yn Uwchgwyrfai, mae'n rhan o Henaduriaeth Llŷn ac Eifionydd.

Fe'i codwyd ym 1868.[1] Mae'n hynod oherwydd fod y tŷ capel wrth ei ochr ac wedyn mae'r festri, y tri â'u mynedfeydd oddi ar y pafin cyhoeddus a heb eu cysylltu â'i gilydd.

Fel llawer i gapel arall mewn pentrefan nad oedd yn ddigon mawr i gynnal neuadd gyhoeddus, roedd y capel a'i festri'n gweithredu hefyd fel caolbwynt y gymuned, a'r capel yn cynnig cyfleoedd diwylliannol i'r ardalwyr. Gweler er enghraifft yr adroddiad hwn o 1887:

PANTGLAS. 
CYFARFOD LLENYDDOL LIBANUS.—Cynhaliwyd y cyfarfod uchod o dan arweiniad Mr Thomas Pierce, y Berch, yn ddoniol a bywiog. Y beirniaid oeddynt - Alafon, Alaw Llyfnwy, Mr Powell, Derwydd Uchaf; Mr Hughes, Derwvdd Fawr; Mrs Pritchard, Tai Duon; a Mrs Lewis, Cefn Tryfan. Cyfeilydd, G. Jones, Penygroes. Cafwyd ton gan Mri Thomas Davies, Penygroes, ac R. R. Jones. Rhai a enillodd ar y gwahanol destynau sydd fel y canlyn: - traethodau — Mr. Williams, gorsaf feistr, Brynkir; Miss Thomas, Pantglas; Miss Roberts. Ynysdyfuallt. Barddoniaeth — Iolo Glan Twrog; Mr Richard Hughes, Cennin; Mr J. Owens, Gyfelog; R. Evans, Felin Llecheiddiwr. Samplers — Miss Thomas, Pant Glas; Miss Jones. Gwendy; Miss Phillips, Tanyffordd; Miss Williams,Ty Newydd. Pren rhaffau - Mr J. Thomas, Nantcyllganol. Hosanau - Miss Williams, Gors. Drawing - Mr R. Owen, Brynkir. Cyfieithiad - Mr W. Thomas, Bronmenach, a Mr M. Owen, Cae'r Gors. Cafwyd anerchiadau barddonol gan Mr R. Hughes, Ty'nygors; Mr O. Rogers, Gors; Mr M. Evans, Gors; a Mr Pierce ac Alavon. yn eu llawn hwyliau. Cafwyd cyfarfod gwir dda, a chynulliad lluosog iawn.[2]

Enghraifft gyffelyb yw'r adrodd isod am gyngerdd ddwy flynedd yn ddwieddarach:

PANTGLAS. 
Cyngherdd. — Nos Sadwm, Chwefror 28ain, cynhaliwyd cyngherdd yn y lle uchod, dan lywyddiaeth fedrus Mr William Jones, Tyddyn Mawr. Gwasanaethwyd y cyfarfod gan Meistri Owen Jones, Plasgwyn; Richard Rogers, Penygroes; Robert Jones, Garn; J. H. Griffiths, Terfynau; a Miss C. Williams, Ty Newydd; Mr a Miss Williams, B.S., Garn; harmonydd, Mr R.D. Thomas, Penygroes; a Chor Llanllyfni, dan arweiniad Mr J. W. Jones. Cafwyd cynulliad lluosog, a gwnaed elw da. Dylai yr ardalwyr hyn deimlo fed ganddynt ddynion ieuainc mor ymroddgar gyda'r amcan clodwiw o geisio diddyledu eu haddysg, i'r rhai a welid yn gwerthu tocynau ar hyd a lled y wlad yr wythnosau diweddaf. [3]

Dyma'r capel y magwyd y canwr Bryn Terfel ynddo.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Gwefan Coflein, [1]
  2. YY Genedl Gymreig, 9.11.1887, t.6
  3. Y Genedl Gymreig, 11.3.1880, t.7