Capel Bethel (W), Pen-y-groes

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Codwyd capel cyntaf y Wesleiaid ym Pen-y-groes yn Nhreddafydd, rywbryd cyn 1845. Dichon mai dyma gapel y rhai a ymunodd â'r "Wesla bach" yn ystod y 1830au ym mhlwyf Llanllyfni, er iddynt ailymuno â phrif ffrwd Methodistiaid Wesleiaidd tua 1838.[1] Erbyn 1845, fodd bynnag, roedd y capel Wesla'n wag a rhentodd William Owen y capel am £5 y flwyddyn fel adeilad lle gellid sefydlu achos y Methodistiaid Calfinaidd yn y pentref - cyn hynny, rhaid oedd i Fethodistiaid y cylch addoli mewn capel Calfinaidd naill ai yn Llanllyfni neu Dal-y-sarn. Dichon mai Bethel oedd y capel cyntaf hwn a'r achos Calfinaidd wedi cario'r enw drosodd -a'i ddefnyddio ar eu capel newydd a godwyd ym 1860.

Codwyd capel y Wesleiaid ar Ffordd y Sir tua 1866, a'i enwi'n Horeb.

 Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
  1. A.H. Williams, Welsh Wesleyan Methodism, (Bangor, 1935), t.234