Brad y Llyfrau Gleision: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Gwylan (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Gwylan (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 38: Llinell 38:


Nid oedd ysgol o fewn ffiniau plwyf [[Llanwnda]], er mae'r adroddiad yn nodi bod ysgol genedlaethol (sef ysgol eglwys) wedi bod yno ar un adeg ond ei bod wedi dod i ben.<ref>''Reports of the Commissioners of Inquiry into the State of Education in Wales'' Atodiad i Gyf.III (Llundain,1847), t.42</ref>
Nid oedd ysgol o fewn ffiniau plwyf [[Llanwnda]], er mae'r adroddiad yn nodi bod ysgol genedlaethol (sef ysgol eglwys) wedi bod yno ar un adeg ond ei bod wedi dod i ben.<ref>''Reports of the Commissioners of Inquiry into the State of Education in Wales'' Atodiad i Gyf.III (Llundain,1847), t.42</ref>
Mae'r adroddiad am blwyf Llanbeblig, fodd bynnag, yn nodi bod yna ysgol Eglwysig yn [[Y Bontnewydd]], ac yr oedd nifer o blant [[Llanwnda]] yn ei mynychu. Roedd yr ysgol hon ag athro cymwysedig, wedi derbyn 6 mis o hyforddiant yng Ngholeg Hyfforddi Caernarfon, yn ogystal ag athrawes wnïo. Roedd 120 o ddisgyblion ar y llyfrau, ac fe'u addysgid mewn adeilad pwrpasol mewn sawl pwnc: y Beibl, ysgrifennu, darllen mathemateg, elfennau gramadeg a daearyddiaeth. Roedd pwyslais ar fedru darllen Saesneg yn ddeallus. Roedd y plant yn caelgwaith cartref bob nos. Y tâl am hyn oedd ceiniog yr wythnos. Dyma, efallai, yr ysgol orau oedd ar gael i blant Uwchgwyrfai, er ei bod ychydig lathenni y tu draw i ffin y cwmwd - ond rhaid cofio am ragfarnau'r arolygwyr a oedd yn Saeson ac yn Eglwyswyr, gan mai ysgol Eglwys ydoedd.<ref>''Reports of the Commissioners of Inquiry into the State of Education in Wales'' Atodiad i Gyf.III (Llundain,1847), t.35</ref>


==Ysgolion Sul==
==Ysgolion Sul==
Llinell 124: Llinell 126:


Dau beth arall sydd yn werth eu nodi. Yn gyntaf, roedd y gwaith i bob pwrpas yn cael ei adael i'r capeli, a dichon fod hynny wedi cryfhau gafael y capeli ar y boblogaeth. Yn ail, roedd yr holl ysgolion yn defnyddio'r Gymraeg yn unig, yn groes i'r ysgolion dyddiol ffurfiol a ledaenai'r iaith Saesneg. Yr ysgolion Sul felly oedd y gyfundrefn addysg yn y Gymraeg, ac yn gyfrwng i'w gwarchod.
Dau beth arall sydd yn werth eu nodi. Yn gyntaf, roedd y gwaith i bob pwrpas yn cael ei adael i'r capeli, a dichon fod hynny wedi cryfhau gafael y capeli ar y boblogaeth. Yn ail, roedd yr holl ysgolion yn defnyddio'r Gymraeg yn unig, yn groes i'r ysgolion dyddiol ffurfiol a ledaenai'r iaith Saesneg. Yr ysgolion Sul felly oedd y gyfundrefn addysg yn y Gymraeg, ac yn gyfrwng i'w gwarchod.
===Y testun gwreiddiol===
Gellir darllen yr adroddiadau i gyd ar wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru, trwy glicio yma: [https://www.llyfrgell.cymru/darganfod/oriel-ddigidol/deunydd-print/llyfrau-gleision-1847/].
Mae rhai rhannau o'r adroddiad sydd yn ymdrin â Dyffryn Nantlle ar gael ar ffurf haws ar wefan nantlle.com trwy glicio yma: [http://www.nantlle.com/llyfrau-gleision-cymraeg.htm]


{{eginyn}}
{{eginyn}}

Fersiwn yn ôl 15:02, 21 Hydref 2019

Cyflwyniad cyffredinol

Rhoddir yr enw Brad y Llyfrau Gleision i weithred Llywodraeth San Steffan ym 1847 o anfon arolygwyr (di-Gymraeg!) o amgylch Cymru i adrodd ar gyflwr addysg yn y wlad gan nodi manylion y ddarpariaeth ym mhob plwyf yng Nghymru. Pwrpas neilltuol yr arolwg, yn ôl yr hyn a ddywedir ar y dudalen flaen oedd cynnal "Inquiry ... into the means afforded to the Labouring Classes of acquiring a Knowledge of the English Language".[1] Gan fod yr arolygwyr wedi mynd y tu allan i'w brîff gwreiddiol a cheisio cysylltu anfoesoldeb tybiedig a thlodi â diffyg ymlyniad at yr Eglwys Sefydledig a diffygion yn y system addysg - a gwaeth na hynny, diffyg gallu yn yr iaith Saesneg - teimlai'r Cymry, gyda chryn gyfiawnhad, eu bod yn cael eu sarhau a'u bychanu. Roedd arddull ac agwedd dilornus yr arolygwyr yn cryfhau hynny. Bu cythrwfl a beirniadu hallt gan Gymry o bob radd.

Sonnid am yr adroddiad fel y llyfrau gleision gan fod yna dair cyfrol wedi eu rhwymo mewn cloriau papur glas; arferid i adroddiadau swyddogol y Llywodraeth ar y pryd, ar ba fater bynnag y bônt, gael eu cyhoeddi gyda chloriau papur glas tywyll. Cyhoeddwyd cannoedd o "lyfrau gleision" ond mae'r enw wedi glynu'n benodol at yr adroddiad hwn.

Serch hyn, mae gwerth i'r adroddiad os gellir edrych heibio i'r sarhad a'r gwawd a chanolbwyntio ar y ffeithiau moel yr adroddir amdanynt megis nifer y disgyblion. Yn yr atodiad, mae paragraff neu fwy am bob plwyf yng Nghymru. Canolbwyntir yma ar yr hyn sydd gan y llyfrau gleision i'w ddweud am bum plwyf Uwchgwyrfai.

Cyn bod addysg yn orfodaeth statudol a phob plentyn yn gorfod derbyn addysg (rhywbeth na ddigwyddodd nes basio Deddf Addysg 1870) roedd addysg yn nwylo'r eglwys, y Cymdeithasau Addysg enwadol megis y Gymdeithas Genedlaethol a'r Gymdeithas Brydeinig, ac unigolion elusengar a fyddai'n sefydlu ysgol, ac unigolion a geisiai ennill eu tamaid trwy gynnig addysg preifat am geiniog neu ddwy'r wythnos. Ysgolion felly oedd yr ysgol a noddwyd gan yr eglwys yng Nghlynnog Fawr tua diwedd y 17g ac Ysgol Eben Fardd, eto yng Nghlynnog.

Yr Adroddiadau

Darlun cymysg o ddarpariaeth fratiog addysg tua 1847 oedd y mwyaf y gellid ei ddisgwyl ar y gorau gan adroddiad y llyfrau gleision. Yn dilyn, ceir nodyn am y pum plwyf yn Uwchgwyrfai yn ôl yr hyn a nodwyd yn yr adroddiad.

Clynnog Fawr

Nodir yn y llyfrau gleision nad oedd ysgol yng Nghlynnog ym 1846. Roedd ysgol gynt yn cael ei chynnal yng Nghapel Beuno ond bod honno wedi dod i ben. Nodir ymhellach nad oedd ysgol yn yr un pentref am bellter o 16 milltir o Landwrog i Bwllheli.[2]

Llanaelhaearn

Nodir dan bennawd Llanaelhaearn nad oes yr un ysgol o fewn y plwyf na'r plwyfi cyfagos.[3]

Llandwrog

Yn achos Llandwrog nodir fod dwy ysgol o fewn ffiniau'r plwyf, y ddwy dan nawdd yr eglwys, sef "Llandwrog Church School" a'r "Mountain School" yng nghylch Mynydd Cilgwyn.[4]

Yn Ysgol Llandwrog, roedd 45 ar y gofrestr, ond dim ond 28 oedd yn bresennol ar ddiwrnod ymweliad y comisiynydd ar 1 Rhagfyr 1846. Y pynciau a ddysgid oedd y Beibl, ysgrifennu, darllen a mathemateg. Roedd yr athro yn gyn-gariwr heb unrhyw hyfforddiant, roedd yr ysgoldy'n fudr iawn, a'r toiledau allanol mewn stâd "atrocious and demoralising".

Yn y "Mountain School" roedd pethau, yn ôl yr arolygydd, fawr gwell. Yr ysgolfeistr oedd Joshua Williams, dyn na chafodd fawr o gyfle am addysg, eto yn ôl yr arolygydd; roedd yno ysgolfeistres ifanc 18 oed hefyd, a 4 monitor. 78 oedd nifer swyddogol y disgyblion ond dim ond 48 oedd yno. Roedd hanner y rhain yn rhy dlawd i dalu dim at eu haddysg; dywedwyd hefyd fod tua 250 o blant bach yn byw o fewn milltir i'r ysgol nad oedd yn cael unrhyw addysg o gwbl. Dysgid yr un pynciau ag yn Ysgol Llandwrog, a gramadeg a daearyddiaeth hefyd i'r bechgyn yn unig. Yr unig raen yno oedd llwyddiant cymharol mathemateg.

Llanllyfni

Nodwyd nad oedd arian ar gael i sefydlu ysgol ar gyfer plant y tlodion. Cynhelid ysgol breifat yn y plwyf, gan ddefnyddio hen gapel y Bedyddwyr Sandemanaidd yn y pentref. Cafodd yr ysgolfeistr gyflog o £5 y flwyddyn gan ficer y plwyf, ac wwedyn codid ceiniog yr wythnos ar y disgyblion oedd i gyd yn blant i deuluoedd tlawd. Roedd 17 o enethod a 31 bachgen ar ygofrestr, ond pan ymwelodd John James, y comisiynydd cynorthwyol yr ysgol ar 3 Rhagfyr, dim ond 7 plentyn oedd yno oherwydd bod y frech goch yn rhemp yn y gymdogaeth ar y pryd.[5]

Roedd yr athro wedi treulio chwe wythnos yng Nghaernarfon yn derbyn hyfforddiant fel athro, ac roedd yn dysgu'r Beibl, darllen yn y ddwy iaith, ysgrifennu, mathemateg a gramadeg y ddwy iaith. Prif feirniadaeth John James oedd cyflwr yr adeilad a'r dodrefn, a'r ffaith nad oedd lle tân yn y lle. Nid oedd toiledau ar gael i'r plant.

Llanwnda

Nid oedd ysgol o fewn ffiniau plwyf Llanwnda, er mae'r adroddiad yn nodi bod ysgol genedlaethol (sef ysgol eglwys) wedi bod yno ar un adeg ond ei bod wedi dod i ben.[6]

Mae'r adroddiad am blwyf Llanbeblig, fodd bynnag, yn nodi bod yna ysgol Eglwysig yn Y Bontnewydd, ac yr oedd nifer o blant Llanwnda yn ei mynychu. Roedd yr ysgol hon ag athro cymwysedig, wedi derbyn 6 mis o hyforddiant yng Ngholeg Hyfforddi Caernarfon, yn ogystal ag athrawes wnïo. Roedd 120 o ddisgyblion ar y llyfrau, ac fe'u addysgid mewn adeilad pwrpasol mewn sawl pwnc: y Beibl, ysgrifennu, darllen mathemateg, elfennau gramadeg a daearyddiaeth. Roedd pwyslais ar fedru darllen Saesneg yn ddeallus. Roedd y plant yn caelgwaith cartref bob nos. Y tâl am hyn oedd ceiniog yr wythnos. Dyma, efallai, yr ysgol orau oedd ar gael i blant Uwchgwyrfai, er ei bod ychydig lathenni y tu draw i ffin y cwmwd - ond rhaid cofio am ragfarnau'r arolygwyr a oedd yn Saeson ac yn Eglwyswyr, gan mai ysgol Eglwys ydoedd.[7]

Ysgolion Sul

Sylwodd y comisiynwyr fod llawer o addysgu'n mynd rhagddo trwy gyfrwng yr ysgolion Sul. Nodai'r adroddiad, ymysg pethau eraill, enw'r capel, yr enwad, nifer y disgyblion o dan, a dros, 15 oed, pynciau a ddysgir ac ym mha iaith y cynhelir yr addysg.[8]

Clynnog Fawr

Llanaelhaearn

Roedd ysgolion Sul yn cael eu cynnal yn y capeli canlynol:

Llandwrog

Llanllyfni

Llanwnda

Ysgol Sul mewn plwyfi cyfagos

Wrth gwrs, nid oedd aelodau y capeli mor gaeth i ffiniau plwyf, ac yn aml roedd capel naill ai'n fwy cyfleus neu'n gapel o'u henwad nhw yn weddol agos i ffiniau Uwchgwyrfai ac i'r fannau hynny mae'n siŵr bod nifer wedi mynd. Mae'n werth felly nodi'r ffigyrau ar gyfer ambell i gapel arall nad oedd yn rhy bell i'w gyrchu ato'n hawdd. Dyma rhai:

Beddgelert

  • Capel Rhyd-ddu (MC): 49 o ddisgyblion dan 15; 45 dros 15.

Betws Garmon

  • Capel Salem (MC): 48 o ddisgyblion dan 15; 63 dros 15.

Llanbeblig

  • Capel Bontnewydd (MC): 77 o ddisgyblion dan 15; 43 dros 15.
  • Capel Waunfawr (MC): 15 o ddisgyblion dan 15; 27 dros 15.
  • Capel Waunfawr (I): 36 o ddisgyblion dan 15; 17 dros 15.

Wrth gyfrif y niferoedd a nodwyd uchod am gapeli Uwchgwyrfai (a'r un eglwys a oedd ganddi ysgol Sul) gellir dweud fod canran sylweddol y boblogaeth yn eu mynychu:

Cyfanswm y disgyblion

  • Clynnog Fawr: 362 o ddisgyblion dan 15 oed a 404 dros 15 oed, cyfanswm o 766 allan o boblogaeth o 1789, sef 42.8%.
  • Llanaelhaearn: 99 o ddisgyblion dan 15 oed a 91 dros 15 oed, cyfanswm o 190 allan o boblogaeth o 660, sef 28.8%.
  • Llandwrog: 635 o ddisgyblion dan 15 oed a 517 dros 15 oed, cyfanswm o 1152 allan o boblogaeth o 2688, sef 42.9%.
  • Llanllyfni: 320 o ddisgyblion dan 15 oed a 353 dros 15 oed, cyfanswm o 673 allan o boblogaeth o 2017, sef 33.4%.
  • Llanwnda: 204 o ddisgyblion dan 15 oed a 239 dros 15 oed, cyfanswm o 443 allan o boblogaeth o 1586, sef 27.9%.

Fel sydd wedi cael ei ddweud uchod, nid oedd plwyfolion yn gaeth i gapeli yn eu plwyf eu hunain, ac felly ni ddylid cymryd y ffigyrau uchod i ddangos fod rhai plwyfi'n tueddu mynychu ysgolion Sul yn well na'i gilydd, ond gellid dweud gyda chryn sicrwydd fod tua 38% 0 boblogaeth y sir, yn blant ac oedolion, yn mynychu rhyw ysgol Sul.

Gellir gweld o'r uchod fod yr ysgolion Sul wedi chwarae rhan sylweddol iawn mewn darparu rhywfaint o addysg i'r werin ym 1847, ac roedd oedolion yn ogystal â phlant yn derbyn addysg yno, er bod y rhan fwyaf o'r addysg (yh ôl yr adroddiad) yn gyfyngedig i ddysgu defodau a chredo'r enwad neu eglwys, emynau a daearyddiaeth Beiblaidd. Gan fod yr adroddiad yn nodi bod llawer iawn o'r mynychwyr yn gallu darllen y Beibl (a chofio nad oedd fawr o ddarpariaeth addysg dyddiol yn ôl yr un adroddiad) mae'n amlwg fod gan yr ysgolion Sul ran helaeth yn y gwaith o gynnal a chynyddu llythrennedd y boblogaeth.

Dau beth arall sydd yn werth eu nodi. Yn gyntaf, roedd y gwaith i bob pwrpas yn cael ei adael i'r capeli, a dichon fod hynny wedi cryfhau gafael y capeli ar y boblogaeth. Yn ail, roedd yr holl ysgolion yn defnyddio'r Gymraeg yn unig, yn groes i'r ysgolion dyddiol ffurfiol a ledaenai'r iaith Saesneg. Yr ysgolion Sul felly oedd y gyfundrefn addysg yn y Gymraeg, ac yn gyfrwng i'w gwarchod.

Y testun gwreiddiol

Gellir darllen yr adroddiadau i gyd ar wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru, trwy glicio yma: [1].

Mae rhai rhannau o'r adroddiad sydd yn ymdrin â Dyffryn Nantlle ar gael ar ffurf haws ar wefan nantlle.com trwy glicio yma: [2]


Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Reports of the Commissioners of Inquiry into the State of Education in Wales Cyf.III (Llundain,1847), passim.
  2. Reports of the Commissioners of Inquiry into the State of Education in Wales Atodiad i Gyf.III (Llundain,1847), t.25
  3. Reports of the Commissioners of Inquiry into the State of Education in Wales, Atodiad i Gyf.III (Llundain,1847), t.31
  4. Reports of the Commissioners of Inquiry into the State of Education in Wales Atodiad i Gyf.III (Llundain,1847), tt. 37-8
  5. Reports of the Commissioners of Inquiry into the State of Education in Wales Atodiad i Gyf.III (Llundain,1847), t.41
  6. Reports of the Commissioners of Inquiry into the State of Education in Wales Atodiad i Gyf.III (Llundain,1847), t.42
  7. Reports of the Commissioners of Inquiry into the State of Education in Wales Atodiad i Gyf.III (Llundain,1847), t.35
  8. Reports of the Commissioners of Inquiry into the State of Education in Wales Atodiad i Gyf.III (Llundain,1847), tt.274-282