Dolydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 9: Llinell 9:
Am gyfnod byr cyn diwedd y 19g bu band yn y dreflan, sef [[Band Dolydd]].
Am gyfnod byr cyn diwedd y 19g bu band yn y dreflan, sef [[Band Dolydd]].


Nid nepell o'r Dolydd fe geir (mewn ceunant y tu ôl i fferm Cefn Hendre) safle [[Melin Cil Tyfu]], a fu'n eiddo i deulu Wynniaid Gwedir yn ystod y 16g. Ar hyd y llwybr cyhoeddus sy'n arwain o'r bont i'r gorllewin i gyfeiriad lôn Pwllheli a [[Hen Gastell]] ceir olion a all fod yn hen wal gefn plasty'r Hendre, cartref y Cadben [[Edmund Glynn]], un o feibion plas [[Glynllifon]], ynad heddwch ac arweinydd gweinyddiad sirol yn ystod teyrnasiad Cromwell.
Nid nepell o'r Dolydd fe geir (mewn ceunant y tu ôl i fferm Cefn Hendre) safle [[Melin Cil Tyfu]], a fu'n eiddo i deulu Wynniaid Gwedir yn ystod y 16g. Ar hyd y llwybr cyhoeddus sy'n arwain o'r bont i'r gorllewin i gyfeiriad lôn Pwllheli a [[Hen Gastell]] ceir olion a all fod yn hen wal gefn plasty'r [[Hendre (Llanwnda)|Hendre]], cartref y Cadben [[Edmund Glynn]], un o feibion plas [[Glynllifon]], ynad heddwch ac arweinydd gweinyddiad sirol yn ystod teyrnasiad Cromwell.


Y Goeden Eirin, tŷ a addaswyd o hen adeiladau fferm yr Hendre, oedd cartref olaf y llenor a'r beirniad yr Athro John Rowlands.
Y Goeden Eirin, tŷ a addaswyd o hen adeiladau fferm yr Hendre, oedd cartref olaf y llenor a'r beirniad yr Athro [[John Rowlands]].


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==


[[Categori:Pentrefi a threflannau]]
[[Categori:Pentrefi a threflannau]]

Fersiwn yn ôl 19:06, 23 Chwefror 2020

Treflan fechan ar lan Afonydd Carrog a Gwyled sy'n cwrdd dan Bont Dolydd, ac sydd ar yr hen ffordd dyrpeg (A487) rhwng y Bontnewydd a'r Groeslon yw'r Dolydd. Saif ar y ffin rhwng plwyfi Llanwnda a Llandwrog. Cafwyd yr enw o fferm Dolydd Byrion oedd i'r dwyrain o'r ffordd, ac arddelid yr enw hwnnw'n llawn am beth amser fel enw'r dreflan. Dichon, fodd bynnag, mai Dolydd Irion oedd yr enw gwreiddiol; ceir yr enw ar fap John Evans o Ogledd Cymru (1804). Fe saif y Dolydd ar lawr dyffryn bas yr Afon Carrog, ac mae'r tir yn tueddu i aros yn iraidd pan fydd llymder y gaeaf wedi llosgi tyfiant y caeau oddi amgylch.

Mae'r tŷ mwyaf yn y Dolydd, sef Plas Dolydd, wedi arfer bod yn dafarn ac yno y cyfarfu egin gynulleidfa achos Capel Bryn'rodyn (MC), cyn i'r capel gael ei godi tua chwarter milltir i'r de. Roedd Evan Jones, Plas Dolydd yn adeiladydd a chontractwr pwysig yng nghanol y 19g.

Ymddengys hefyd fod tanerdy neu farcdy wedi bod yn y Dolydd am gyfnod sylweddol. Mae'n bosibl fod Edward Jones o'r Dolydd (?1749-?1786) y cyfansoddwr anthemau, yn farcwr wrth ei waith;[1] ac mae cofnod o 1824 fod un Edward Evans, barcwr, wedi sefyll yn warantwr ar gyfer crefftwr oedd yn gwella Pont y Crychddwr.[2]

Gerllaw Giât Dolydd, tollborth ar y ffordd dyrpeg (y chwalwyd ei holion olaf wrth godi tŷ newydd a elwir Y Bwthyn) oedd Efail Dolydd, gefail gynhyrchiol iawn hyd yr ugeinfed ganrif. Mae'n bosibl mai yn yr efail hon yn cynhelid ysgol am gyfnod byr tua 1810 gan Dafydd Ddu Eryri.[3] Dyna, mae'n debyg, cafodd Robert Hughes, Uwchlaw'rffynnon ei addysg am gyfnod.[4] Olynydd yr efail honno yw'r modurdy presennol ger y bont, sydd bellach hefyd yn rhedeg swyddfa bost ar gyfer y Groeslon a'r cylch.

Am gyfnod byr cyn diwedd y 19g bu band yn y dreflan, sef Band Dolydd.

Nid nepell o'r Dolydd fe geir (mewn ceunant y tu ôl i fferm Cefn Hendre) safle Melin Cil Tyfu, a fu'n eiddo i deulu Wynniaid Gwedir yn ystod y 16g. Ar hyd y llwybr cyhoeddus sy'n arwain o'r bont i'r gorllewin i gyfeiriad lôn Pwllheli a Hen Gastell ceir olion a all fod yn hen wal gefn plasty'r Hendre, cartref y Cadben Edmund Glynn, un o feibion plas Glynllifon, ynad heddwch ac arweinydd gweinyddiad sirol yn ystod teyrnasiad Cromwell.

Y Goeden Eirin, tŷ a addaswyd o hen adeiladau fferm yr Hendre, oedd cartref olaf y llenor a'r beirniad yr Athro John Rowlands.

Cyfeiriadau

  1. Archifdy Caernarfon, Cofrestr Llandwrog, 1786
  2. Archifdy Caernarfon, XPlansB/190
  3. Y Bywgraffiadur Cymreig (Llundain, 1953), t.883
  4. Geraint Jones,Gŵr Hynod Uwchlaw'rffynnon, (Llanrwst, 2008), tt.8, 17