Cwellyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 2: Llinell 2:

Disgrifiwyd y plasty tua 1810 fel "''a very mean building''", a oedd wedi bod yn nwylo teulu Cwellyn ond a oedd, erbyn hynny, wedi pasio i berchnogion newydd.<ref>Edmund Hyde-Hall, ‘’A Description of Caernarvonshire’’, (Caernarfon, 1952), t.205.</ref>

Roedd y teulu a oedd wedi mabwysiadu'r cyfenw Quellyn wedi symud o'r plasty rywbryd yn ystod y 18g, efallai i fferm arall, Cwm Bychan, yn yr un plwyf. Rywbryd cyn 1792, roedd ffermwr o'r enw William Jones wedi cymryd y lle ar brydles. Mae rhestr o'i eiuddo pan farwodd yn dangos ei fod yn ffermwr ar raddfa weddol fawr am y cyfnod<ref>Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Ewyllysiau Bangor, B/1792/86</ref>. Roedd 5 ystafell yn y tŷ, a'r dodrefn yno'n werth £21.19.0c, ynghyd a gwerth £4.5.0c o fenyn. Roedd yno 100 o ddefaid a 35 o ŵyn, gwerth £36.2.6c i gyd; tarw gwerth £4.3.0c, 10 o fuchod, 10 o fustych, 10 llo blwydd a 9 o loi dwyflwydd, gwerth £108.9.0c; mocyn, gwair, offer fferm a llo arall (a restrwyd ar wahân am ryw rheswm - eiddo oedd yn werth £208.9.0c i gyd. Roedd hyn yn swm nid ansylweddol i ffarmwr ar y pryd.

Mae J.E. Griffith wedi awgrymu, ar ba sail na wyddys, mae ystyr Cwellyn yw Cae-uwch-llyn<ref>J.E. Griffith, ''Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families'', (Horncastle, 1914), t.229</ref>, ond mae Glenda Carr o'r un farn a'r Athro J Lloyd-Jones  ei fod yn dalfyriad o'r geiriau cawell a llyn i greu ''Cawellyn''.<ref>Glenda Carr, ''Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd'', (Caernarfon, 2011), t.130.</ref>

Fersiwn yn ôl 19:41, 4 Mehefin 2019

Cwellyn yw enw plasty bach sydd sefyll wrth ben uchaf Llyn Cwellyn. Mae'r llyn, ac hefyd Pont Cwellyn ac Afon Cwellyn yn cymryd eu henwau, mae'n debyg, oddi wrth y plasty sydd bellach yn fferm. Mae Cwellyn yn sefyll yn y darn pellaf o hen blwyf Llanwnda, sydd bellach yn rhan o blwyf Betws Garmon ar gyrion mwyaf dwyreiniol Uwchgwyrfai.

Disgrifiwyd y plasty tua 1810 fel "a very mean building", a oedd wedi bod yn nwylo teulu Cwellyn ond a oedd, erbyn hynny, wedi pasio i berchnogion newydd.[1]

Roedd y teulu a oedd wedi mabwysiadu'r cyfenw Quellyn wedi symud o'r plasty rywbryd yn ystod y 18g, efallai i fferm arall, Cwm Bychan, yn yr un plwyf. Rywbryd cyn 1792, roedd ffermwr o'r enw William Jones wedi cymryd y lle ar brydles. Mae rhestr o'i eiuddo pan farwodd yn dangos ei fod yn ffermwr ar raddfa weddol fawr am y cyfnod[2]. Roedd 5 ystafell yn y tŷ, a'r dodrefn yno'n werth £21.19.0c, ynghyd a gwerth £4.5.0c o fenyn. Roedd yno 100 o ddefaid a 35 o ŵyn, gwerth £36.2.6c i gyd; tarw gwerth £4.3.0c, 10 o fuchod, 10 o fustych, 10 llo blwydd a 9 o loi dwyflwydd, gwerth £108.9.0c; mocyn, gwair, offer fferm a llo arall (a restrwyd ar wahân am ryw rheswm - eiddo oedd yn werth £208.9.0c i gyd. Roedd hyn yn swm nid ansylweddol i ffarmwr ar y pryd.

Mae J.E. Griffith wedi awgrymu, ar ba sail na wyddys, mae ystyr Cwellyn yw Cae-uwch-llyn[3], ond mae Glenda Carr o'r un farn a'r Athro J Lloyd-Jones ei fod yn dalfyriad o'r geiriau cawell a llyn i greu Cawellyn.[4]

Cymerodd y teulu eu cyfenw oddi wrth y lle - un o'r ychydig deuluoedd yn Uwchgwyrfai i wneud hyn (ar wahân i teulu Glynllifon).

Cyfeiriadau

  1. Edmund Hyde-Hall, ‘’A Description of Caernarvonshire’’, (Caernarfon, 1952), t.205.
  2. Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Ewyllysiau Bangor, B/1792/86
  3. J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families, (Horncastle, 1914), t.229
  4. Glenda Carr, Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd, (Caernarfon, 2011), t.130.