Teulu Glynn, Nantlle a Phlas Newydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Roedd '''Teulu Glynn, Nantlle a Phlas Newydd''' yn gefndryd [[Teulu Glynn (Glynllifon)]], [[Glynllifon]]. Roeddynt yn rhannu’r un achres honedig o’r sylfaenydd, [[Cilmin Droed-ddu]] hyd at farwolaeth [[Robert ap Meredydd]] o Lynllifon ym 1509. Etifeddodd yr ail fab, [[Edmund Llwyd]], [[Plas Glynllifon]] a rhannau o’r ystâd tra cafodd y brawd hŷn, Richard ap Robert, diroedd [[Baladeulyn]] neu [[Plas Nantlle|Blas-yn-Nantlle]], hen eiddo Tywysogion Gwynedd a roddwyd i un o gyndadau’r teulu, Tudur Goch ap Gronw neu [[Tudur Goch]], am ei wrhydri ym mrwydrau Crécy a Phoitiers, a hynny tua 1350.
Roedd '''Teulu Glynn, Nantlle a Phlas Newydd''' yn gefndryd [[Teulu Glynn (Glynllifon)]], [[Glynllifon]]. Roeddynt yn rhannu’r un achres honedig o’r sylfaenydd, [[Cilmin Droed-ddu]] hyd at farwolaeth [[Robert ap Meredydd]] o Lynllifon ym 1509. Etifeddodd yr ail fab, [[Edmund Llwyd]], [[Plas Glynllifon]] rannau o’r ystâd tra cafodd y brawd hŷn, Richard ap Robert, diroedd [[Baladeulyn]] neu [[Plas Nantlle|Blas-yn-Nantlle]], hen eiddo Tywysogion Gwynedd a roddwyd i un o gyndadau’r teulu, Tudur Goch ap Gronw neu [[Tudur Goch]], am ei wrhydri ym mrwydrau Crécy a Phoitiers, a hynny tua 1350.


Bu farw Richard ap Robert ym 1539, gan adael ei ystâd i William Glynn (1520-1581). Credir mai ef a gododd tŷ presennol Plas Nantlle, a elwir heddiw yn “Dŷ Mawr”. .<ref>Richard Suggett a Margaret Dunn, Discovering the Old Houses of Snowdonia (Aberystwyth, 2014), tt.179-80</ref> William oedd y cyntaf o’r llinach i fabwysiadu’r cyfenw “Glynn”, tra bod ei frawd iau Thomas wedi dewis y cyfenw Prichard (ar ôl ei dad Richard ap Robert). Mae’n amlwg bod y cysylltiad â Glynllifon yn cyfrif i’r teulu oherwydd i’r mab hynaf ddewis Glynn yn gyfenw, ac roedd y teulu o gryn bwysigrwydd yn y gymdeithas sirol ar y pryd. Priododd William, mab William Glynn, â Catherine, merch Thomas Wynn ap William o’r Faenol, un o sgweieriaid pwysicaf y sir.
Bu farw Richard ap Robert ym 1539, gan adael ei ystâd i William Glynn (1520-1581). Credir mai ef a gododd tŷ presennol Plas Nantlle, a elwir heddiw yn “Dŷ Mawr”.<ref>Richard Suggett a Margaret Dunn, Discovering the Old Houses of Snowdonia (Aberystwyth, 2014), tt.179-80</ref> William oedd y cyntaf o’r llinach i fabwysiadu’r cyfenw “Glynn”, tra bod ei frawd iau Thomas wedi dewis y cyfenw Prichard (ar ôl ei dad Richard ap Robert). Mae’n amlwg bod y cysylltiad â Glynllifon wedi cyfrif i’r teulu oherwydd fe wnaeth y mab hynaf ddewis Glynn yn gyfenw, ac roedd y teulu o gryn bwysigrwydd yn y gymdeithas sirol ar y pryd. Priododd William, mab William Glynn, â Catherine, merch Thomas Wynn ap William o’r Faenol, un o sgweieriaid pwysicaf y sir.


Roedd ail fab William a Catherine, sef Hugh Glynn, wedi priodi â merch Bodwrdda ym Mhen Llŷn, a chawsant ferch, Lowri. Etifeddodd drydydd mab, Richard (a fu farw 1642), eiddo o’r enw Bryn Gwydion, ger y môr ym mhlwyf [[Llanllyfni]]. Cadwodd y gangen hon ei safle yn rhengoedd uchaf y sir, ac roedd Richard yn uchel siryf ym 1634. Priododd William ei fab Margaret Evans, unig aeres [[Elernion]], plwyf [[Llanaelhaearn]], a chawsant fab a thair merch. Roedd y mab, Richard arall, yn uchel siryf ym 1665, a bu iddo dri mab a thair merch ond ni chafodd yr un ohonynt blant. Un o’r merched sydd yn dal â’i chof yn fyw yn [[Uwchgwyrfai]] gan mai hi oedd yr [[Ellen Glynn, Bryn Gwydion]] a adawodd arian i sefydlu elusendai [[Tai Elen Glynn]] ar ôl iddi farw tua 1753.
Roedd ail fab William a Catherine, sef Hugh Glynn, wedi priodi â merch Bodwrdda ym Mhen Llŷn, a chawsant ferch, Lowri. Etifeddodd drydydd mab, Richard (a fu farw 1642), eiddo o’r enw Bryn Gwydion, ger y môr ym mhlwyf [[Llanllyfni]]. Cadwodd y gangen hon ei safle yn rhengoedd uchaf y sir, ac roedd Richard, Bryn Gwydion, yn uchel siryf ym 1634. Priododd William, mab Richard, Margaret Evans, unig aeres [[Elernion]], plwyf [[Llanaelhaearn]], a chawsant fab a thair merch. Roedd y mab hwnnw, Richard arall, yn uchel siryf ym 1665, a bu iddo dri mab a thair merch ond ni chafodd yr un ohonynt blant. Un o’r merched sydd â’i chof yn fyw yn [[Uwchgwyrfai]], gan mai hi oedd yr [[Ellen Glynn, Bryn Gwydion]] a adawodd arian i sefydlu elusendai [[Tai Elen Glynn]] ar ôl iddi farw tua 1753.
Gwasanaethodd mab hynaf yr ail William, a alwyd yn Thomas Glynn, fel uchel siryf y sir ym 1626-7. Yn unol â’i statws sirol efallai, aethpwyd ati i godi plasty newydd iddo fo ei hun ar diroedd o’i eiddo a oedd yn nes at hen gartref y teulu, sef [[Plas Glynllifon]]. Codwyd y tŷ newydd hwn ym 1632, a’i enwi (yn ddigon addas) yn [[Plas Newydd|Blas Newydd]]. <ref> Comisiwn Henebion Cymru, ‘’Caernarvonshire’’, Cyf.2: Central (Llundain, 1960), tt.183-4</ref> Dichon mai ar yr adeg hon y symudodd y teulu i waelodion plwyf [[Llandwrog]], gan fod cyfeiriadau cynnar ato’n ei alw’n “Thomas Glynn o Nantlle”. Roedd gan y Thomas hwn (a fu farw ym 1659) sawl brawd a chwaer ond prin fod yr un o arwyddocâd hanesyddol heblaw am Jane, a briododd â  Richard Ellis, [[Bodychen]], a thrwy hynny gryfhau cysylltiadau gwrth-seneddol y gangen hon o’r Glynniaid - gan gofio am dueddiadau gwrth-Frenhinol eu cefndryd o bell, [[Glynniaid Glynllifon]].


Cafodd Thomas Glynn, Plas Newydd a Jane ei wraig (merch Cefnamwlch yn Llŷn) bedwar mab, William Glynn (a aeth i fyw i Blas Nantlle ar ôl graddio yn Rhydychen), Simon, Harry a Richard, a oedd yn rheithor Edern erbyn 1637. Cafodd Richard y rheithor dyaid o blant, ond ni wyddys mawr am eu hanes. Cafodd William ddau fab, Thomas a aeth i Rydychen ym 1658 a John, hwnnw’n derbyn addysg Rhydychen ym 1668, a merch - ond mi fu farw'r tri heb blant. Oherwydd hyn, aeth tiroedd Plas Newydd i ddwylo teulu eu mam, sef Ann Owen o Fodeon, Môn ac Orielton, Sir Benfro.<ref> J.E. Griffith, ''Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families'' (Horncastle, 1914), tt.172, 175, 266, 270</ref>
Gwasanaethodd mab hynaf yr ail William, a alwyd yn Thomas Glynn, fel uchel siryf y sir ym 1626-7. Yn unol â’i statws sirol efallai, aethpwyd ati i godi plasty newydd iddo fo ei hun ar diroedd o’i eiddo a oedd yn nes at hen gartref y teulu, sef [[Plas Glynllifon]]. Codwyd y tŷ newydd hwn ym 1632, a’i enwi (yn ddigon addas) yn [[Plas Newydd|Blas Newydd]].<ref> Comisiwn Henebion Cymru, ‘’Caernarvonshire’’, Cyf.2: Central (Llundain, 1960), tt.183-4</ref> Dichon mai ar yr adeg hon y symudodd y teulu i waelodion plwyf [[Llandwrog]], gan fod cyfeiriadau cynnar ato fo yn ei alw’n “Thomas Glynn o Nantlle”. Roedd gan y Thomas hwn (a fu farw ym 1659) sawl brawd a chwaer ond prin fod yr un o arwyddocâd hanesyddol heblaw am Jane, a briododd â Richard Ellis, [[Bodychen]], a thrwy hynny gryfhau cysylltiadau gwrth-seneddol y gangen hon o’r Glynniaid - gan gofio am dueddiadau gwrth-Frenhinol eu cefndryd o bell, [[Glynniaid Glynllifon]].


O hynny ymlaen, roedd ystadau’r gangen hon o’r Glynniaid yn eiddo landlordiaid a drigai ymhell o’r ardal, nes i lawer o’r tiroedd megis ystâd Plas Llanfaglan a thir Plas Newydd ei hun gael eu caffael gan ystâd Glynllifon yn ystod y ganrif a hanner nesaf, gan uno rhai o’r hen diroedd hynafiaid y Glynniaid.
Cafodd Thomas Glynn, Plas Newydd a Jane ei wraig (merch Cefnamwlch yn Llŷn) bedwar mab, William Glynn (a aeth i fyw i Blas Nantlle ar ôl graddio yn Rhydychen), Simon, Harry a Richard, a oedd yn rheithor Edern erbyn 1637. Cafodd Richard y rheithor dyaid o blant, ond ni wyddys fawr am eu hanes. Cafodd William ddau fab, Thomas a aeth i Rydychen ym 1658 a John, hwnnw’n derbyn addysg Rhydychen ym 1668, a merch - ond bu farw'r tri heb blant. Oherwydd hyn, aeth tiroedd Plas Newydd i ddwylo teulu eu mam, sef Ann Owen o Fodeon, Môn ac Orielton, Sir Benfro.<ref> J.E. Griffith, ''Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families'' (Horncastle, 1914), tt.172, 175, 266, 270</ref> O hynny ymlaen, roedd ystadau’r gangen hon o’r Glynniaid yn eiddo landlordiaid a drigai ymhell o’r ardal, nes i lawer o’r tiroedd megis ystâd Plas Llanfaglan a thir Plas Newydd ei hun gael eu caffael gan ystâd Glynllifon yn ystod y ganrif a hanner nesaf, a thrwy hynny uno rhai o’r hen diroedd hynafiaid y Glynniaid.


Roedd un gangen arall o hen deulu Robert ap Meredydd o Glynllifon a arddelai’r cyfenw Glynn, a hynny am ryw gant a hanner o flynyddoedd. Deilliodd y gangen hon o hanner frawd Edmund Lloyd, sef [[William Glynn (Y Sarsiant)]], a wasanaethodd Harri VIII. Etifeddodd William diroedd Lleuar. Fe’i dilynwyd gan bedwar William arall, cyni’r aeres briodi [[George Twisleton]]. Nid oedd cysylltiad agos rhwng Glynniaid Lleuar a Glynniaid Plas Newydd, er dichon iddynt gydnabod y berthynas. .<ref> J.E. Griffith, ''Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families'' (Horncastle, 1914), t. 270</ref>
Roedd un gangen arall o hen deulu Robert ap Meredydd o Glynllifon a arddelai’r cyfenw Glynn, a hynny am ryw gant a hanner o flynyddoedd. Deilliodd y gangen hon o hanner frawd Edmwnd Llwyd, sef [[William Glynn (Y Sarsiant)]], a wasanaethodd Harri VIII. Etifeddodd William diroedd Lleuar. Fe’i dilynwyd gan bedwar William arall, cyni’r aeres briodi [[George Twisleton]]. Nid oedd cysylltiad agos rhwng Glynniaid Lleuar a Glynniaid Plas Newydd, er dichon iddynt gydnabod y berthynas.<ref> J.E. Griffith, ''Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families'' (Horncastle, 1914), t. 270</ref>


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==

Fersiwn yn ôl 17:59, 10 Medi 2023

Roedd Teulu Glynn, Nantlle a Phlas Newydd yn gefndryd Teulu Glynn (Glynllifon), Glynllifon. Roeddynt yn rhannu’r un achres honedig o’r sylfaenydd, Cilmin Droed-ddu hyd at farwolaeth Robert ap Meredydd o Lynllifon ym 1509. Etifeddodd yr ail fab, Edmund Llwyd, Plas Glynllifon rannau o’r ystâd tra cafodd y brawd hŷn, Richard ap Robert, diroedd Baladeulyn neu Blas-yn-Nantlle, hen eiddo Tywysogion Gwynedd a roddwyd i un o gyndadau’r teulu, Tudur Goch ap Gronw neu Tudur Goch, am ei wrhydri ym mrwydrau Crécy a Phoitiers, a hynny tua 1350.

Bu farw Richard ap Robert ym 1539, gan adael ei ystâd i William Glynn (1520-1581). Credir mai ef a gododd tŷ presennol Plas Nantlle, a elwir heddiw yn “Dŷ Mawr”.[1] William oedd y cyntaf o’r llinach i fabwysiadu’r cyfenw “Glynn”, tra bod ei frawd iau Thomas wedi dewis y cyfenw Prichard (ar ôl ei dad Richard ap Robert). Mae’n amlwg bod y cysylltiad â Glynllifon wedi cyfrif i’r teulu oherwydd fe wnaeth y mab hynaf ddewis Glynn yn gyfenw, ac roedd y teulu o gryn bwysigrwydd yn y gymdeithas sirol ar y pryd. Priododd William, mab William Glynn, â Catherine, merch Thomas Wynn ap William o’r Faenol, un o sgweieriaid pwysicaf y sir.

Roedd ail fab William a Catherine, sef Hugh Glynn, wedi priodi â merch Bodwrdda ym Mhen Llŷn, a chawsant ferch, Lowri. Etifeddodd drydydd mab, Richard (a fu farw 1642), eiddo o’r enw Bryn Gwydion, ger y môr ym mhlwyf Llanllyfni. Cadwodd y gangen hon ei safle yn rhengoedd uchaf y sir, ac roedd Richard, Bryn Gwydion, yn uchel siryf ym 1634. Priododd William, mab Richard, Margaret Evans, unig aeres Elernion, plwyf Llanaelhaearn, a chawsant fab a thair merch. Roedd y mab hwnnw, Richard arall, yn uchel siryf ym 1665, a bu iddo dri mab a thair merch ond ni chafodd yr un ohonynt blant. Un o’r merched sydd â’i chof yn fyw yn Uwchgwyrfai, gan mai hi oedd yr Ellen Glynn, Bryn Gwydion a adawodd arian i sefydlu elusendai Tai Elen Glynn ar ôl iddi farw tua 1753.

Gwasanaethodd mab hynaf yr ail William, a alwyd yn Thomas Glynn, fel uchel siryf y sir ym 1626-7. Yn unol â’i statws sirol efallai, aethpwyd ati i godi plasty newydd iddo fo ei hun ar diroedd o’i eiddo a oedd yn nes at hen gartref y teulu, sef Plas Glynllifon. Codwyd y tŷ newydd hwn ym 1632, a’i enwi (yn ddigon addas) yn Blas Newydd.[2] Dichon mai ar yr adeg hon y symudodd y teulu i waelodion plwyf Llandwrog, gan fod cyfeiriadau cynnar ato fo yn ei alw’n “Thomas Glynn o Nantlle”. Roedd gan y Thomas hwn (a fu farw ym 1659) sawl brawd a chwaer ond prin fod yr un o arwyddocâd hanesyddol heblaw am Jane, a briododd â Richard Ellis, Bodychen, a thrwy hynny gryfhau cysylltiadau gwrth-seneddol y gangen hon o’r Glynniaid - gan gofio am dueddiadau gwrth-Frenhinol eu cefndryd o bell, Glynniaid Glynllifon.

Cafodd Thomas Glynn, Plas Newydd a Jane ei wraig (merch Cefnamwlch yn Llŷn) bedwar mab, William Glynn (a aeth i fyw i Blas Nantlle ar ôl graddio yn Rhydychen), Simon, Harry a Richard, a oedd yn rheithor Edern erbyn 1637. Cafodd Richard y rheithor dyaid o blant, ond ni wyddys fawr am eu hanes. Cafodd William ddau fab, Thomas a aeth i Rydychen ym 1658 a John, hwnnw’n derbyn addysg Rhydychen ym 1668, a merch - ond bu farw'r tri heb blant. Oherwydd hyn, aeth tiroedd Plas Newydd i ddwylo teulu eu mam, sef Ann Owen o Fodeon, Môn ac Orielton, Sir Benfro.[3] O hynny ymlaen, roedd ystadau’r gangen hon o’r Glynniaid yn eiddo landlordiaid a drigai ymhell o’r ardal, nes i lawer o’r tiroedd megis ystâd Plas Llanfaglan a thir Plas Newydd ei hun gael eu caffael gan ystâd Glynllifon yn ystod y ganrif a hanner nesaf, a thrwy hynny uno rhai o’r hen diroedd hynafiaid y Glynniaid.

Roedd un gangen arall o hen deulu Robert ap Meredydd o Glynllifon a arddelai’r cyfenw Glynn, a hynny am ryw gant a hanner o flynyddoedd. Deilliodd y gangen hon o hanner frawd Edmwnd Llwyd, sef William Glynn (Y Sarsiant), a wasanaethodd Harri VIII. Etifeddodd William diroedd Lleuar. Fe’i dilynwyd gan bedwar William arall, cyni’r aeres briodi George Twisleton. Nid oedd cysylltiad agos rhwng Glynniaid Lleuar a Glynniaid Plas Newydd, er dichon iddynt gydnabod y berthynas.[4]

Cyfeiriadau

  1. Richard Suggett a Margaret Dunn, Discovering the Old Houses of Snowdonia (Aberystwyth, 2014), tt.179-80
  2. Comisiwn Henebion Cymru, ‘’Caernarvonshire’’, Cyf.2: Central (Llundain, 1960), tt.183-4
  3. J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), tt.172, 175, 266, 270
  4. J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), t. 270