Eisteddfod Gadeiriol Pen-y-groes: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 31: Llinell 31:
  Am naw boreu heddyw, ffurfiwyd gorymdaith o feirdd a llenorion gerllaw y [[Tafarn y Stag (Pen-y-groes)|Stag's Head]], o ba le yr ymdeithiwyd i faes cyfagos, lle yr agorwyd yr Orsedd, ac yr urddwyd amryw ymgeiswyr yn feirdd, llenorion, ac yn gerddorion. Wedi hyny aethpwyd i gyfarfod llywydd y dydd, yr hwn a wnaeth ei ymddangosiad yn y babell yn mherson Mr [[W.A. Darbishire]], [[Nantlle]], a'r hwn hefyd a dderbyniwyd gan y dyrfa fawr mewn modd croesawgar iawn. Arweiniwyd y gweithrediadau gan Llew Llwyfo. Mewn atebiad i anerchiad longyfarchiadol a draddodwyd iddo gan y Parch P. W. Jones, cododd y llywydd yn nghanol cymeradwyaeth y gwyddfodolion, a diolchodd yn wresog i'r pwyllgor am yr anrhydedd a osodasant arno trwy ei ddewis i'r gadair lywyddol am y boreu hwnw. Yr unig reswm, credai, dros eu gwaith yn ei anrhydeddu fel hyn ydoedd, modd y gallai gael cyfleustra i amlygu ei gydymdeimlad, a chynyg ei gefnogaeth i eisteddfodau yn gyffredinol, ac yn enwedig felly i Eisteddfod Gadeiriol Penygroes. Yr oedd eisteddfodau yn cael eu trosglwyddo o oesoedd a fu fel rhan o fywyd cymdeithasol deiliaid ei Mawrhydi yn y parth hwn o'i thiriogaethau. Mor hynafol oeddynt fel yr ymddangosant ychydig flynyddau yn ol i gyrhaedd eu holaf awr ac, os oedd efe yn cael ei iawn hysbysu, yr oedd y pryd hyny yn ddymunolbeth i'w gweled yn cael eu dileu, gan mai cyfarfodydd oeddynt yn orlawn o ffolineb ac afresymoldeb, ae yn rhy aml yn terfynu mewn oferedd ac annhrefn. Ond, yn ffodus, yr oedd y gwraidd o fywydoliaeth a feddent yn cael ei gydnabod, ac yr oeddynt wedi cael eu hadnewyddu, yn ogymaint a'u bod yn awr yn cyflenwi angen neillduol yr oes. Dymunol oedd cael rhyw ddifyrwch ac adeiladaeth fuddiol yr oedd yr Eisteddfod, yn ei gwahanol agweddau, yn rhoddi hyn i ni, ac yn yr ystyr yma haeddai gefnogaeth pawb yn ddiwahaniaeth (uchel gymeradwyaeth).  
  Am naw boreu heddyw, ffurfiwyd gorymdaith o feirdd a llenorion gerllaw y [[Tafarn y Stag (Pen-y-groes)|Stag's Head]], o ba le yr ymdeithiwyd i faes cyfagos, lle yr agorwyd yr Orsedd, ac yr urddwyd amryw ymgeiswyr yn feirdd, llenorion, ac yn gerddorion. Wedi hyny aethpwyd i gyfarfod llywydd y dydd, yr hwn a wnaeth ei ymddangosiad yn y babell yn mherson Mr [[W.A. Darbishire]], [[Nantlle]], a'r hwn hefyd a dderbyniwyd gan y dyrfa fawr mewn modd croesawgar iawn. Arweiniwyd y gweithrediadau gan Llew Llwyfo. Mewn atebiad i anerchiad longyfarchiadol a draddodwyd iddo gan y Parch P. W. Jones, cododd y llywydd yn nghanol cymeradwyaeth y gwyddfodolion, a diolchodd yn wresog i'r pwyllgor am yr anrhydedd a osodasant arno trwy ei ddewis i'r gadair lywyddol am y boreu hwnw. Yr unig reswm, credai, dros eu gwaith yn ei anrhydeddu fel hyn ydoedd, modd y gallai gael cyfleustra i amlygu ei gydymdeimlad, a chynyg ei gefnogaeth i eisteddfodau yn gyffredinol, ac yn enwedig felly i Eisteddfod Gadeiriol Penygroes. Yr oedd eisteddfodau yn cael eu trosglwyddo o oesoedd a fu fel rhan o fywyd cymdeithasol deiliaid ei Mawrhydi yn y parth hwn o'i thiriogaethau. Mor hynafol oeddynt fel yr ymddangosant ychydig flynyddau yn ol i gyrhaedd eu holaf awr ac, os oedd efe yn cael ei iawn hysbysu, yr oedd y pryd hyny yn ddymunolbeth i'w gweled yn cael eu dileu, gan mai cyfarfodydd oeddynt yn orlawn o ffolineb ac afresymoldeb, ae yn rhy aml yn terfynu mewn oferedd ac annhrefn. Ond, yn ffodus, yr oedd y gwraidd o fywydoliaeth a feddent yn cael ei gydnabod, ac yr oeddynt wedi cael eu hadnewyddu, yn ogymaint a'u bod yn awr yn cyflenwi angen neillduol yr oes. Dymunol oedd cael rhyw ddifyrwch ac adeiladaeth fuddiol yr oedd yr Eisteddfod, yn ei gwahanol agweddau, yn rhoddi hyn i ni, ac yn yr ystyr yma haeddai gefnogaeth pawb yn ddiwahaniaeth (uchel gymeradwyaeth).  


  Yna aethpwyd yn mlaen gyda'r drefnlen, trwy i'r Parch Robert Thomas ddarllen beirniadaeth y Parch D. C. Davies, M.A., Llundain, ar y cyfieithiadau o "Anffyddiaeth;" gwobr 3p. Derbyniwyd llawer o gyfansoddiadau, ond rhanwyd y wobr rhwng Mr R. Harrison, Pensarn, Abergele, a Mr Hugh Hughes, Countes Thorpe, Derby. Canodd Miss Griffith a Mr W. Davies ddeuawd allan o ''Blodwen'', a gwnaethent eu gwaith yu ganmoladwy. Dr Roberts, Penygroes, a ddarllenodd feimiadaeth fanwl ar y traethodau ar "Iawn-reolaeth ystafell y claf," yr hwn destyn oedd yn gyfyngedig i ferched; gwobr, 2p, a bathodyn. Yr oedd naw yn cystadlu, a dyfarnwyd y wobr i Miss Edwards, Ebenezer, Llanllyfni. Un Seindorf, sef [[Seindorf Dulyn|Seindorf Bres Dulyn]], a ddaeth yn mlaen i gystadlu ar berfformio y "Nantlle Vale Fantasia" (Mr Jarrett Roberts), gwobr pedwar gini. Wrth draddodi ei feirniadaeth, dywedodd y beirniad (Mr Jenkins) fod y dernyn yn un hynod anhawdd, yn enwedig mewn rhai manau, ac ei fod yn haeddu mwy o wobr nag a gynygiwyd gan y pwyllgor. Darfu i'r band gychwyn yn lled dda, ond yr oeddynt o dan ychydig o anfantals gan fod un o'r chwareuwyr yn absennol. Pur ddymunol fuasai gweled Cymry yn talu mwy o sylw i gerddoriaeth offerynau tant (cymeradwyaeth). Y perygl mawr yn Nghymru y dyddiau presenol oedd i bawb redeg i un cyfeiriad — canu lleisiol. Anogai hwy oll i feddwl am gyfeiriad arall - i dori cyfeiriad newydd gyda seindyrf tant. Darfu i'r band chwareu yn bur dda, a theilyngai y wobr. Arwisgwyd yr arweinydd, sef Mr [[William Evans (Eos Eifion)]], gan Mrs Williams, Board School, Penygroes. — Darllenwyd beirniadaeth y Parch. T. C. Edwards, M.A., ar y cyfieithiadau, "The literature of Britain" (Macaulay); gwobr, 10s 6c; yr oedd unarddeg wedi cystadlu, a dyfarnwyd y wobr i Mr Robert Hughes, cysodydd, Caernarfon, cynrychiolydd yr hwn a arwisgwyd gan Miss Rees, Penfforddelen. — Yna cafwyd cystadleuaeth ddyddorol ar y wisg Gymreig; gwobr, gini, gan Mr T. Lloyd Jones, Talysarn. Y beirniaid oeddynt Mrs Davies, Rectory, Llanllyfni; Mrs Price, Rectory, [[Clynnog fawr|Clynog]]; a Mrs Jones, Coedmadog. Daeth tair boneddiges mewn gwisgoedd Cymreig ar y llwyfan, a chynyrchodd eu presenoldeb yn y wedd hono ddifyrwch anghyffredin. Dyfarnwyd Mrs Ann Parry, High-street. Penygroes, yn deilwng o'r wobr gyntaf, a rhoddwyd haner gini yn wobr i'r ddwy arall. Arwisgwyd y tair ladi gan Mr Henry Williams, [[Chwarel Fronheulog|chwarel Fronheulog]]; Mr William Griffith, Doliwan; a Mr Hugh Jones, Post Office, Carmel. — Traddododd Mr Jenkins ei feirniadaeth ar yr arweinffyn (''batons''); gwobr, 10s 6c. Ymgeisiodd tri, un o ba rai a arddangosodd fedrusrwydd neillduol trwy gyfuno seinfforch â'r ffon. Cynghorai y gwneuthurwr i fynu cael ''patent'' ar y ffon hon. Enillwyd y wobr gan Mr P. Roberts, peirianydd, Coedmadog. Cafwyd can hynod o swynol gan Miss Hannah Williams, ac hysbyswyd mai hi oedd y foneddiges tuag at addysgiaeth gerddorol yr hon y cyfranodd y llywydd bum' gini. — Hysbysodd Mr Jenkins fod yn bleser mawr ganddo ddyweyd fod y llywydd haelionus, Mr Darbishire, wedi addaw gwobr o ddeg gini i seindorf tant am chwareu ''fantasia'' oreu y flwyddyn nesaf, a phum' gini i'r ail oreu (cymeradwyaeth). - Mr William Jones (Alwenydd) ydoedd awdwr y beddargraph goreu i'r diweddar Mr John Williams, Brynaera; gwobr, gini. Arwisgwyd ei gynrychiolydd, Mr Griffith Powell, gan Miss Watts, Penfforddelen. — Cafwyd pedwarawd ardderchog o waith Mr Jenkins gan Miss Gayney Griffith, Miss Hannah Williams, Mr William Davies, a Mr D. Jenkins. - Darllenodd Mr Jenkins ei feirniadaeth ar yr anthem i'w chanu mewn angladd gweithiwr; gwobr, 5p 5s. Awdwr y cyfansoddiad goreu ydoedd Mr [[W. Jarrett Roberts (Pencerdd Eifion)]], R.A.M., Caernarfon, yr hwn, meddai y beirniaid, oedd yn wir deilwng o'r wobr. Arwisgwyd ef gan Mrs Davies, Rectory, Penygroes. - Cân, 'Dychweliad y bardd,' gan Llew Llwyfo, yn gampus. — [[Côr Llanllyfni]], o dan arweiniad Mr Jones, yn unig a ddaeth yn mlaen i gystadlu mewn datganu anthem Pencerdd Gwynedd, 'Pwy yw y rhai hyn?' gwobr, saith gini. Rhoddwyd canmoliaeth uchel i'r datganiad gan y beirniad talentog, Mr Jenkins, ac arwisgwyd yr arweinydd yn nghanol banllefau o gymeradwyaeth - Derbyniwyd pump o gywyddau ar 'Unigedd;' gwobr, 2p 2s a bathodyn. Tudwal oedd y goreu o ddigon, ac arwisgwyd ef gan Mrs Williams, Board School, Llanllyfni. Terfynwyd cyfarfod y boreu gyda pherfformiad gan y seindorf.  
  Yna aethpwyd yn mlaen gyda'r drefnlen, trwy i'r Parch Robert Thomas ddarllen beirniadaeth y Parch D. C. Davies, M.A., Llundain, ar y cyfieithiadau o "Anffyddiaeth;" gwobr 3p. Derbyniwyd llawer o gyfansoddiadau, ond rhanwyd y wobr rhwng Mr R. Harrison, Pensarn, Abergele, a Mr Hugh Hughes, Countes Thorpe, Derby. Canodd Miss Griffith a Mr W. Davies ddeuawd allan o ''Blodwen'', a gwnaethent eu gwaith yu ganmoladwy. Dr Roberts, Penygroes, a ddarllenodd feimiadaeth fanwl ar y traethodau ar "Iawn-reolaeth ystafell y claf," yr hwn destyn oedd yn gyfyngedig i ferched; gwobr, 2p, a bathodyn. Yr oedd naw yn cystadlu, a dyfarnwyd y wobr i Miss Edwards, Ebenezer, Llanllyfni. Un Seindorf, sef [[Seindorf Dulyn|Seindorf Bres Dulyn]], a ddaeth yn mlaen i gystadlu ar berfformio y "Nantlle Vale Fantasia" (Mr Jarrett Roberts), gwobr pedwar gini. Wrth draddodi ei feirniadaeth, dywedodd y beirniad (Mr Jenkins) fod y dernyn yn un hynod anhawdd, yn enwedig mewn rhai manau, ac ei fod yn haeddu mwy o wobr nag a gynygiwyd gan y pwyllgor. Darfu i'r band gychwyn yn lled dda, ond yr oeddynt o dan ychydig o anfantals gan fod un o'r chwareuwyr yn absennol. Pur ddymunol fuasai gweled Cymry yn talu mwy o sylw i gerddoriaeth offerynau tant (cymeradwyaeth). Y perygl mawr yn Nghymru y dyddiau presenol oedd i bawb redeg i un cyfeiriad — canu lleisiol. Anogai hwy oll i feddwl am gyfeiriad arall - i dori cyfeiriad newydd gyda seindyrf tant. Darfu i'r band chwareu yn bur dda, a theilyngai y wobr. Arwisgwyd yr arweinydd, sef Mr [[William Evans (Eos Eifion)]], gan Mrs Williams, Board School, Penygroes. — Darllenwyd beirniadaeth y Parch. T. C. Edwards, M.A., ar y cyfieithiadau, "The literature of Britain" (Macaulay); gwobr, 10s 6c; yr oedd unarddeg wedi cystadlu, a dyfarnwyd y wobr i Mr Robert Hughes, cysodydd, Caernarfon, cynrychiolydd yr hwn a arwisgwyd gan Miss Rees, Penfforddelen. — Yna cafwyd cystadleuaeth ddyddorol ar y wisg Gymreig; gwobr, gini, gan Mr T. Lloyd Jones, Talysarn. Y beirniaid oeddynt Mrs Davies, Rectory, Llanllyfni; Mrs Price, Rectory, [[Clynnog Fawr|Clynog]]; a Mrs Jones, Coedmadog. Daeth tair boneddiges mewn gwisgoedd Cymreig ar y llwyfan, a chynyrchodd eu presenoldeb yn y wedd hono ddifyrwch anghyffredin. Dyfarnwyd Mrs Ann Parry, High-street. Penygroes, yn deilwng o'r wobr gyntaf, a rhoddwyd haner gini yn wobr i'r ddwy arall. Arwisgwyd y tair ladi gan Mr Henry Williams, [[Chwarel Fronheulog|chwarel Fronheulog]]; Mr William Griffith, Doliwan; a Mr Hugh Jones, Post Office, Carmel. — Traddododd Mr Jenkins ei feirniadaeth ar yr arweinffyn (''batons''); gwobr, 10s 6c. Ymgeisiodd tri, un o ba rai a arddangosodd fedrusrwydd neillduol trwy gyfuno seinfforch â'r ffon. Cynghorai y gwneuthurwr i fynu cael ''patent'' ar y ffon hon. Enillwyd y wobr gan Mr P. Roberts, peirianydd, Coedmadog. Cafwyd can hynod o swynol gan Miss Hannah Williams, ac hysbyswyd mai hi oedd y foneddiges tuag at addysgiaeth gerddorol yr hon y cyfranodd y llywydd bum' gini. — Hysbysodd Mr Jenkins fod yn bleser mawr ganddo ddyweyd fod y llywydd haelionus, Mr Darbishire, wedi addaw gwobr o ddeg gini i seindorf tant am chwareu ''fantasia'' oreu y flwyddyn nesaf, a phum' gini i'r ail oreu (cymeradwyaeth). - Mr William Jones (Alwenydd) ydoedd awdwr y beddargraph goreu i'r diweddar Mr John Williams, Brynaera; gwobr, gini. Arwisgwyd ei gynrychiolydd, Mr Griffith Powell, gan Miss Watts, Penfforddelen. — Cafwyd pedwarawd ardderchog o waith Mr Jenkins gan Miss Gayney Griffith, Miss Hannah Williams, Mr William Davies, a Mr D. Jenkins. - Darllenodd Mr Jenkins ei feirniadaeth ar yr anthem i'w chanu mewn angladd gweithiwr; gwobr, 5p 5s. Awdwr y cyfansoddiad goreu ydoedd Mr [[W. Jarrett Roberts (Pencerdd Eifion)]], R.A.M., Caernarfon, yr hwn, meddai y beirniaid, oedd yn wir deilwng o'r wobr. Arwisgwyd ef gan Mrs Davies, Rectory, Penygroes. - Cân, 'Dychweliad y bardd,' gan Llew Llwyfo, yn gampus. — [[Côr Llanllyfni]], o dan arweiniad Mr Jones, yn unig a ddaeth yn mlaen i gystadlu mewn datganu anthem Pencerdd Gwynedd, 'Pwy yw y rhai hyn?' gwobr, saith gini. Rhoddwyd canmoliaeth uchel i'r datganiad gan y beirniad talentog, Mr Jenkins, ac arwisgwyd yr arweinydd yn nghanol banllefau o gymeradwyaeth - Derbyniwyd pump o gywyddau ar 'Unigedd;' gwobr, 2p 2s a bathodyn. Tudwal oedd y goreu o ddigon, ac arwisgwyd ef gan Mrs Williams, Board School, Llanllyfni. Terfynwyd cyfarfod y boreu gyda pherfformiad gan y seindorf.  


  CYFARFOD Y PRYDNAWN.  
  CYFARFOD Y PRYDNAWN.  

Fersiwn yn ôl 17:50, 5 Medi 2023

Roedd Eisteddfod Gadeiriol Pen-y-groes a gynhaliwyd dros benwythnos y Pasg 1879 mewn pabell a godwyd yn unswydd yn achlysur unigryw pan ddaeth Eisteddfod Gadeiriol Eryri i Ddyffryn Nantlle. Er bod y gwahanol gapeli'n cynnal eisteddfodau lleol, roedd Eisteddfod 1879 yn achlysur pwysig a ddenodd cystadleuwyr o bell.

A barnu oddi wrth y cyfeiriadau at yr eisteddfod wedi iddi fod, mae'n debyg mai'r cynhyrchiad unigol pwysicaf a wobrwywyd yn ystod yr ŵyl oedd anthem angladdol gan W. Jarrett Roberts (Pencerdd Eifion), Gwyn ei fyd y gŵr a obeithio yn yr Arglwydd.[1]

Ni ellir, efallai, wneud yn well na dyfynnu'n llawn adroddiad am yr eisteddfod hon a gafwyd yn y wasg[2]:

EISTEDDFOD GADEIRIOL ERYRI, YN MHENYGROES. 
YR ANRHYDEDDUS C. H. WYNN AR BRIFYSGOL CYMRU. 
Erbyn hyn, y mae Eisteddfod Gadeiriol Eryri, a gynhaliwyd yu Mhenygroes, dyddiau Sadwrn a Llun diweddaf, yn mhlith y pethau a fu. Yr oedd yn llwyddiant peirffaith yn ngwir ystyr y gair — yn llenyddol ac yn arianol, — ac y mae'n llawen meddwl fod ymdrechion canmoladwy y pwyllgor diwyd wedi cael ei goroni a llwyddiant - llwyddiant anarferol pan ystyrir y sefyllfa y mae masnach ynddi ar hyn o bryd. Diau y bydd i bawb a gafodd y fraint o fod yn bresenol yn nghyfarfodydd yr Eisteddfod lewyrchus hon adseinio cynwysiad yr hir a thoddaid canlynol o waith bardd a wobrwywyd yn ystod ei gweithrediadau: 

Ha, wele, heb rith — hen wyl y Brython, 
Nawdd yr Omeriaith - ein heniaith union 
Mor llawen heddyw y mae' r llenyddion, 
A gwedd hygarol; gwau iddi goron 
Yn orchest ei chynyrchion, — cyfodir, 
Y rhai a gerfir ar greigiau Arfon.
Gyda gwasanaeth llywydd llengarol fel y Parch E Davies, Ebrwyad Llanllyfni, ac ysgrifenydd difefl yn mherson Mr G. Lewis, llyfrwerthwr, Penygroes, llwyddodd y pwyllgor i gario allan y symudiad clodwiw hyd at anterth llwyddiant, a chyda phleser mawr y deallasom, ar ddiwedd y gweithrediadau, fod yr Eisteddfod hon yn rhagori ym mhob ystyr ar yr un flaenorol a gynhaliwyd ym Mhenygroes. Adeiladydd y babell brydferth ydoedd Mr Wm. Hughes, Penygroes. Addurnwyd hi yn y modd mwyaf chwaethus a chywrain, a dygwyd y gwaith hwn oddiamgylch gan Mrs Williams, Board School, Llanllyfni; Miss Roberts, Manchester House, eto; Miss Jones, Post Office, eto; Miss Jones, Tydraw-i'r-afon; Miss E. Griffith, Dolifan; Mrs Williams, Board School, Penygroes; Miss Williams, eto; Miss Mackey; Miss Bownes, Tanybryn; Miss Roberts, Yr Ynys; Miss L. Jones, Bethel-terrace; Miss Jones, Mount Pleasant, Talysarn; Miss Dora Jones, eto; Miss Wood, Board School; Miss Jones, Vronoleu; Bryn'rodyn; Miss Watts, Penfforddelen School; Miss Rees, eto; Miss Hughes, Llwyn-y-gwalch, Miss Williams a Miss Roberts, Bryneura; Miss Davies, Pengwern, Caernarfon; Miss Williams, Shop-y-Maes, eto; Miss Ellen Williams, eto; Miss Kate Williams, Grove House, Bangor-street, eto; Miss Emma Paul, Ty'nyweirglodd, Llanllyfni; Miss Jones, Bryndeulyn; Mr Williams, Board School, Penygroes; Mr W. Griffith, Dolifan, a Mr H. Williams, Eryri Quarry, &c. Oherwydd gerwinder yr hin, nid rhyw luosog iawn ydoedd nifer y dyrfa a ddaeth i gyfarfod cyntaf yr Eisteddfod, a gynhaliwyd 
NOS SADWRN
Agorwyd y cyfarfod trwy i Seindorf Bres Dulyn, o dan arweiniad Mr W. Evans (Eos Eifion), chwareu nifer o ddawns-donau a elwid "Autumn," neu, fel y dywedodd y Llew (yr arweinydd), caf wyd ganddynt yr hydref yn y gauaf. 
Yn absenoldeb Mr O. T. Owen, Dorothea, daeth Mr Jones, Cloddfa'r Lon, yn mlaen, a darllenodd yr anerchiad ganlynol i'r Llywydd: "Cyflwynedig i'r Parchedig E. Davies, Rector, Llanllyfni, Cadeirydd Pwyllgor Eisteddfod Gadeiriol Eryri yn Penygroes, 1879. - Barchedig syr, Ar ran Pwyllgor Eisteddfod Gadeiriol Eryri, yr hon sydd yn awr ar gael ei chynal yn Penygroes, yr wyf yn ostyngedig gyflwyno i'ch ffafr chwi yr anerchiad hwn fel amlygiad o'r parch a deimlir tuagatoch ar gyfrif eich ymostyngiad a'ch tiriolideb arferol, a'ch defnyddioldeb trwy gyflawniad cyson ac ymroddiadol o'ch swydd fel Cadeirydd y Pwyllgor, ac fel cydnabyddiad o'ch cymhwysder i eistedd yn nghadair lywyddol ein Heisteddfod. Y mae gan y pwyllgor yr hyfrydwch o ddymuno eich gweled yn parhau i ddefnyddio eich talentau, eich dysgeidiaeth, a'ch gwybodaeth eang i ddyrchafu llenyddiaeth yn ein mysg, i ledaenu gwybodaeth yn gyffredinol, i fod yn foddion i goethi, dyrchafu, a dadblygu talentau yn eu hamrywiol agweddau: ac i argraphu yn ddwfn ar feddyliau ieuenctyd ein cymydogaethau, a'n gwlad yn gyffredinol, y pwysigrwydd iddynt osod yn eu meddwl nôd digon sylweddol, uchel, ac anrhydeddus i ymgyrhaedd ato, modd y bydd yn ddiogel ddibetrus i hwn neu arall eto, eich cyflawn groesawu fel cymwynaswr ac ymgeleddwr pob amcan Cymreig teilwng. Teimlir parch personol i chwi am yr ysbryd hynaws, addfwyn, boneddigaidd, a charuaidd a feddwch tuagat bawb, ac am na welwyd ynoch un amcan i darfu teimladau neb, na rhoddi lle i deimlad o atgasrwydd ffynu yn nghalonau eich cymydogion tuagatoch; ond yn hytrach, meddwch ein dyledus barch am eich cyd-ymdrech i weithio allan amcanion daionus yn gyffredinol, ac yn enwedig am eich zel a'ch gweithgarwch ar ran sobrwydd a dirwest - ar ran rhinwedd, a phob daioni, yn foesol a chrefyddol. Derbyniwch gan hyny, yr arwydd bychan yma o'n parch i chwi, a'n cydnabyddiaeth o'ch gwasanaeth gwerthfawr yn amrywiol gylchoedd cymdeithas. Parhaed eich diwydrwydd, eich zel, eich gweithgarwch, a'ch defnyddioldeb yn ein mysg. Parhaed a chynydded y brawdgarwch a feddwch tuagat bawb yn gyffredinol ddieithriad: a chaffed ohonoch ysbryd helaethach eto i wneuthur daioni yn dymhorol, moesol, a chrefyddol. A thywallted y ffurfafen ragluniaethol ei gronynau elusengar yn helaeth arnoch, gyda hir oes ac iechyd i'w mwynhau: a'ch bywyd a fyddo hyd fedd yn anrhydedd i chwi, ac yn anrhydedd i'ch gwlad a'ch cenedl" (uchel gymeradwyaeth). 
Y llywydd parchedig, wrth godi i draddodi ei anerchiad. a dderbyniwyd gyda banllefau o gymeradwyaeth cynes. Os, meddai, yr oedd ei gyfaill Mr Herbert Jones wedi amlygu ei anghymwysder i ddarllen yr anerchiad, llawer mwy anghymhwys oedd ef (y llywydd) i'w derbyn; ond gan fod teimladau da y pwyllgor yn gynwysedig yn yr hyn a ddarllenwyd, nid oedd ganddo ef yn y lle cyntaf ddim i'w wneyd ond cyflwyna iddynt, un ac oll, ei ddiolchgarwch gwresocaf. Yr oedd yn bleser mawr iddo ef gael cydweithredu a hwy yn nygiad oddi amgylch y cyfarfodydd eisteddfodol hyn, pa rai, hyderai, fyddent yn anrhydedd iddynt hwy fel cymydogaeth, ac yn fendith arosol iddynt fel cenedl yn y dyfodol, trwy eu cynysgaeddu hwy a'r fraint o gael darllen, drosodd a throsodd drachefn, y gwahanol gyfansoddiadau a dderbyniwyd (cymeradwyaeth). Credai ef fod yr hen sefydliad gogoneddus ag yr oeddynt hwy yn awr yn ei gynhal yn Mhenygroes yn haeddu cydweithrediad a serch pob Cymro trylwyr trwy'r holl Dywysogaeth, a phawb drwy'r byd yn ddiwahaniaeth. Yr oedd ef yn credu - er fod rhai ar y llwyfan hon yn fwy galluog nag ef i draetliu ar y pwnc hwn - mai dyma'r unig nodweddiad cenedlaethol a bcrthynai i'r Cymro sydd yn gwahaniaethu oddiwrth eiddo cenedloedd ereill ar wyneb y ddaear - yr eisteddfod (clywch, clywch, a chymeradwyaeth). Nid oedd ef yn meddwl dyweyd fod y Cymry ar y blaen ar ddosparthiadau ereill mewn dysgeidiaeth; ond hyn a ddywedai, nad oedd gan yr un genedl ond cenedl y Cymry ei Heisteddfod. Meddent brofion o fodolaeth yr Eisteddfod cyn cred. Bu y sefydliad hwn yn orsedd barn a llywodraeth i'w cyndadau, a bendithlawn a fu yn mhob oes. Prif dueddiad yr Eisteddfod yw, neu ddylai fod, dal i fyny a meithrin gwybodaeth o'r iaith Gymraeg — iaith ag yr oeddynt hwy ac yntau yn ei charu o waelod eu calonau, iaith yn mha un yr oeddynt yn gallu addoli, siarad, a gwrandaw er pleser ac adeiladaeth, a hyny yn llawer gwell nag mewn unrhyw iaith arall, pa mor glasurol bynag doedd (cymeradwyaeth). Adeg ddu ar Gymru fyddai yr adeg hono pan fyddai yr iaith Gymraeg fel rhwng byw a marw, a phan fyddai y cenedl yn methu gwahaniaethu y naill iaith oddi wrth y llall. Er atal hyn, bydded iddynt oll fel cenedl wneyd eu goreu dros gadw yr hen iaith anwyl yn fyw, a hyny yn ei phurdeb gramadegol; ac ond iddynt wneyd hyn, byddai iddynt ganfod ynddi fwn cyfoethog, a thrysorau gwerthfawr iaith ddysgedig a chlasurol (cymeradwyaeth). A chan mai iddynt hwy yn unig yr oedd yr Eisteddfod yn perthyn, eu dyledswydd hefyd oedd gwneyd eu goreu trwy aberthu eu talent, eu hamser, a'u harian, mewn trefn i gynorthwyo i'w chario yn mlaen o oes i oes. Yna cyfeiriodd y llywydd parchedig at yr enwogion a gyfododd yr Eisteddfod, gan sylwi ar y rhai ymadawedig o'n cyd-genedl ag yr oedd eu henwau yn britho muriau y babell ar bob llaw — enwau enwogion nas gallasem wneyd yn llai na'u caru (cymeradwyaeth). Ar lwyfan yr Eisteddfod yr oedd pob gwahaniaeth barn, yn grefyddol a gwleidyddol, yn cael ei ymlid dros ei godrau, a brawdgarwch a thymher dda yn ffynu. Wrth derfynu amlygodd ei hyder y byddai i'r cyfeillion hyny a lafuriasant yn ystod y misoedd a aethent heibio gael y pleser o wybod nad aeth eu llafur yn ofer, ac y byddai yr eisteddfod hon yn foddion i ddwyn eu cynyrchion i "wyneb haul a llygad goleuni" (uchel gymeradwyaeth). 
Wedi hyny, aethpwyd yn mlaen gyda gwaith y cyfarfod yn y drefn ganlynol:-Darllenodd y Parch Robert Llanllyfni. feirniadaeth y Parch T.C. Edwards, M.A., ar y traethodau, "Dyledswydd bresenol Cenedl y Cymry i fabwysiadu rhagoriaethau a gochel diffygion cenedloedd ereill y Deyrnas Gyfunol;" gwobr. 4p. 4s. a bathodyn. Un gyfansoddiad a ddebyniwyd, sef eiddo Mr O. Jones (Glan Menai), Caernarfon, yr hwn a ddyfarnwyd yn deilwng o'r pedwar gini yn unig. — Yn y gystadleuaeth mewn areithio ar "Goreu arf, arf dysg," dyfarnodd Gwalchmai a'r Parch Robert Thomas y wobr i Mr Robert Jones, Penygroes, yr hwn a arwisgwyd gan Miss Jones, Wernlas. - Wrth alw ar Mr William Davies, Rhos, i ddyfod yn mlaen i ganu "Baner ein Gwlad," dywedodd yr arweinydd ei fod, o ran oedran, yn ddigymhar fel tenor. Canodd y gwr ieuanc hwn yn ardderchog.- Ymgeisiodd dau fachgen ieuanc mewn datganu Yr unawd, "Hiraeth am eu gweled," ac fel y dywedodd yr arweinydd, yr oedd ar bawb "hiraeth am weled" y gystadleuath drosodd, gan mor waeI ydoedd y canu. Dyfarnwyd haner y wobr i D.S. Davies, 'Penygroes. - Allan o bump-ar-hugain o ymgeiswyr dyfarnodd Gwalchmai y wobr o haner giui i Ceulanydd, Talysarn, am yr englynion ar y "Geiniog". - Deuawd "Solffa duett" gan Miss Griffith, U,C.W,, a Llew Llwyfo, yn gampus.- Darllenodd Mr Thomas Lloyd Jones, Talysarn, feirniadaeth Mr J. J. Evans, Brynderwen, Bethesda, ar yr "Offerynau Chwarelyddol," a dyfarnwyd haner y wobr i Mr Henry Parry, Ty'nllan, Llanllyfni, yr hwn a arwisgwyd gan Miss Owen, y Rectory, Llanllyfni. - Un cor, sef Cor Bryn'rodyn, Llandwrog, a ddaeth i gystadlu mewn datganu "Ffarwel i ti, Gymru fad," o waith Dr Parry. — Darllenwyd beirniadaeth yr Archddiacon Evans ar y traethodau Gwaddoliadau Addysgiadol ac Elusenol sir Gaernarfon, yn nghyda byr gofiant o'r Gwaddolwyr; gwobr, 5p., gan Mr J. Robinson, Talysarn. Un cyfansoddiad a ddaeth i law, ond nid oedd yr awdwr yn deilwng o'r wobr. — Deuawd gan Miss Hannah Williams, U.C.W., a Mr W. Davies, U.C.W., yn bur dda. — Beirniadaeth Llew Llwyfo ar y Tuchan-gerdd "Ffasiynau yr Oes;" gwobr, lp. 1s.; dau o gyfansoddiadau a anfonwyd i'r gystadleuaeth, ond nid oedd y naill na'r llall yn deilwng o'r wobr. 
Cafwyd beirniadaeth ddysgedig gan Mr D. Jenkins, M.B., ar y datganiad corawl. Gwendid yn y corau Gymreig, meddai, ydoedd eu bod yn ymwneyd gormod â darnau cerddorol mawr a chryf, ar draul esgeuluso y tlws a'r dymunol. Ar y cyfan, yr oedd nodau y cor yn lled gywir, ond y prif fai oedd nad oedd y lleisian yn ymdoddi i'w gilydd, ac allan o gywair, serch fod y cyfeilydd (Mr J. H. Roberts, A.R.M.) yn gwneyd ymdrech ganmoladwy i'w dal at eu gilydd. Yn ystod y tair neu bedair Eisteddfod diweddaf y bu ef ynddynt yr oedd yn cael ei flino yn fawr iawn gan y bai hwn mewn corau. Yr oedd diffyg yn bod yn rhywle, a da fuasai ganddo weled arweinyddion corau yn talu sylw i'r bai o amgylchu nodau yn lle treiddio i fewn iddynt, a gwneyd eu lle a'u cartref ynddynt. Wrth derfynu, cynghorodd y corau i ymarfer y glust, a thrwy hyny symud ymaith y diffyg a soniodd am dano. Gan fod y cor a ddaeth yn mlaen yn cael ei nodweddu gymaint gan y bai hwn, cynghorodd y pwyllgor i roddi iddo haner y wobr, sef 3p. 3s. 6c. Daeth yr arweinydd, Mr William Hughes, Bryn'rodyn, yn mlaen, ac arwisgwyd ef gan Miss Jones, Bryn-deulyn.—Wedi i Mrs Cordelia Edwards, ganu "R'oedd ganddi goron flodau," terfynwyd y cyfarfod gyda datganiad cyffredinol o "Hen wlad fy nhadau." 
DYDD LLUN. 
Am naw boreu heddyw, ffurfiwyd gorymdaith o feirdd a llenorion gerllaw y Stag's Head, o ba le yr ymdeithiwyd i faes cyfagos, lle yr agorwyd yr Orsedd, ac yr urddwyd amryw ymgeiswyr yn feirdd, llenorion, ac yn gerddorion. Wedi hyny aethpwyd i gyfarfod llywydd y dydd, yr hwn a wnaeth ei ymddangosiad yn y babell yn mherson Mr W.A. Darbishire, Nantlle, a'r hwn hefyd a dderbyniwyd gan y dyrfa fawr mewn modd croesawgar iawn. Arweiniwyd y gweithrediadau gan Llew Llwyfo. Mewn atebiad i anerchiad longyfarchiadol a draddodwyd iddo gan y Parch P. W. Jones, cododd y llywydd yn nghanol cymeradwyaeth y gwyddfodolion, a diolchodd yn wresog i'r pwyllgor am yr anrhydedd a osodasant arno trwy ei ddewis i'r gadair lywyddol am y boreu hwnw. Yr unig reswm, credai, dros eu gwaith yn ei anrhydeddu fel hyn ydoedd, modd y gallai gael cyfleustra i amlygu ei gydymdeimlad, a chynyg ei gefnogaeth i eisteddfodau yn gyffredinol, ac yn enwedig felly i Eisteddfod Gadeiriol Penygroes. Yr oedd eisteddfodau yn cael eu trosglwyddo o oesoedd a fu fel rhan o fywyd cymdeithasol deiliaid ei Mawrhydi yn y parth hwn o'i thiriogaethau. Mor hynafol oeddynt fel yr ymddangosant ychydig flynyddau yn ol i gyrhaedd eu holaf awr ac, os oedd efe yn cael ei iawn hysbysu, yr oedd y pryd hyny yn ddymunolbeth i'w gweled yn cael eu dileu, gan mai cyfarfodydd oeddynt yn orlawn o ffolineb ac afresymoldeb, ae yn rhy aml yn terfynu mewn oferedd ac annhrefn. Ond, yn ffodus, yr oedd y gwraidd o fywydoliaeth a feddent yn cael ei gydnabod, ac yr oeddynt wedi cael eu hadnewyddu, yn ogymaint a'u bod yn awr yn cyflenwi angen neillduol yr oes. Dymunol oedd cael rhyw ddifyrwch ac adeiladaeth fuddiol yr oedd yr Eisteddfod, yn ei gwahanol agweddau, yn rhoddi hyn i ni, ac yn yr ystyr yma haeddai gefnogaeth pawb yn ddiwahaniaeth (uchel gymeradwyaeth). 
Yna aethpwyd yn mlaen gyda'r drefnlen, trwy i'r Parch Robert Thomas ddarllen beirniadaeth y Parch D. C. Davies, M.A., Llundain, ar y cyfieithiadau o "Anffyddiaeth;" gwobr 3p. Derbyniwyd llawer o gyfansoddiadau, ond rhanwyd y wobr rhwng Mr R. Harrison, Pensarn, Abergele, a Mr Hugh Hughes, Countes Thorpe, Derby. Canodd Miss Griffith a Mr W. Davies ddeuawd allan o Blodwen, a gwnaethent eu gwaith yu ganmoladwy. Dr Roberts, Penygroes, a ddarllenodd feimiadaeth fanwl ar y traethodau ar "Iawn-reolaeth ystafell y claf," yr hwn destyn oedd yn gyfyngedig i ferched; gwobr, 2p, a bathodyn. Yr oedd naw yn cystadlu, a dyfarnwyd y wobr i Miss Edwards, Ebenezer, Llanllyfni. Un Seindorf, sef Seindorf Bres Dulyn, a ddaeth yn mlaen i gystadlu ar berfformio y "Nantlle Vale Fantasia" (Mr Jarrett Roberts), gwobr pedwar gini. Wrth draddodi ei feirniadaeth, dywedodd y beirniad (Mr Jenkins) fod y dernyn yn un hynod anhawdd, yn enwedig mewn rhai manau, ac ei fod yn haeddu mwy o wobr nag a gynygiwyd gan y pwyllgor. Darfu i'r band gychwyn yn lled dda, ond yr oeddynt o dan ychydig o anfantals gan fod un o'r chwareuwyr yn absennol. Pur ddymunol fuasai gweled Cymry yn talu mwy o sylw i gerddoriaeth offerynau tant (cymeradwyaeth). Y perygl mawr yn Nghymru y dyddiau presenol oedd i bawb redeg i un cyfeiriad — canu lleisiol. Anogai hwy oll i feddwl am gyfeiriad arall - i dori cyfeiriad newydd gyda seindyrf tant. Darfu i'r band chwareu yn bur dda, a theilyngai y wobr. Arwisgwyd yr arweinydd, sef Mr William Evans (Eos Eifion), gan Mrs Williams, Board School, Penygroes. — Darllenwyd beirniadaeth y Parch. T. C. Edwards, M.A., ar y cyfieithiadau, "The literature of Britain" (Macaulay); gwobr, 10s 6c; yr oedd unarddeg wedi cystadlu, a dyfarnwyd y wobr i Mr Robert Hughes, cysodydd, Caernarfon, cynrychiolydd yr hwn a arwisgwyd gan Miss Rees, Penfforddelen. — Yna cafwyd cystadleuaeth ddyddorol ar y wisg Gymreig; gwobr, gini, gan Mr T. Lloyd Jones, Talysarn. Y beirniaid oeddynt Mrs Davies, Rectory, Llanllyfni; Mrs Price, Rectory, Clynog; a Mrs Jones, Coedmadog. Daeth tair boneddiges mewn gwisgoedd Cymreig ar y llwyfan, a chynyrchodd eu presenoldeb yn y wedd hono ddifyrwch anghyffredin. Dyfarnwyd Mrs Ann Parry, High-street. Penygroes, yn deilwng o'r wobr gyntaf, a rhoddwyd haner gini yn wobr i'r ddwy arall. Arwisgwyd y tair ladi gan Mr Henry Williams, chwarel Fronheulog; Mr William Griffith, Doliwan; a Mr Hugh Jones, Post Office, Carmel. — Traddododd Mr Jenkins ei feirniadaeth ar yr arweinffyn (batons); gwobr, 10s 6c. Ymgeisiodd tri, un o ba rai a arddangosodd fedrusrwydd neillduol trwy gyfuno seinfforch â'r ffon. Cynghorai y gwneuthurwr i fynu cael patent ar y ffon hon. Enillwyd y wobr gan Mr P. Roberts, peirianydd, Coedmadog. Cafwyd can hynod o swynol gan Miss Hannah Williams, ac hysbyswyd mai hi oedd y foneddiges tuag at addysgiaeth gerddorol yr hon y cyfranodd y llywydd bum' gini. — Hysbysodd Mr Jenkins fod yn bleser mawr ganddo ddyweyd fod y llywydd haelionus, Mr Darbishire, wedi addaw gwobr o ddeg gini i seindorf tant am chwareu fantasia oreu y flwyddyn nesaf, a phum' gini i'r ail oreu (cymeradwyaeth). - Mr William Jones (Alwenydd) ydoedd awdwr y beddargraph goreu i'r diweddar Mr John Williams, Brynaera; gwobr, gini. Arwisgwyd ei gynrychiolydd, Mr Griffith Powell, gan Miss Watts, Penfforddelen. — Cafwyd pedwarawd ardderchog o waith Mr Jenkins gan Miss Gayney Griffith, Miss Hannah Williams, Mr William Davies, a Mr D. Jenkins. - Darllenodd Mr Jenkins ei feirniadaeth ar yr anthem i'w chanu mewn angladd gweithiwr; gwobr, 5p 5s. Awdwr y cyfansoddiad goreu ydoedd Mr W. Jarrett Roberts (Pencerdd Eifion), R.A.M., Caernarfon, yr hwn, meddai y beirniaid, oedd yn wir deilwng o'r wobr. Arwisgwyd ef gan Mrs Davies, Rectory, Penygroes. - Cân, 'Dychweliad y bardd,' gan Llew Llwyfo, yn gampus. — Côr Llanllyfni, o dan arweiniad Mr Jones, yn unig a ddaeth yn mlaen i gystadlu mewn datganu anthem Pencerdd Gwynedd, 'Pwy yw y rhai hyn?' gwobr, saith gini. Rhoddwyd canmoliaeth uchel i'r datganiad gan y beirniad talentog, Mr Jenkins, ac arwisgwyd yr arweinydd yn nghanol banllefau o gymeradwyaeth - Derbyniwyd pump o gywyddau ar 'Unigedd;' gwobr, 2p 2s a bathodyn. Tudwal oedd y goreu o ddigon, ac arwisgwyd ef gan Mrs Williams, Board School, Llanllyfni. Terfynwyd cyfarfod y boreu gyda pherfformiad gan y seindorf. 
CYFARFOD Y PRYDNAWN. 
I Yroedd y babell yn rla n o .b.?teddtodwyr brwd&ydig, ond ar y cyntaf, yr oJù rlui o'r chwecheiniogolion yn orfrwdfrydig, fel y gorfu i'r Mew ruo mwy nag unwaith. Rhoddwyd der- byniad croesawgar i'r llywydd, sef Mr H. J. EiHs Nanney, Gwynfryn HaU, i'r hwn y darUcuwyd ) r anerchiad lougyfarchiadol a ganlyn gan y Parch L, C. Jones: Syr,-Dros Bwyllgor Eisteddfod Gadeiriol Eryri, a gynhelir yn Mhenygroes, Sadwrn a Llun y Pasg, 1879, y mae genym yn y lie cyntaf i ddiolch i chwi am eich parodrwydd a'ch hynawsedd yn dyfod i lywyddu ar yr ach- lysur, yr hyn sydd yn eglur ddaugos eich bod yn wresog gefnogi, ac yn cydymdeimlo yn ddwfn a phrif sefydliad cenedlaethol y Cymry. Gwyddom nad ydych trwy hyn ond yn gweithredu yn ol eich arfer gyffredin, sef rhoddi pob cefnogaeth i bob sefydliad ag y credwch ei fod yn tueddu i ddyr- chafu a Ueshau uich "vlwladwyr. Fel tirfeddian- wr eang ac ynnd heddwch dylanwadol, y mste eich enw yn hysbys yu yr holl wlad. Ae y mae hon deulu urddasol y Gwynfryn yn sefyll yn uchel a pharehus yn mysg boneddwyr ein gwlad fel cef- nogwyr llenyddiaeth a barddonineth Gymreig. Yn y flwyddyn 1812, cawn i Mrs Nanney, o'r Gwynfryn, ymweled i'r bardd a'r lienor claf Shon Wyn o Eifion, gan fenthyca iddo amryw lyfrau gwerthfawr. Yn y flwyddyn ganlynol, p in oedd y bardd Saeaneg Shelley ar yijiweliad a'r teulu, oawn iddi eilwaihYlHweled i'r bardd claf, gan gymeryd y bardd Saesneg gyda hi i weled y bardd Cymraeg. Ac_yr ydym yu llawenhau eich bod chwithau fel eich henafiaid yn cefnogi llen- yddiaeth eich gwlad. A chan mai amcan yr Eis- teddfod yw mei til rill talent, cefnogi llafur, puro ehwaeth, dyrchafu moesan, a chadw y-n fyw yn mynwesau meibion glan I Walia Wen ymlyn- iad serchog wrth eu hiaith, eu traddodiadas, eu barddoniaeth, eu ceiddoriaeth, a chan eich bod chwi yn Gymm twymgalon o 'waedoliaeth cyfa,' teimla y p\vyllgor->y. bydd yr Eisteddfod yn sicr o gael cefnogydd gwresog ynoch chwi. Dymunwn yn ddidwyil i ohwi hir oes iwasanaethucich gwlad yn yr hyn oil a duedda i'w gwir ddyrchafu a'u lleshau, a gobeit i,iwn, tra y. b/dd derwen yu tyfu ar etifeddiaeth Gwynfryn a Phlas Hen; tla y b v (1, 1 y fronfraith a'r fwyalchen yn pyncio eu nodau cerdd rhwng cangau y coed; tra y bydd dwfr grisialaidd afon Dwyfor yn murmur ei alawon peroriaethus wrth ymdreiglo hyd wely o rian man, y gellir dyweyd am etifeddion y Gwynfryn a Plas Hen, eu bod hwy yn gyfryw rai ag ydych chwi, ayr, yn cam eich gwlad, a'ch iaith, a eh cenedl. DrosY pwyligor,-J. C. Joms." Atebodd y llywydd, mown Cymraeg hyglyw a chroew, trwy ddyweyd ei fod yn dru diolchgar i'r pwyllgor am y dull serchog yn mlm nny Uefarwyd an hen deulu Gwynfryn- Yr oedd yn bleser ganddo ef gael cyfarfod â. chymaiuc o'i gydwlad- wyr yn y Eisteddfod a gynhelir yn Mhenygroos, ae yr oedd presenoldeb cymaint oliouyutyndangos y fath gariad oedd ganddynt tuagat eu hiaith a'u gwlad. [Nid prif amcan eisteddfodau yio dd cynorthwyo y rhai y mae talentau ganddvnt. ond i ddwyn v rhai syd- yn feddianol ar datentau i sylw. Yr oedd yn bleser ganddo ef fod yn bre- senol, ac addawodd rhoddi iddynt bob cynorth- wyoeddyn ei allu. Diweddodd trwy dalu y diolchgarwoh gwresocaf i aelodau y pwyllgor am yr anrhydedd a osodwyd fel hyn arno, ao am eu hymdrechion i wneyd yr Eisteddfod yn deilwng yn mhob ystyr ohonynt fel Cymry. Yr oedd yn dra sicr hefyd fod y beirniaid am wneyd eu goreu i ddyrchafn cyfarfodydd yr Eisteddfod, a dymunai ef iddynt fod yn gyfryw ag y byddai pobl estronol yn gweled eu rhagoriaethau. Weithiau,yr oedd pobl ddieithr yn well beirniaid ar bethan cenedlaethol na'r genedl ei hun, gan nad oedd eu peHh/nas hwy yn gwyro barn. Gan fod y program mor faith, nid oedd efe am gymeryd ychwaneg o'u hamser, ond diolchai unwaith yn rhagor am y derbyniad eiriol a roddwyd iddo (uchel gymerad- wyaeth). Traddodwyd anerchiadan barddonol gan Glaii Caeron, Eos Eifion, ao Iolo Glan Twrog.—Ystwyth ian ydoedd y buddugol ar y ddau englyn goreu i'r 'Goleuni Trydanol.Nid oedd y traethodau ar LlineUiad Daearegol o Ddyffryn Nantlle,' gwobr lp Is, yn deilwng o'r wobr Beirniad, Mr J. J. Evans.—Gystadleuaeth y solo tenor I Y Gardotes Fach, gwobr, 10s 6c, Rhanwyd y wobr cydrhwng Mr Richard Rogers, Penygroes, a Mr Henry Jones (Harri o Wynedd). Darllenwyd beirniadaeth ddoniol Mrs Evans ar yr hosanau gan Gwalchmai. Daeth pymtheg o 'barau' ijlaw. Eiddo Mrs Jane Lewis, Cefn Trevor, ydoedd y goreu.-Dar. llenwyd beimiadaeth y Parch T. 0. Edwards, M. A., ar y traethodau, 'Egwyddor y Dadblygiad,' gwobr, 12p a bathodyn, gan y Parch R. Thomas, Llanllyfni. Yr ymgeisydd buddugol ydoedd y Paroh T. Jones Humphreys, gweinidog Wesley. aidd, Llanfair-Caereinion.—Seindorf Bres Nantlle, o dan arweiniad Mr Hartman, yn unig 9 ddaeth yn mlaen i gystadlu ar berfformio 'On Guard,' a chyfiawnasantengwaithyn ardderchog yn mhob ystyr, a rhoddodd Mr Jenkins ganmo.iaeth uchel iddynt. Y wobr ydoedd deg gini; nrwisgwyd yr arweinydd gan Miss Alice Williams, Grove House, Caernarfon.-Ar hyn daethpwyd at brif waith y dydd, sef darllen y feirniadaeth ar destyu Y ODDAIB. I Y wobr ydoedd deg gini, a chadair dderw ar- dderchog, o wneuthuriad Mr David Morgan, cabinet-maker, Caernarfon,—cadair a gerfiwyd yn y modd mwyaf cywrain a chelfydd. Darllenodd Gwalchmai feirniadaeth fanwl ar y tri chyfansodd- iad a ddaeth i law, ar y testyn Clawdd Offa,' a rhoddwyd iddo wrandawiad ustud gan y dyrfa fawr. Meddai y tair awdl raddaii uchel o deilyng- dod, ac yr oedd yBddynt ddesgrifiadau hynod rymus. Yr awdwyr oeddynt' Derwydd,' Edeyrn,' ac Elisau,' awdl yr hwn a fawr ganmolwyd, ac a ddyfamwyd yn deilwng o gadair Eisteddfod Eryri yn Mhenygroes, 1879. Ar alwad yr arweinydd, gwnaeth Elisau ei ymddangosiad yn njliersonMr David Evan Davies (Dewi Glan Ffrydlas), Treflys, Bethesda, a ohadeiriwyd ef gyda rhwysgfawredd gan Gwalchmai ac Elis Wyn o Wyrfai, a lluaws o feirdd eraill. Wedi i anerchiadau barddol gael eu traddodi, arwisgwyd y bardd cadeiriol gan Miss Jones, Post Oftiee, Talysarn, a rhoddwyd iddo fan- llefau uchel o o gymeradwyaeth gan y dyrfa fawr. A ganlyn ydoedd anerchiad farddol Tremlyn ar achlysur y Cadeirio Fel hyn, troes testyn pob 'stfrr—o gynen, Yn gin i Eluswr; Gwalchmai rydd gadair i'r gftr, Ac hawl iddi, fel cloddiwr. Canodd Mrs Cordelia Edwards, 'Rwy'n cofio'r adeg ddedwydd,' ac aethpwyd gyda'r rhelyw o waith y cyfarfod trwy i Gwalchmai ddarllen ei feirniadaeth ar y bedd-argraphiadau i'r diweddar Mr J. H. Williams, Glanbeuno. Rhanwyd y webr, sef ugain swllt, rhwng Gwilym Alltwen ac Ap Padarn, Llanberis. Cynrychiolwyd yr Alltwen can Dr Evans, Penygroes.—Yn nesaf cafwyd cys- tadleuaeth gorawl ar y cydgan Haleliwia, Amen, (' Arch y C'yfamod,' Jenkins): gwobr, 25p. Daeth tri o gorau yn mlaen, sef eiddo Talysarn (85), ar- weinydd, Mr Henry Hughes; Penygroes (110), ar- weinydd, Mr Hugh Jones; Llanllyfni (87), arweinydd, Mr William David Jones. Cafwyd un- waith yn rhagor feirniadaeth ddysgedig gan Mr Jenkins, yr hwn, dylem grybwyll, ydyw awdwr y gydgan ardderchog a ddatganwyd. Dechreuodd y cor cyntaf yn lied dda, ond digwyddodd iddynt yr anffawd hwnw o golli y pitch trwy iddynt godi, yr hyn a osododd y lleisiau o dan anfantais, gan eu bod yn gorfod canu yn galed. Ni ddangoswyd ychwaith ddigon o wahaniaeth rhwng a user y gwahanol ddosranau, a gallesid gwneyd gwell climax nag a gafwyd. Yr ail gor hefyd (sef eiddo Penygroes) yn dechreu yn lied dda, ond yn codi yn y pitch, a thrwy hyny yn myned allan o tune, fel ag i wneyd y donyddiaeth yn boenus i'r glust, yn enwedig felly pan genid y nodau uchaf. Ni thalodd y cor hwn ddigon o sylw i am3eriad y cydgan. Cafwyd dechreuad da iawn gan y try- dydd cor, so yr oedd Ileisiau yr aelodau yn ym- doddi i'w gilydd, yn enwedig felly yn y fugue cyntaf. Er eu bod hwythau wedi syrthio i'r all- ffawd 0 fyned i pitch uwch, eto, yr oedd eu lleis- iau yn dal i fyny yn fwy cynghaneddol na'r corau ereill, a chafwyd climax gwell, gyda gwell datgan- iad o'r fugues, yn enwedig gan y soprano. Dang- osid hefyd ddigon o wahaniaeth gyda'r amser. Dyfamodd ef y wobr i'r cor olaf hwu, pef cor Llanllyfni, ac arwisgwyd yr arweiuydd yn nghanol banUefau o gymeradwyaeth byddarol. Rhoddodd y feirniadaeth foddlonrwydd cyffredinol. Y CYFARFOD HWYROL. Yr oedd y babell yn orlawn yn mhellcyn chwech o'r gloch, pryd y cymerodd yr Anrhydeddus C. H. Wynu, Rhug, y gadair lywyddol, ac yr arwein- iwyd y gweithrediadau gan Elis Wyn o Wyrfai. Wedi i Seindorf Nantlle chwareu iiifer o alawon poblogaidd, darllenodd y Parch E. Davies anerch- iad cyfarchiadol i'r llywydd anrhydeddus. Derbyniwyd yr anrhydeddus Mr Wynn gyda banllefau uchel o gymeradwyaeth pan gyfodod. I i gydnabod yr anerchiad. Uywedoddyr Anrhjdeduus Lywydd y byddai iddo edrych arni fel y wobr fwyaf a gafodd erioed, ac y byddai iddo ei thrysori hyd ddydd tranc (achel gymeradwyaeth). Nis gallai y eyfeiriadau caredig a wnaed ynddi at ei dad lai nag enyn atebiad ar ei ran ef, a byddai gywilydd ganddo ef, fel ei fab, pe nas gallai roddi wrth eu gilydd ychydig eiriau i ddiolch iddynt yn y mcidd mfcyaf didwyll, ar ei ran ei hun, ac hefyd ar ran ei dad, am yr amlygiad o deimlad a gyfle- wyd yn yr anerchiad a ddarllenwyd. Llawen ganddo ef, fel ei fab, fod y gwaith caled a wnaed ganddo yn y sir hon wedi cael ei werthfawrogi (cymeradwyaeth). Nid oedd ef (y llywydd) yn gwybod am unrhyw ddyn a ddymunai lai am yr hyn a wnaeth na'i dad; ond eto, nis gallai yr am- lygiad cynhes hwn o'i heiddynt hwy lai na pheri boddhad iddo, trwy wybod fod ei WHsanaetli yn cael ei werthfawrogi. Yn mhellach, boddheid ef a'r Anrhydeddus Mrs Wyun (yr hon oedd yn bre- senol) yn fawrwrth feddwt fod un (ei fam) a gymer- wydymaith ugain mlyiiedd yn ol o hyd yn par- hau yn fyw yn meddyliau y Cymry. Yr oedd cof-golofnau yu betilan da yn euffordd; ond o i ran ei hun, nid oedd dim a ddymunai ef mwy na chael ei goffadwmeth yn gerfledig yn nghalon pob Oymr, cymeradwyaeth). Er ei fod yn trigo yn mhell oddiwrthyut, ) r oedd ei feddwl ef yn ami yn gwibio i Benygroes. Y neth cyntaf yr oedd efe erioed yn ei gofio oedd fu trwy Benygroes, a physgota yn yr ardal hon gyda Robert Tomos, hen fwtler ei dad. Gyda golwg ar yr Eisteddfod, gallai ef ddyweyd idrb bob am-er fod yn gefllogwr gwresog i'r sefydliad hynafol hwnw, gan y credai ei fod yn tueddu i ddyrchafu moesau ei gydwlad- wyr. Nid oes dim, yn ei furil ef, a dueddai i ddwyn hyn oddiamylch yn well iia'r Eisteddfod- Genedlaethol (cymeradwyaetli). Cyfeiriwyd yn yr anerchiad nad oe-dil arno ef gywilyda i araaei ei hun yn Gymro; nt), nid oedd arno gywilydd, oblegid o'r holl wiedydd a drmnwypdd ar ol gadael Penygroes, nid oedd yr uu mor awyl yn ei olwg ef a Chymra (uchel gymeradwyaeth). Cwynai rhai fodyr Eisteddfod yn cael ei chynhal ya mhob rhyw dwll bychan budr," I\ÿ. liaerid y dylid cyfyngu ei chyfarfodydd, a chael uu fawr flyn- yddol i Ogledd Cymru. Nid oedd ef yn cyd- weled a hyn, mwy nag yr oedd yn cydweled gyd r dosparth hwnw a geisiai gyfyugu yr Arddangos- feydd Amaethyddol yn yr unrhyw fodd, gan y byddai hyn yn rhwym o fod yn niweidiol, trwy na roddid chwareu teg i ymgeiswyr o fanau pellenig. Awgrymai ef fod eisteddfodau llat na'r un bresenol i gael eu cynal,—eisteddfodau i'r leuenc- tyd pa rat, a idylent gael r> cefnogaeth. Gyda golg ar dderbyniadau yr Eisteddfod, awgrymai ef dli yr h-n fu gweddill yr Eisteddfod Genhedlaethol gael eu tm ^-lwyddo i groufa Coleg Prif Ysgol Cymru, llwyddiant pa nUll euynai ei gydymdeimlad llwyraf ef. A rhoddi daliadau politicaidd o'r neilldu, credai ef fod yr addysg a gyfrenir yn y sefydliad hwn yn tra rhagori ar eiddo St. David's a St. Bees, a dyiedswydd pob gwlalipWl oedd ei gynorth wyo yn mhob ffurf a modd. Hyderai y byddai i ran o weddill yr Eisteddfod gael ei dreulio yn y modd hwnw, ae. hefyd fod i swm gael ei os?,i o'r neilldu at ddad- blygu talent gerddorol yn ardal Penygroes. Terfynodd y Uywydd anriiydeddus ei anerchiad rhagorol yn nghanol cymeradwyaeth uchel. Yn stod y .-weithrodia ? .?u hwyrol cafwyd de:wI=n o JI/:t:i8'a:riI? a Mr W. Davies. Traddododd Hew U?yto feirn- iadaeth orddoniol ar y seinff yrcli steel a haiam euro, dwy o ba rai oeddynt jailer liath o hYd, a dyfarnwyd y wobr Q haner gini i loan Eifion, Tal- ysarn, yr hwn a arwisgwyd gan Miss Wood. Canodd y cor "Ymdaith gwyr Lleyn ac Eiflonydd yn fywiog, a dyfarnwyd gwobr o un gini i Miss Jemima Hughes am ganu Bedd fy ghllliad" Yn y gystadleuaeth mewn chwareu ar y crwth, uu ymgeisydd a Ü iaefh yn mlaen, ond nid oedd ei Berfformiad n deilwng o grwth ytplenydd a gynygiodd MrJarret Roberts yn vrobr, ac ar gymhelliad Mr Jenkins, addawodd y pwyllgor fod i'r dyn ieuanc gael ei wobrwyo mewn rhyw fodd arall, er cefnogi ymarferiad ag offerynau taut. Wedi i Miss Williams ganu unawd, dat- ganoddMiss Griffith, Mr Davies, a Mr Jenkins, driawd yn gampus, a chafwyd perfformiad gwefr- eiddiol gan Seindorf Bres Nautllo. Enynodd y chwareuad gymaint o edmygedd y llvwydd anrhydeddus fel ag i ddiolch i'r aelodau yn gy- hoeddus, ac addaw cyfranu dw" gini at bwrcasu cerdoorineth. "Gwyn ei byd," meddai, "na bu- asaj seindorf cyffelybynsir v.drionydd." Cafwyd oystadleuaeth ddyddorol mewn (ltganu unawd ar yr olwg gyntaf, adyfarnw d J. W. Jones, Llan- llyfni yn deilwng o go ou o wobr, a chafodd y buddugwr ar yr unawd i ,101:Io[ haner gini. Rhoddwr y gwobrau ydoedd y lly wydd. Gwalch- mai a ddarllenodd ei feirniaJaeth ar yr englyn ilr Anrhydeddus C. H. Wynn, ac ir yr hira thoddaid i Eisteddfod Penygroes. Mr U. B. Jones, Board- school, Bettws Garmon, oedd yr englyn- wr goreu, a dyfarnwyd y wobr am yr hir a thodd- aid i Mr David Thomas, Penygroes. Wele'r englyn buddugol i'r Ilywyd, I: Boneddwr, Ilywiwr llawen,—goludog, Hael ydyw at angen Areithiwi uwch gwyr Atiica A d,1wn y byd yn ei ben. Datganwyd unawdau a darnnu yn ystod y gwedd- ill o'r eyfarfod gan y Llew, Mr Daviea, Mr Jeu- kins, Mrs Edwards, Miss Griffith, a'r cor, a chaf- wyd hefyd berfformiadau gan y seindorf. Cyfeil- ydd yr Eisteddfod ydoedd Mr J. Williams, Maej, Caernarfon. Terfynodd y gweithrediadau yn brydlawn, ac yr oedd yr holl drefniadau yn gyfryw fel na ddigwyddodd yr anhap leiaf. 

Cyfeiriadau

  1. e.e. Y Gwladgarwr, 11.3.1881, t.5
  2. Y Genedl Gymreig,17.4.1879, t.6