Tafarn y Stag, Pen-y-groes

Roedd Tafarn y Stag's Head ar brif stryd Pen-y-groes, wrth yr hen groesffordd lle'r oedd Banc y Midland. Roedd yn hen dafarn a wasanaethai fel man gorffwys a newid ceffylau ar y ffordd rhwng Caernarfon a Phorthmadog. Dyma hyn a ddywaid Owen Owen, Cartrefle, Tan'rallt am y lle:
Lle pwysig yn hanes Pen-y-groes oedd y Stag's Head Inn. Roedd pumb o weision yno, a Huw Roberts, y ddau fab ar y fferm, a dwy neu dair o forwynion bob amser. Pump o Borthmyn bron bob amser o gwmpas y ty. A phob cerbyd yn aros am yr Inn i gael llith i'r cyffylau, a phob ceffyl yn aros yn yr Inn i gael llith i'r ceffylau, a Coach Daniel, oedd yn rhedeg o Gaernarfon i Porthmadog.
Y tafarnwr ym 1828 oedd dyn o'r enw Price Griffith, ac roedd o'n cynnig man i Helfa Pen-y-groes gwrdd, yn ôl hysbyseb yn y papur lleol. Er mai "Penygroes Hunt" yw pennawd yr hysbyseb, diddorol yw nodi'r "Llanllyfni 7th. Jan 1828" fel dyddiad y cyhoeddiad.[1]
O 1828, roedd adeilad Rheilffordd Nantlle gerllaw, a chredir i deithwyr ddefnyddio'r dafarn wrth ddisgwyl am drên. Mae sôn am i Samuel Holland, perchennog chwareli o Flaenau Ffestiniog, wneud hynny tua 1830.[2] Dyna'r cyfiawnhad, mae'n debyg, i'r perchnogion presennol, Cwmni Siop Griffiths Cyf., alw eu caffi "Yr Orsaf".
Credir mai enw arall ar y dafarn oedd Tafarn Pen-y-groes - hynny'n ddigon naturiol pan nad oedd y pentref wedi ymffurfio a dim tafarn arall yn y cyffiniau agos. Os mai'r ddamcaniaeth hon yn gywir, gellir cymryd mai manylion am yr "Inn Penygroes" a restrir yn nogfen y Cyfrifiad ar gyfer 1841 yw'r manylion am Dafarn y Stag. Os felly, gellir dweud mai Robert Hughes a'i wraig Margaret, y ddau'n 40 oed, oedd yn cadw'r gwesty ac yn ffarmio'r fferm oedd yn gysylltiedig â'r lle. Roedd ganddynt dair o ferched a dau fab.[3]
Mewn adroddiad papur newydd am gyfarfod blynyddol Llys Trwyddedu ardal Caernarfon ym 1865 nodwyd mai Robert Hughes oedd y tafarnwr.[4]
Yn ôl y sôn yr oedd naw tafarn ym Mhen-y-groes ar un adeg yn y 19g.[5]
Daeth y dafarn wedyn yn siop nwyddau haearn, sef Siop Griffiths.