William Evans (Eos Eifion)

Oddi ar Cof y Cwmwd
(Ailgyfeiriad o Eos Eifion)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Cerddor a bardd amlwg oedd William Evans (Eos Eifion) (1843-1903), oedd yn arwain Seindorf Dulyn (Seindorf Nebo), ac am gyfnod Seindorf Llyfnwy (Llanllyfni). I'w gydnabod, adwaenid ef fel Wil Ifan y Wig. Dywedid ei fod yn chwarelwr, canwr a cherddor medrus.

Yn ôl Cybi, y bardd a'r casglwr hynod o Langybi yn Eifionydd, roedd yr Eos hefyd yn fardd lled hysbys. Pan fu farw'r gantores boblogaidd honno, Mair Alaw, mam y dihafal Frodyr Francis o Ddyffryn Nantlle, ym 1881, cyfansoddodd Eos Eifion ddau englyn er cof amdani :

Lle gwelir drylliog wylaw - yw Arfon;
Ni dderfydd y cwynaw;
Adwyth i'n bron, daeth ein braw
Ym marwolaeth Mair Alaw."
Cur a ddyry, cerddoriaeth - bob un fu'n
Bennaf oll drwy'r dalaeth!
Cadd ergyd drom, siom a saeth,
Mair Alaw mewn marwolaeth." [1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Geraint Jones, Cyrn y Diafol, (2004) tt.81, 183