Clynnog Fawr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Twrog (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
|||
Llinell 16: | Llinell 16: | ||
====Ffynnon Beuno==== | ====Ffynnon Beuno==== | ||
Mae'r ffynnon yn heneb gofrestredig ac adeilad Gradd II* rhestredig, cafodd ei restru ar 29 Mai 1968. Mae'n ffynnon sanctaidd ganoloesol, a chafodd llogeiliau eu hychwanegu yn ddiweddarach yn yr 18fed ganrif; mae'r gweddill yn debygol o fod o'r 15fed ganrif pan gafodd eglwys Sant Beuno ei hailadeiladu. Mae'r ffynnon yn fasn garreg, sgwâr, uchder o 6tr. Mae'r dŵr tua 350mm dyfn. Mae yna feinciau ar ddwy ochr y waliau. Uwchben y | Mae'r ffynnon yn heneb gofrestredig ac adeilad Gradd II* rhestredig, cafodd ei restru ar 29 Mai 1968. Mae'n ffynnon sanctaidd ganoloesol, a chafodd llogeiliau eu hychwanegu yn ddiweddarach yn yr 18fed ganrif; mae'r gweddill yn debygol o fod o'r 15fed ganrif pan gafodd eglwys Sant Beuno ei hailadeiladu. Mae'r ffynnon yn fasn garreg, sgwâr, uchder o 6tr. Mae'r dŵr tua 350mm dyfn. Mae yna feinciau ar ddwy ochr y waliau. Uwchben y meinciau, mae yna 3 agen sgwâr yn y waliau, gelwir yn ''"ledged recesses"'', efallai ar gyfer dillad a meddiannau'r ymdrochwr.<ref>http://www.coflein.gov.uk/en/site/32193/details/ffynnon-beuno.</ref> | ||
Yn Mai 2010, dinistriodd fandaliaid y ffynnon, cafodd cerrig eu rhwygo o'r.<ref>http://www.dailypost.co.uk/news/local-news/fury-historic-clynnog-well-vandalised-2756200].</ref> | Yn Mai 2010, dinistriodd fandaliaid y ffynnon, cafodd cerrig eu rhwygo o sylfaen y ffynnon a'u taflu mewn i'r dŵr. Ar ôl hynny, cafodd olion y ffynnon ei gloi i atal ymwelwyr oherwydd nad oedd yr adeilad yn stabl. Yn dilyn y fandaliaeth, gosodwyd rheiliau haearn modern i atal mynediad. <ref>http://www.dailypost.co.uk/news/local-news/fury-historic-clynnog-well-vandalised-2756200].</ref> Nawr, mae'n edrych yn lân, daclus a gynhelir, mae'r rheiliau haearn modern a oedd unwaith yn amgylchynu'r llwybr wedi cael eu tynnu, sy'n caniatau mynedfa i'r ffynnon. | ||
Cafodd y ffynnon ei ddefnyddio mor ddiweddar a'r 18fed ganrif hwyr. | |||
Cysegru'r ffynnon i | |||
==Tai a phobl nodedig== | ==Tai a phobl nodedig== |
Fersiwn yn ôl 14:43, 20 Ionawr 2018
Clynnog Fawr yw plwyf mwyaf Uwchgwyrfai o ran arwynebedd. Enw llawn y plwyf yw "Clynnog Fawr yn Arfon". Ystyr "Clynnog" yw man lle mae coed celyn yn tyfu. Yn wir, ceir enghreifftiau o'r enw Y Gelynnog mewn dogfennau cynnar.
Yn ogystal â phentref Clynnog Fawr ei hun,ble mae'r eglwys ac nid nepell o'r môr, mae'r plwyf yn cynnwys y pentrefi neu'r treflannau canlynol: Capel Uchaf, Tai'n Lôn, Pontlyfni, Brynaerau, Aberdesach ac, ym mhenucha'r plwyf, Pant-glas, yn ogystal ag ardal fwy gwasgaredig Bwchderwin.
Ystyr yr enw yw 'rhywle celynnog' sef mangre lle ceir coed celyn yn tyfu. Mae'n debygol y defnyddir yr ansoddair 'mawr' ar ôl yr enw i'w wahanaethu oddi wrth Glynnog Fechan ym mhlwyf Llangeinwen, sir Fôn, lle oedd gan y sefydliad crefyddol (neu 'glas') a sefydlwyd gan Beuno diroedd - neu efallai oherwydd pwysigrwydd y man i'r Eglwys, ac oherwydd maint yr eglwys ei hun.
Ffiniau a thirwedd
Mae i'r de o blwyfi Llandwrog a Llanllyfni (gan godi dros Fynydd Graig Goch hyd at gopa Craig Cwm Dulyn), ac i'r gogledd o blwyf Llanaelhaearn, yn ogystal â ffinio ar nifer o blwyfi Eifionydd, hefyd ar ei ffin ddeheuol.
Yr eglwys a'i sant
Credir i Beuno Sant sefydlu 'clas' neu fynachlog agored yn unol ag arferion yr eglwys Geltaidd, a hynny yn ystod y 7g, o bosibl rhwng 620 a 633. Dyma un o brif gyrchfannau i bererinion ar eu taith i Ynys Enlli, a daeth cyfoeth yn sgil yr ymwelwyr defosiynol - dichon mai hen flwch derw a elwir yn gyff Beuno sydd yn dal yn yr eglwys oedd y blwch offrwm a ddefnyddid i hel cyfraniadau'r pererinion. Gyda chyfoeth o'r fath, codwyd eglwys newydd ar safle hen eglwys Beuno rhwng 1480 a 1500 - ond ar ôl diddymiad y mynachlogydd a sefydliadau pererindota yn y 1530au, dim ond fel eglwys y plwyf y defnyddid - ac y defnyddir - yr adeilad.
Mae'r eglwys wedi ei chysegru yn enw Beuno Sant, ei sylfaenydd tybiedig, sydd â sant sydd yn gysylltiedig a sawl eglwys arall yng Nghymru, gan gynnwys eglwysi Carnguwch a Phistyll sy'n ffinio ar Uwchgwyrfai, ac eglwys Aberffraw ar draws Bae Caernarfon o Glynnog Fawr ymysg eraill.
Ffynnon Beuno
Mae'r ffynnon yn heneb gofrestredig ac adeilad Gradd II* rhestredig, cafodd ei restru ar 29 Mai 1968. Mae'n ffynnon sanctaidd ganoloesol, a chafodd llogeiliau eu hychwanegu yn ddiweddarach yn yr 18fed ganrif; mae'r gweddill yn debygol o fod o'r 15fed ganrif pan gafodd eglwys Sant Beuno ei hailadeiladu. Mae'r ffynnon yn fasn garreg, sgwâr, uchder o 6tr. Mae'r dŵr tua 350mm dyfn. Mae yna feinciau ar ddwy ochr y waliau. Uwchben y meinciau, mae yna 3 agen sgwâr yn y waliau, gelwir yn "ledged recesses", efallai ar gyfer dillad a meddiannau'r ymdrochwr.[1] Yn Mai 2010, dinistriodd fandaliaid y ffynnon, cafodd cerrig eu rhwygo o sylfaen y ffynnon a'u taflu mewn i'r dŵr. Ar ôl hynny, cafodd olion y ffynnon ei gloi i atal ymwelwyr oherwydd nad oedd yr adeilad yn stabl. Yn dilyn y fandaliaeth, gosodwyd rheiliau haearn modern i atal mynediad. [2] Nawr, mae'n edrych yn lân, daclus a gynhelir, mae'r rheiliau haearn modern a oedd unwaith yn amgylchynu'r llwybr wedi cael eu tynnu, sy'n caniatau mynedfa i'r ffynnon. Cafodd y ffynnon ei ddefnyddio mor ddiweddar a'r 18fed ganrif hwyr. Cysegru'r ffynnon i
Tai a phobl nodedig
Prif dŷ'r plwyf yn yr amser a fu,efallai, oedd Lleuar-fawr. Roedd Mynachdy Gwyn ym mhen ucha'r plwyf, cartref teulu Meredydd neu Feredith hefyd yn fangre o ddylanwad.
Ymysg y rhai a hanai o'r plwyf neu a drigai ynddo oedd:
- Morys Clynnog
- Sant John Jones
- Sion Gwynedd (John Gwyneth), cerddor
- Ebenezer Thomas (Eben Fardd), ysgolfeistr, bardd a llenor
- Edgar Christian, anturiaethwr a dyddiadurwr
- Sion Robert Lewis y seryddwr a'r almanaciwr
- Robert Roberts y "seraff bregethwr"
- Syr Ifor Williams, ysgolhaig
- R. Dewi Williams, prifathro Ysgol Ragbaratoawl y Methodistiaid Calfinaidd - "Ysgol Eben Fardd" - a llenor.
- Hywel Roberts (Hywel Tudur), bardd, pregethwr a dyfeisydd
Y pentref
Safai'r pentref o bobtu'r lôn bost rhwng Caernarfon a Phwllheli - ond, erbyn hyn, mae ffordd osgoi wedi mynd â'r traffig o ganol y pentref.
Bu nifer o dafarnau a siopau a gweithdai crefftwyr, yn cynnwys gefail, yma dros y blynyddoedd, ond caewyd y gwesty olaf, Y Beuno, yn nechrau'r 2010au a'i osod yn lle gwyliau hunan ddarpar. Roedd swyddfa'r post a oedd hefyd yn siop wedi cau erbyn hynny, ond mae siop arall wedi agor yn y garej ar gyrion y pentref. Ar un cyfnod caed llyfrgell bentrefol nad oedd yn perthyn i lyfrgell y sir yn yr Ysgoldy ble mae mae Canolfan Hanes Uwchgwyrfai wedi ei sefydlu - yn hen Ysgol Ragbaratoawl Clynnog, sef ysgol y Methodistiaid Calfinaidd a gychwynnodd ddarpar weinidogion ar eu gyrfa o astudio am y weinidogaeth. Fe'i caewyd ym 1929 a'i throsglwyddo i'r Rhyl.
Agorwyd Neuadd y Pentref yn Ebrill 1957
Prif nodwedd y pentref yw'r eglwys; hefyd ceir Ffynnon Beuno ychydig i'r de ar ochr yr hen lôn bost cyn cyrraedd Maes Glas; a Chromlech Bachwen.